Diwylliant y Gweithlu

Diweddarwyd y dudalen: 12/05/2025

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym am eich amgylchedd gwaith o ran bod yn barchus, yn gynhwysol ac yn amrywiol?

 

• Canfyddiad na fyddai unrhyw ganlyniadau, ofn ôl-effeithiau, neu gred na fyddai unrhyw beth yn cael ei wneud. 

• Roedd ymddygiad amhriodol yn aml yn cael ei normaleiddio neu’n cael ei weld fel rhan o ddiwylliant y gweithle, gyda phobl yn chwerthin ar ben jôcs a sylwadau neu’n eu diystyru. 

• Roedd pryderon ynglŷn â rhoi gwybod am ymddygiad sy'n ymwneud â staff uwch neu aelodau etholedig, oherwydd yr anghydbwysedd pŵer a'r ofn o gael eu diswyddo neu o beidio â chael eu cymryd o ddifrif. 

• Disgrifiwyd achosion o ymddygiad amhriodol fel rhai hanesyddol, a ddigwyddodd flynyddoedd lawer yn ôl, ac yn aml yn cael eu hystyried fel rhan o ddiwylliant y gweithle yn y gorffennol. 

• Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod wedi ymdrin â'r sefyllfa eu hunain, naill ai trwy wynebu'r unigolyn neu trwy ddewis peidio â rhoi gwybod am y digwyddiad oherwydd amrywiol resymau personol, gan gynnwys teimlo nad eu lle nhw oedd gwneud. 

• Roedd rhai sylwadau am yr anhawster i benderfynu a oedd rhai ymddygiadau yn cyfri fel aflonyddu, yn enwedig pan oedd y dioddefwr fel pe bai’n iawn am y peth.

 

• Roedd llawer o achosion yn hanesyddol ac wedi cael eu trin yn bersonol heb roi gwybod amdanynt, yn aml oherwydd ansicrwydd neu arwyddocâd nad oeddent o bwys. 

• Roedd rhai yn delio â'r digwyddiad trwy herio'r ymddygiad / geiriau a ddefnyddiwyd. 

• Roedd rhai yn cael trafferth diffinio aflonyddu, yn enwedig pan oedd y dioddefwr yn ei gymryd yn ysgafn neu'n ymateb mewn modd tebyg. 

• Roedd ymddygiad amhriodol gan gleientiaid, yn enwedig y rhai â namau gwybyddol, yn aml yn cael ei ystyried yn rhywbeth yr oedd modd ei reoli heb gymryd camau pellach. 

• Hyder yn ymateb y sefydliad.