Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023

Diweddarwyd y dudalen: 29/12/2023

Ar ein tudalen Canlyniadau Cyffredinol gallwch weld sut wnaethoch ymateb i gwestiynau'r arolwg a sut mae eich ymatebion yn cymharu â'r llynedd.

Mae'r dudalen hon yn edrych ar yr union sylwadau wnaethoch wrth gwblhau'r arolwg. Rydym wedi defnyddio'r sylwadau hynny i helpu i weld beth yn fwy y gallwn ei wneud i wella'ch profiad o weithio i ni.


Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac y byddech yn ein hargymell fel cyflogwr. Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch hefyd fod cydraddoldeb yn y gweithle yn cael ei gefnogi, gan ganiatáu i chi fod yn chi eich hun a siarad yn agored.

Dywedodd llawer ohonoch eich bod yn teimlo bod eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi a bod eich llesiant yn bwysig i'r Cyngor. A dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i wneud awgrymiadau ac i herio'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud. Er bod y mwyafrif ohonoch a ymatebodd yn cytuno bod y Cyngor yn gwrando ar eich barn a bod eich barn yn cael ei defnyddio i wella pethau, y datganiad hwn gafodd y sgôr ail isaf ar y cyd o blith yr holl ddatganiadau.

Rydym am adeiladu ar hyn, felly o nawr ymlaen byddwn yn:

  • Cefnogi ein gwasanaethau i wneud gwell defnydd o dechnoleg, fel ein bod yn lleihau gwastraff ac yn rhyddhau staff i wneud pethau gwell.
  • Defnyddio ein rhaglen drawsnewid i wrando ar staff am syniadau sut i wella ac i ymchwilio ymhellach i gyfleoedd i weithio mewn modd mwy clyfar
  • Hyrwyddo'n well y cyfleoedd ehangach sydd ar gael i bobl gyfrannu a dweud eu dweud.
  • Parhau i edrych ar fentrau newydd sy'n cefnogi eich llesiant corfforol, meddyliol ac ariannol.
  • Cynyddu'r buddion a'r gostyngiadau gallwch eu cael drwy ein Cynllun Buddion Staff.
  • Ailffocysu ein rhaglenni dysgu a datblygu i sicrhau bod ein harweinwyr a'n rheolwyr yn gallu datblygu eu sgiliau i arwain a rheoli pobl mewn ffordd gynhwysol.
  • Parhau i weithio gyda gwasanaethau i nodi a rheoli risgiau fel bod gennym amgylcheddau gwaith diogel ac iach.

 

Mae cyfathrebu da, mewn sefydliad mor fawr ac amrywiol â Chyngor Sir Caerfyrddin, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i deimlo'n rhan o bethau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran rhannu gwybodaeth ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn agored ac yn onest gyda'n gilydd.

Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn gwybod beth oedd yn digwydd yn eich tîm neu leoliad gwaith, ond roedd llai o bobl yn teimlo eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd ar draws y sefydliad, ac er i hyn gael sgôr gadarnhaol, y datganiad hwn sgoriodd isaf yn gyffredinol.

Rydym yn deall y gallwn wneud mwy, felly o nawr ymlaen byddwn yn:

  • Parhau i ehangu a hyrwyddo ein rhwydweithiau staff sy'n gyfrwng ar gyfer rhannu gwybodaeth a chymorth cymheiriaid.
  • Gwneud yn siŵr bod staff yn gallu cyfarfod a sgwrsio gyda'r Prif Weithredwr, drwy ein Fforwm Staff newydd
  • Cyflwyno ein rhaglen o sioeau teithiol staff i ehangu'r cyfleoedd sydd gennych i gael gafael ar wybodaeth am weithio i ni.
  • Sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i'n rheolwyr yn cynnwys gwella eu sgiliau cyfathrebu.
  • Parhau i archwilio gwahanol ffyrdd o gyfleu negeseuon i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr holl staff mewn ffordd amserol a chyson
  • Creu strategaeth gyfathrebu er mwyn i'r Cyngor sicrhau bod ein negeseuon wedi'u cydlynu a'n bod yn gallu rhannu arfer da o ran cyfathrebu.

Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn gallu cael cyfleoedd dysgu yn eich dewis iaith, ac, o ran datblygu sgiliau newydd, dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i ddysgu a thyfu a'ch bod wedi cael y cyfle i wneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, o edrych ar rai o'r ymatebion, mae'n amlwg nad yw hyn yn wir i bawb, felly o nawr ymlaen byddwn yn:

  • Cyhoeddi ein polisi Dysgu a Datblygu diwygiedig a fydd yn sicrhau mynediad teg i bawb i gyfleoedd datblygu.
  • Lansio ein system rheoli dysgu newydd sy'n caniatáu i bawb nodi ac olrhain eu datblygiad eu hunain.
  • Cyflwyno llwybrau dysgu a datblygu ar gyfer ein rheolwyr ac arweinwyr, fel bod ganddynt y sgiliau a'r wybodaeth i reoli a datblygu eu pobl yn effeithiol.
  • Gwneud yn siŵr bod ein rheolwyr yn deall yr hyn a ddisgwylir o'u rôl i sicrhau bod staff yn cael eu rheoli a'u harwain yn dda e.e. cynnal arfarniadau, rheoli presenoldeb yn effeithiol.
  • Atgyfnerthu dysgu Iechyd a Diogelwch yn y System Rheoli Dysgu newydd, er mwyn gwella cydymffurfiaeth a monitro.
  • Cwblhau archwiliad o sgiliau digidol a chyflwyno'r fframwaith sgiliau digidol sy'n sicrhau bod gennych chi i gyd y sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith a chael gwybodaeth a chyfleoedd dysgu.
  • Parhau i ddarparu cyfleoedd datblygu i staff sy'n gwirfoddoli i fod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac yn Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant.

Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg fod eich swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion y Cyngor, eich bod yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonoch chi, beth oedd eich rheolwr yn ei ddisgwyl gennych chi, a'r hyn y gallech chi ei ddisgwyl gan eich rheolwr.

Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch hefyd fod gennych y sgiliau/offer cywir i wneud eich gwaith a'ch bod yn gallu perfformio hyd eithaf eich gallu bob dydd. Dywedodd llawer ohonoch hefyd fod rhywun wedi siarad â chi am eich cynnydd yn ystod y 12 mis diwethaf. Fodd bynnag, er bod y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd yn cytuno eu bod wedi derbyn diolch neu gydnabyddiaeth gan eraill am wneud gwaith da, y datganiad hwn gafodd y sgôr ail isaf ar y cyd.

Rydym yn gwybod o'r adborth hwn nad yw hyn yn wir i bawb, felly o nawr ymlaen byddwn yn:

  • Gweithio gyda'r Fforwm Penaethiaid Gwasanaeth i gwblhau datblygiad fframwaith gwobrwyo a chydnabod sy'n sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith maent yn ei wneud.
  • Cyflwyno ein "Fframwaith Ymddygiad" newydd gan sicrhau bod pawb yn deall yr hyn a ddisgwylir ohonynt yn unol â'n Gwerthoedd Craidd.
  • Adolygu ein fframwaith arfarnu i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad am eu perfformiad yn ogystal â nodi unrhyw anghenion dysgu a datblygu.
  • Cyflwyno dull monitro i sicrhau bod y drafodaeth bwysig hon, rhwng rheolwr ac aelod unigol o'r tîm, yn digwydd yn gyson ar draws yr holl wasanaethau.