Arolwg Ymgysylltu â Staff 2025 - Canlyniadau Cyffredinol

Diweddarwyd y dudalen: 20/10/2025

Cynhaliwyd yr arolwg staff gan y Cyngor rhwng 9 Mehefin a 18 Gorffennaf 2025. Mae'r arolwg blynyddol hwn wedi'i gynllunio i fesur faint o gysylltiad sydd gan ein gweithwyr â'u gwaith a'u gweithle. Drwy wahodd ein gweithwyr i ateb cwestiynau dros y cyfnod hwn, gallwn gasglu adborth gwerthfawr am eu boddhad o'r gwaith, diwylliant y gweithle a meysydd i'w gwella. Mae'r canlyniadau yn ein helpu i ddeall sut mae gweithwyr yn teimlo am weithio i'r Cyngor, gan nodi beth sy'n gweithio'n dda, a beth y mae angen iddo newid, fel y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau sy'n cefnogi ac yn gwella'r amgylchedd gwaith.

 

 

Eleni, cymerodd 2,096 ohonoch yr amser i gwblhau'r arolwg a dweud eich dweud. Mae hyn yn cyfateb i 25% o weithlu'r Cyngor ac mae'n gynnydd o 450 o bobl o'i gymharu ag arolwg y llynedd.

Mae'r graff isod yn dangos faint o bobl sydd wedi cymryd yr amser i gymryd rhan yn yr arolwg dros y pedair blynedd diwethaf – ac mae'n braf gweld bod cynnydd wedi bod mewn cyfranogiad dros y tair blynedd diwethaf.

  

 

 

Gofynnom ni i chi ymateb i gyfres o ddatganiadau drwy nodi i ba raddau rydych chi’n cytuno ar raddfa o Cytuno'n Gryf i Anghytuno'n Gryf.

Isod, fe welwch grynodeb o'r canlyniadau cyffredinol ar gyfer 2025 ynghyd â chymhariaeth â blynyddoedd blaenorol yr arolwg. Mae'r canlyniadau eleni hefyd wedi'u rhestru mewn trefn i nodi'n glir ein meysydd cryfder mwyaf yn ogystal â'r rhai y mae angen eu datblygu ymhellach.

Rydym ni wedi defnyddio system cod lliwiau i'w gwneud hi'n hawdd gweld sut y gwnaethom ni:

  • Gwyrdd Tywyll: Cytuno'n gryf
  • Gwyrdd Golau: Cytuno
  • Ambr: Niwtral / Cytuno rhywfaint
  • Coch: Anghytuno
  • Coch Tywyll: Anghytuno’n gryf

  

Datganiad

2025

2024

2023

2022

2025

 Raddfa

Gweithio i ni

 

 

 

 

 

Rwyf yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin

 

 

 

 

 11

Byddwn yn hapus i argymell fy nghyflogwr i ffrind / aelod o'r teulu fel lle i weithio

 

 

 

 

 10

Fel y mae ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu aros gyda fy nghyflogwr dros y 12 mis nesaf*

 

 

 

 

 5

Mae yna bobl yn y gwaith y gallaf siarad â nhw'n agored

 

 

 

 

 6

Gallaf rannu materion gwaith gyda fy nghydweithwyr / aelodau fy nhîm*

 

 

 

 

 4

Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi am fy nghyfraniadau yn y gwaith*

 

 

 

 

 25

Rwy’n cael fy annog I wneud awgrymiadau a herio’r ffordd y caiff pethau eu gwneud

 

 

 

 

 26

Mae fy syniadau a’m barn yn cael eu clywed a’u defnyddio i wella’r ffordd y caiff pethau eu gwneud

 

 

 

 

 31

Rwy'n gallu gwneud gwelliannau yn fy maes gwaith*

 

 

 

 

 27

Teimlaf fod fy nghyflogwr yn cefnogi cydraddoldeb yn y gweithle 

 

 

 

 

 12

Gallaf fod yn fi fy hun yn y gwaith

 

 

 

 

 13

Rwy'n ymddiried yn fy nghydweithwyr a fy rheolwyr i weithredu ag uniondeb*

 

 

 

 

 14

Rwy'n teimlo'n gyfforddus yn siarad yn agored am faterion sy'n gysylltiedig â gwaith heb orfod ofni canlyniadau

 

 

 

 

 23

Llesiant

 

 

 

 

 

 Mae fy llesiant yn bwysig i'm cyflogwr*

 

 

 

 

 22

Gallaf gydbwyso gwaith a bywyd personol yn llwyddiannus*

 

 

 

 

 21

Rwy'n teimlo'n dda am fy iechyd corfforol*

 

 

 

 

 28

Rwy'n teimlo'n dda am fy iechyd meddwl*

 

 

 

 

 29

Rwy'n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar gyfer y fy iechyd a'm llesiant*

 

 

 

 

 15

Mae fy rheolwr yn rhagweithiol wrth gefnogi a blaenoriaethu llesiant*

 

 

 

 

 20

Cyfathrebu

 

 

 

 

 

Rwy’n gwybod beth sy’n digwydd yn fy nhim/ lleoliad gwaith

 

 

 

 

 19

Rwy'n gwybod beth sy’n digwydd ar draws y sefydliad

 

 

 

 

 32

Dysgu a Datblygu

 

 

 

 

 

Rwy’n cael fy annog i ddysgu a datblygu yn fy rol

 

 

 

 

 16

Rwyf wedi cael cyfleoedd i ddysgu a thyfu yn y 12 mis diwethaf

 

 

 

 

 17

Gallaf fanteisio ar gyfleoedd dysgu yn fy newis iaith

 

 

 

 

 3

Disgwyliadau a Chydnabyddiaeth

 

 

 

 

 

Mae fy swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion y cyngor

 

 

 

 

 8

Rwy'n gwybod beth a ddisgwylir gennyf yn y gwaith

 

 

 

 

 1

Rwy'n gwybod beth y mae fy rheolwr yn ei ddisgwyl gennyf fi

 

 

 

 

 2

Rwy’n glir ynghylch yr hyn y gallaf ei ddisgwyl gan fy rheolwr

 

 

 

 

 9

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae rhywun wedi siarad a mi am fy nghynnydd

 

 

 

 

 24

Mae gennyf y sgiliau a'r offer cywir i wneud fy ngwaith

 

 

 

 

 7

Teimlaf y gallaf berfformio hyd eithaf fy ngallu bob dydd

 

 

 

 

 18

Rwy’n cael cydnabyddiaeth neu diolch yn rhoelaidd gan eraill am wenud gwaith da

 

 

 

 

 30

 

* Datganiad newydd ar gyfer 2025

Ynghyd â graddio'r datganiadau hyn, fe wnaethoch chi rannu adborth defnyddiol iawn am eich profiadau.
 
Rydym ni nawr yn mynd drwy eich sylwadau ac, unwaith y byddwn ni wedi gorffen, byddwn ni'n rhannu'r canlyniadau ac yn rhoi gwybod i chi pa gamau y byddwn ni'n eu cymryd. Byddwn ni'n rhoi unrhyw ddiweddariadau pellach i chi.