Disgwyliadau a Chydnabyddiaeth
Diweddarwyd y dudalen: 22/08/2024
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg fod eich swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion y Cyngor, eich bod yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonoch chi, beth oedd eich rheolwr yn ei ddisgwyl gennych chi, a'r hyn y gallech chi ei ddisgwyl gan eich rheolwr.
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch hefyd fod gennych y sgiliau/offer cywir i wneud eich gwaith a'ch bod yn gallu perfformio hyd eithaf eich gallu bob dydd. Dywedodd llawer ohonoch hefyd fod rhywun wedi siarad â chi am eich cynnydd yn ystod y 12 mis diwethaf. Fodd bynnag, er bod y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd yn cytuno eu bod wedi derbyn diolch neu gydnabyddiaeth gan eraill am wneud gwaith da, y datganiad hwn gafodd y sgôr ail isaf ar y cyd.
Rydym yn gwybod o'r adborth hwn nad yw hyn yn wir i bawb, felly o nawr ymlaen byddwn yn seiliedig ar eich cyfraniad gwerthfawr, gwnaethom ymrwymo i gymryd y camau canlynol i wella eich profiad o weithio i ni ymhellach:
- Help gyda benthyciadau: Rydym bellach wedi creu partneriaeth gyda Salary Finance, darparwr llesiant ariannol sy'n cynnig mynediad at fenthyciadau fforddiadwy a ad-delir drwy eich cyflog, blaendaliadau ar dâl a enillir ac addysg ariannol am ddim.
- Cynllun buddion staff: mae 3,505 o aelodau staff eisoes wedi ymuno â’n Cynllun buddion Staff, dan reolaeth Terry Berry. Mae'r rhaglen wych hon yn mynd o nerth i nerth gyda manwerthwyr cenedlaethol yn ychwanegu gostyngiadau newydd yn rheolaidd. Os ydych chi wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost bob tro y bydd gostyngiad newydd ar gael. Heb gofrestru eto? Peidiwch â cholli'r cyfle hwn! Cofrestrwch yma - (buddionstaffcsg.co.uk). O ran y dyfodol, rydym hefyd yn archwilio ffyrdd o gynnwys gostyngiadau gan gwmnïau lleol, gan ychwanegu hyd yn oed mwy o werth at eich buddion.
- Cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad: Rydym bellach yn gweithio gyda My Money Matters i’ch helpu i adeiladu cynilion ychwanegol ochr yn ochr â’ch Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (a elwir hefyd yn gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol – AVCs). Mae Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn gadael i chi adeiladu cronfa ychwanegol o arian ochr yn ochr â'ch pensiwn. Mae'r cyfraniadau hyn wedi'u heithrio rhag Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG), ac mae'n bosibl y gallwch gymryd y cyfan fel cyfandaliad di-dreth pan fyddwch yn ymddeol. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau paratoi ar gyfer eich ymddeoliad. Ewch i'w gwefan My Money Matters i ddysgu mwy am yr ystod lawn o fanteision sydd ar gael i chi fel cyflogai Cyngor Sir Caerfyrddin.
- Diweddariadau ynghylch Polisïau Adnoddau Dynol: Eleni, rydym wedi gwneud rhai diweddariadau gwych i’n polisïau Adnoddau Dynol! Mae’r newidiadau hyn yn agor drysau i lawer o hawliau, gan wella’ch hawliau o ran absenoldeb tadolaeth, absenoldeb gofalwr, dileu swydd a gweithio hyblyg. Dysgwch fwy drwy ymweld â tudalennau Adnoddau Dynol ar ein Mewnrwyd neu drwy siarad â'ch rheolwr neu aelod o'n tîm Adnoddau Dynol.
Eleni, rydym yn falch o gyflwyno'r Gwobrau Dysgu a Datblygu. Mae'r gwobrau hyn yn cael eu cyflwyno i gydnabod ymroddiad a gwaith caled ein staff sydd wedi dangos ymrwymiad cryf i ddysgu a thwf proffesiynol. P'un ai drwy gyflawniadau academaidd neu ddatblygiad personol, rydym yn falch o gydnabod yr unigolion hyn. Hoffech chi gael gwybod mwy? Ewch i'n tudalen fewnrwyd Gwobrau Dysgu a Datblygu i gael gwybodaeth. A chadwch lygad am y newyddion diweddaraf am y digwyddiad gwobrau a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.
Lansiwyd ein Fframwaith newydd ym mis Tachwedd 2023 sydd â thudalen fewnrwyd bwrpasol, “Un Cyngor – Ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau Craidd.” Mae llawer o'n rheolwyr gwasanaeth bellach yn defnyddio'r fframwaith yn ystod gweithgareddau recriwtio gwasanaethau ac arfarniadau, gan ei wneud yn rhan annatod o'r ffordd y maent yn gweithredu.
Rydym wedi cytuno ar gynllun i adolygu ein system arfarnu. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn siarad â staff a rheolwyr i gael eu syniadau a dod o hyd i ffyrdd o’i gwella. Ein nod yw sicrhau bod arfarniadau yn fwy effeithiol a chefnogol i bawb. Cadwch olwg am ddiweddariadau pellach a ffyrdd o gymryd rhan.
Ar ôl cwblhau ein hadolygiad o’r fframwaith arfarnu, a fydd yn cynnwys casglu adborth gan staff a rheolwyr, byddwn yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Bydd hyn yn cynnwys archwilio sut yr ydym yn defnyddio MyView i gofnodi a monitro gweithgareddau yn effeithiol.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Mwy ynghylch Llais Staff