Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Diweddarwyd y dudalen: 06/11/2024
Mehefin - Awst 2022 gwnaethom ofyn am eich barn ar weithio i'r awdurdod yn ein harolwg Ymgysylltu â Staff.
Bydd eich adborth yn helpu i wella'r hyn a wnawn a monitro'r cynnydd rydym yn ei wneud bob blwyddyn.
Derbyniwyd cyfanswm o 1,733 o ymatebion sef 22% o'r staff.
Gellir dod o hyd i ganfyddiadau a gweithredoedd yr arolwg hwn isod.
Cytunodd y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd yn eu tîm neu eu lleoliad gwaith, ond roedd llai o bobl yn teimlo eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd ar draws y sefydliad. Mae cyfathrebu da, mewn sefydliad mor fawr ac amrywiol â Chyngor Sir Caerfyrddin, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i deimlo'n rhan o bethau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran rhannu gwybodaeth ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn agored ac yn onest gyda'n gilydd.
Rydym yn deall y gallwn wneud mwy, felly eleni byddwn yn gwneud y canlynol:
- Rhannu ac ymateb i'r canlyniadau arolwg hyn mewn modd agored a thryloyw.
- Sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r camau yr ydym yn eu cymryd i roi sylw i'r meysydd y mae angen i ni weithio arnynt.
- Datblygu Strategaeth Cyfathrebu Mewnol a fydd, ymhlith pethau eraill, yn egluro sut y gall pawb gyfrannu at wella cyfathrebu mewnol.
- Sefydlu fforwm staff, a fydd yn cael ei ddefnyddio i wrando ar eich barn am bynciau amrywiol.
- Cyflwyno platfform cyfranogiad staff digidol, gan roi cyfle i bawb gymryd rhan mewn pynciau sy'n bwysig iddynt.
- Lansio'r ail arolwg blynyddol ymgysylltu â gweithwyr, gan ddefnyddio'r canlyniadau i fonitro'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud, a nodi unrhyw feysydd sydd angen rhagor o waith.
- Sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i'n rheolwyr yn cynnwys gwella eu sgiliau cyfathrebu.
- Parhau i archwilio gwahanol ffyrdd o gyfleu negeseuon i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr holl staff mewn ffordd amserol a chyson.
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd eu bod yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac y byddem yn ein hargymell fel cyflogwr. Dywedodd llawer ohonoch hefyd eich bod yn teimlo bod eich llesiant yn bwysig i'r Cyngor, a bod cydraddoldeb yn cael ei gefnogi yn y gweithle, gan ganiatáu i chi fod yn chi'ch hun a siarad yn agored. Hefyd dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i wneud awgrymiadau a herio'r ffordd y caiff pethau eu gwneud; a bod eich barn yn cael ei chlywed a'i defnyddio i wella pethau.
Rydym am adeiladu ar hyn fel bod pawb yn cael yr un profiad. Felly, eleni byddwn yn gwneud y canlynol:
- Parhau i archwilio mentrau newydd sy'n cefnogi eich llesiant corfforol, meddyliol, ac ariannol, yn ogystal ag ehangu'r buddion a'r gostyngiadau y gallwch fanteisio arnynt trwy ein platfform Buddion Staff.
- Cyflwyno ffyrdd a chyfleoedd newydd i chi ddweud eich dweud drwy sefydlu fforwm staff a phlatfform cyfranogiad ar-lein newydd.
- Cynnal ein hail arolwg blynyddol ymgysylltu â gweithwyr a'i ddefnyddio, yn rhannol, i fesur ein cynnydd.
- Byddwn hefyd yn defnyddio'r arolwg i gasglu gwybodaeth yn ddienw a fydd yn ein helpu i ddeall profiadau gwahanol grwpiau o bobl.
- Sicrhau bod ein harweinwyr a'n rheolwyr yn datblygu eu sgiliau rheoli pobl mewn ffordd gynhwysol.
Roedd y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd i'r arolwg yn teimlo bod ganddynt y sgiliau cywir i wneud eu gwaith a dywedodd llawer ohonoch eich bod yn gallu perfformio hyd eithaf eich gallu. Hefyd dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu yn eu dewis iaith.
O ran datblygu sgiliau newydd, dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i ddysgu a thyfu a'ch bod wedi cael y cyfle i wneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, o edrych ar rai o'r ymatebion, mae'n amlwg nad yw hyn yn wir i bawb, felly eleni byddwn yn gwneud y canlynol:
- Cyhoeddi ein polisi Dysgu a Datblygu diwygiedig a fydd yn sicrhau mynediad teg i bawb i gyfleoedd datblygu.
- Adolygu ein proses arfarnu i sicrhau bod eich rheolwyr yn eich helpu i nodi eich anghenion datblygu.
- Cynnal archwiliad o sgiliau digidol pawb a rhoi fframwaith ar waith sy'n sicrhau bod gennych chi i gyd y sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith a chael mynediad at wybodaeth a chyfleoedd dysgu.
- Cyflwyno llwybrau ar gyfer ein rheolwyr, fel bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli a datblygu pobl yn effeithiol.
- Ac yn y tymor hwy byddwn yn cyflwyno system rheoli dysgu sy'n caniatáu i bawb nodi ac olrhain eu datblygiad eu hunain.
Roedd y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd i'r arolwg yn teimlo bod eu swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i'r cyngor, roeddent yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, a'r hyn y gallant ei ddisgwyl gan eu rheolwr. Fodd bynnag, nododd ein hadolygiad Buddsoddwyr Mewn Pobl nad oedd profiad pawb yr un peth, ac nad oedd arfarniadau'n cael eu cynnal mewn modd cyson.
Mae cael arfarniad blynyddol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael cyfle i drafod eu perfformiad yn ogystal â nodi unrhyw anghenion dysgu a datblygu. Felly, byddwn yn adolygu ein proses arfarnu bresennol ac yn rhoi mecanwaith ar waith i sicrhau bod y drafodaeth bwysig hon, rhwng rheolwr ac aelod o'i dîm unigol, yn digwydd yn gyson ar draws yr holl wasanaethau.
Dywedodd llawer ohonoch fod rhywun wedi siarad â chi am eich cynnydd yn ystod y flwyddyn flaenorol a'ch bod yn cael cydnabyddiaeth yn rheolaidd gan eraill am wneud gwaith da. Fodd bynnag, rydym yn gwybod o'n hadolygiad Buddsoddwyr mewn Pobl fod hwn yn faes sydd angen i ni weithio arno, ac nid yw hyn yn wir i bawb, felly eleni byddwn yn edrych ar ein ffyrdd o gydnabod a gwobrwyo pobl.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff