Pwy yw Buddsoddwyr mewn Pobl?
Diweddarwyd y dudalen: 15/10/2024
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn asesu sut yr ydym yn perfformio yn erbyn y fframwaith 'Rydym yn buddsoddi mewn pobl. Mae'r fframwaith hwn yn safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae'n mesur sut rydym yn arwain, cefnogi a datblygu ein staff i 'wneud i weithio'n well' i bawb.
Rydym yn defnyddio'r fframwaith i'n helpu i wella ein diwylliant gan ystyried ymgysylltu â gweithwyr, cyfathrebu ac arferion gwaith.
Rydym wedi bod yn Fuddsoddwr mewn Pobl ers 2009 ac mae wedi bod yn offeryn hanfodol i'n helpu i fesur effaith buddsoddi yn ein pobl.
Bob tair blynedd rydym yn gwahodd staff i ddweud eu dweud ar sut maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd, yr hyn sy'n gweithio'n dda a meysydd y gallwn eu gwella.
Gwnaethom gynnal ein hadolygiad diwethaf ym mis Medi/Hydref 2022.
I gael gwybod rhagor am Fuddsoddwyr mewn Pobl, cliciwch ar y ddolen https://www.investorsinpeople.com/accreditations/we-invest-in-people/
Cafodd yr holl staff wahoddiad ym mis Medi 2022 gan Fuddsoddwyr mewn Pobl i lenwi holiadur annibynnol dienw. Gwnaethom ddefnyddio'r wybodaeth o'r holiadur i gael dealltwriaeth ddyfnach o unrhyw faterion a godwyd yn ein harolwg staff a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 i'n helpu i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir. Cafwyd 966 o ymatebion.
Yn dilyn yr holiadur, ym mis Hydref 2022, cynhaliwyd trafodaethau grwpiau ffocws a chyfweliadau un i un gyda staff o bob rhan o'r cyngor. Cafodd y bobl a gafodd eu cyfweld eu dewis i gynrychioli ein gweithlu cyfan. Gwnaethom gynnal dros 130 o gyfweliadau.
Cynhaliwyd y cyfweliadau gan Jenny Trickett, sydd wedi bod yn Ymgynghorydd Allanol i ni ers sawl blwyddyn yn ogystal â'n Hyrwyddwyr Buddsoddwyr mewn Pobl ein hunain, staff mewnol sydd wedi'u datblygu i ddefnyddio'r Fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl i ofyn y cwestiynau cywir a chasglu eich adborth.
Rydym wedi bod yn datblygu staff i fod yn Hyrwyddwyr Buddsoddwyr mewn Pobl ers dros 10 mlynedd. Mae hyn wedi rhoi'r cyfle i staff gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi ein hasesiadau Buddsoddwyr mewn Pobl. Un o'n Hyrwyddwyr Buddsoddwyr mewn Pobl mwyaf newydd yw Lyndsay McNicholl sy'n gweithio yn yr Adran Cymunedau fel Arweinydd Datblygu Gwasanaethau.
Mae Lyndsay yn esbonio isod pam ei bod hi eisiau bod yn Hyrwyddwr Buddsoddwyr mewn Pobl a buddion y profiad.
“… Penderfynais i fod yn Hyrwyddwr Buddsoddwyr mewn Pobl oherwydd roeddwn i eisiau gwybod mwy am y fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl, dysgu mwy am y gwahanol adrannau ar draws y Cyngor a chwrdd â phobl newydd ….”
“… yn sgil y cyfle hwn mae gen i well dealltwriaeth o'r gwahanol rolau ar draws y Cyngor, gan wrando ar sut roedd staff yn teimlo'n falch o weithio gyda'u timau i gefnogi ein cwsmeriaid a'n cymunedau yn ogystal â gwrando ar yr heriau y mae staff yn eu hwynebu a lle mae angen i ni wneud gwelliannau…”
“…mae dod yn Hyrwyddwr Buddsoddwyr mewn Pobl wedi fy nghefnogi gyda fy natblygiad proffesiynol fy hun, dysgais sgiliau newydd ynghylch gwrando a chyfweld sydd hefyd wedi fy helpu yn fy ngwaith o ddydd i ddydd. Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o dîm Hyrwyddwyr Buddsoddwyr mewn Pobl, cwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau ar draws y Cyngor a gweld sut mae ein gwerthoedd craidd wedi'u hymgorffori ym mhopeth rydym yn ei wneud bob dydd …”
Y newyddion da oedd ein bod wedi ennill achrediad aur. Mae hyn yn golygu bod 'pobl ac arweinwyr yn weithredol yn gyrru canlyniadau cadarnhaol, gan gymryd perchnogaeth o'r egwyddorion a'r arferion [Buddsoddwyr mewn Pobl]’
Dywedodd Jenny Trickett, sydd wedi bod yn Ymgynghorydd Allanol i ni ers sawl blwyddyn, ei bod wedi gweld …
‘… sefydliad sy'n amlwg yn wahanol – o ganlyniad i ganolbwyntio ar ymddiriedaeth, grymuso, gofalu a rhoi cefnogaeth, buddsoddiad parhaus mewn arferion gorau, gwella rheoli a'r defnydd o ddata’.
Gwelwyd parch at y ddwy ochr ar bob lefel gan groesawu adborth ac awydd i wella trwy fuddsoddi mewn pobl a'u llesiant. Yr hyn oedd yn amlwg oedd bod yna bobl dalentog ar bob lefel o'n sefydliad.
Pan fyddwn ar ein gorau, rydym yn gweithio ar y cyd, yn gwneud gwelliannau gan ddefnyddio ffynonellau mewnol ac allanol ac yn gwneud penderfyniadau.
Roedd hyn yn newyddion gwych, ond nid yw aur yn golygu perffaith, ac rydym bob amser yn edrych i wella. Canfu'r adolygiad mai'r meysydd y mae angen i ni weithio arnynt yw sut rydym yn cydnabod ac yn gwobrwyo pobl yn ogystal â datblygu sgiliau ein harweinwyr. Mae angen i ni barhau i feddwl am sut rydyn ni'n cyfathrebu i sicrhau bod pawb yn cael y negeseuon sydd eu hangen arnyn nhw.
Mae ein hadolygwyr mewnol wedi cyflwyno gwybodaeth i'ch adrannau gan roi mwy o fanylion am yr hyn sy'n digwydd yn eich adran. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r arolwg staff ac mae canlyniadau'r adolygiad wedi bwydo i mewn i'r camau gweithredu a gyhoeddwyd.
Mae adolygiad Buddsoddwyr mewn Pobl wedi rhoi cyfle gwych i ni ddod o hyd i'r straeon y tu ôl i'r ystadegau, sydd wedi rhoi golwg lawn i ni ar sut mae staff yn teimlo a'r hyn y mae angen i ni weithio arno.
Mae Buddsoddi mewn Pobl yn broses barhaus. Bydd gennym 'adolygiad strategol' ddiwedd y flwyddyn pan fydd Ymgynghorydd Allanol yn dod i mewn i sicrhau bod popeth yn dal i fod ar y trywydd iawn.
Bydd ein hadolygiad llawn nesaf yn cael ei gynnal tua diwedd 2024. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gymryd rhan, rhowch wybod i ni trwy blwch post dysgu a datblygu
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff