Prosesau Cyfredol

Diweddarwyd y dudalen: 12/05/2025

Yr hyn yr ydych wedi'i ddweud wrthym am ein polisïau a'n prosesau presennol mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

 

• Siarad â'r rheolwr, uwch-reolwr, neu dîm Adnoddau Dynol. 
• Siarad â'r Pennaeth neu Gadeirydd y Llywodraethwyr.
• Siarad â chynrychiolydd yr Undeb Llafur.
• Mae rhai yn teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad ag aelodau staff benywaidd.
• Codi pryderon yn ddienw, yn ysgrifenedig neu'n electronig.
• Siarad â'r tramgwyddwr yn uniongyrchol neu ymdrin â'r mater eu hunain yn gyntaf. 
• Ceisio cefnogaeth gan gydweithwyr, ffrindiau, neu dimau penodol dibynadwy fel tîm arweinyddiaeth neu dîm diogelu'r person. 
• Mae'r ffordd o weithredu yn dibynnu ar y sefyllfa a'r berthynas â'r partïon dan sylw.
• Pryderon a fynegwyd am faterion yn cael eu hanwybyddu.