Cyfathrebu
Diweddarwyd y dudalen: 22/08/2024
Mae cyfathrebu da, mewn sefydliad mor fawr ac amrywiol â Chyngor Sir Caerfyrddin, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i deimlo'n rhan o bethau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran rhannu gwybodaeth ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn agored ac yn onest gyda'n gilydd.
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn gwybod beth oedd yn digwydd yn eich tîm neu leoliad gwaith, ond roedd llai o bobl yn teimlo eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd ar draws y sefydliad, ac er i hyn gael sgôr gadarnhaol, y datganiad hwn sgoriodd isaf yn gyffredinol.
Yn seiliedig ar eich cyfraniad gwerthfawr, gwnaethom ymrwymo i gymryd y camau canlynol i wella eich profiad o weithio i ni ymhellach:
Fel rhan o'n mentrau Iechyd a Llesiant, rydym yn cysylltu â chi trwy gyfarfodydd grŵp, sesiynau briffio ac e-sgyrsiau. Rydym hefyd wedi creu offer mewnrwyd i chi roi adborth uniongyrchol i ni. Rydym wedi cynnal arolygon llesiant i ddeall y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae ein Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn siarad â chydweithwyr ynglŷn â'u pryderon a'u syniadau ac yn rhannu hyn â'r Cydlynwyr Iechyd a Llesiant. Mae hyn yn ein helpu i hyrwyddo adnoddau presennol neu greu mentrau newydd yn seiliedig ar eich adborth.
Fis Tachwedd diwethaf, cychwynnom ein Fforwm Staff cyntaf gyda'n Prif Weithredwr, Wendy. Ers hynny, mae Wendy wedi bod yn cynnal y cyfarfodydd hyn bob chwarter, gan sgwrsio â dros 40 o weithwyr hyd yn hyn. Bydd y Fforwm yn parhau i gyfarfod bob chwarter, felly os ydych chi'n cael eich dewis i fynychu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n siarad â'ch rheolwr a bachwch ar y cyfle!
Rydym yn cynnal sesiynau teithiol staff ddwywaith y flwyddyn, yn ystod y Gwanwyn a'r Hydref, dros nifer o wythnosau. Ein nod yw ymweld â chynifer o leoliadau ag y gallwn i gyrraedd cydweithwyr y mae'n bosibl nad oes ganddynt fynediad e-bost.
Hyd yn hyn, rydym wedi bod i lawer o’n lleoliadau ac rydym bellach yn anelu at ymweld â mwy o staff gofal a chanolbwyntio ar ein criwiau priffyrdd.
Mae'r sesiynau hyn yn ffordd wych i staff ddysgu am wasanaethau fel Iechyd a Llesiant, Dysgu a Datblygu, Gostyngiadau Staff, TG, Prosiectau Trawsnewid, ac ymholiadau Adnoddau Dynol a Chyflogres mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol.
Mae sgiliau cyfathrebu yn rhan allweddol o'r Academi Arweinyddiaeth ar bob lefel. Hefyd, mae gan ein system ddysgu Thinqi newydd ystod eang o adnoddau yn yr adran ‘Datblygu Fy Hun’ i helpu rheolwyr i wella eu sgiliau cyfathrebu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Thinqi Sirgar.
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd gwell o gyflwyno negeseuon corfforaethol i staff yn gyflym ac yn gyson.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan staff y dyfeisiau gwaith nad oedd ganddyn nhw o'r blaen. Mae hyn yn golygu y gallant bellach gwblhau amserlenni, gwirio rotâu ar-lein, a chyrchu cyfathrebiadau corfforaethol fel y fewnrwyd ac e-gylchlythyrau staff.
Eleni, rydym wedi rhoi cynnig ar ddigwyddiad ar-lein gyda'r Prif Weithredwr. Ar ôl yr arbrawf hwn, rydym yn gobeithio ei gyflwyno i bob adran, fel bod pawb yn cael gwybodaeth ar yr un pryd ac yn yr un ffordd.
Rydym hefyd wedi newid i system Gov.delivery ar gyfer ein e-gylchlythyrau staff wythnosol. Mae hyn yn rhoi gwell dadansoddiadau i ni o ran darllenwyr ac ymgysylltu. Trwy anfon yr holl negeseuon corfforaethol mewn un bwletin, rydym yn sicrhau bod staff yn cael diweddariadau cyson ac amserol trwy un sianel, yn hytrach na thrwy sawl neges e-bost.
Wrth i ni archwilio ffyrdd newydd a gwahanol o gyfathrebu, mae dyletswydd arnom i aros yn rhan o bethau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i ddarllen yr e-gylchlythyrau ac ymuno â’r digwyddiadau y cewch wahoddiad iddynt. Fel hyn, gall bob un ohonon ni gael y wybodaeth ddiweddaraf a theimlo'n rhan o bethau.
Mae cyfathrebu mewnol yr un mor bwysig â siarad â'r cyhoedd. Gyda dros 8,000 o staff mewn rolau amrywiol wedi'u gwasgaru ar draws ardal fawr, gall cyfathrebu'n amserol ac yn gyson fod yn anodd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein negeseuon i staff yn gliriach ac yn fwy cydgysylltiedig, fel bod pawb yn cael yr un wybodaeth ar yr un pryd.
Bydd strategaeth gyfathrebu yn helpu adrannau i rannu arferion gorau a sicrhau cysondeb i'r rhai sy'n ymdrin â chyfathrebu ym mhob adran.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff