Dysgu a Datblygu
Diweddarwyd y dudalen: 22/08/2024
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn gallu cael cyfleoedd dysgu yn eich dewis iaith, ac, o ran datblygu sgiliau newydd, dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i ddysgu a thyfu a'ch bod wedi cael y cyfle i wneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, o edrych ar rai o'r ymatebion, mae'n amlwg nad yw hyn yn wir i bawb, felly. Yn seiliedig ar eich cyfraniad gwerthfawr, gwnaethom ymrwymo i gymryd y camau canlynol i wella eich profiad o weithio i ni ymhellach:
Yn gynharach eleni, cyflwynwyd ein Polisi newydd, sydd bellach ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen Dysgu a Datblygu ar ein mewnrwyd. Nod y polisi hwn yw sicrhau bod pawb sy'n gweithio i ni yn cael mynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu. Rydym yn annog yr holl staff i archwilio'r adnoddau a rhoi hwb i'w sgiliau.
Aethom ati i ddechrau cyflwyno Thinqi, ein System Rheoli Dysgu newydd, yn raddol ym mis Ebrill 2024. Ers hynny, mae dros 3,000 o gyfrifon defnyddwyr wedi'u hactifadu, gan roi mynediad i staff i'n 11 modiwl e-Ddysgu â blaenoriaeth (Dysgu Hanfodol) a llyfrgell helaeth o gynnwys. Yn ddiweddarach eleni, bydd hyd yn oed mwy o gyfrifon yn cael eu hactifadu, gan sicrhau bod staff ysgol a'r rhai heb gyfeiriadau e-bost yn gallu cael mynediad at eu dysgu a'u datblygu gofynnol. Yn ogystal, mae'n hawdd i reolwyr olrhain cynnydd dysgu eu tîm bellach.
Mae ein Hacademi Arweinyddiaeth arloesol yn cynnig llwybrau datblygu wedi'u teilwra i'n harweinwyr a'n rheolwyr. Mae'r ail garfan yn dechrau yr hydref hwn, a gallwch weld yr holl fanylion ar ein tudalennau Dysgu a Datblygu ar y fewnrwyd. Yn ogystal, mae'r Academi Arweinyddiaeth yn cael ei chefnogi gan amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael ar Thinqi Sirgâr. Rydym yn eich annog i archwilio'r adnoddau hyn a dechrau eich taith arweinyddiaeth.
Rydym yn gweithio ar lawlyfr newydd i reolwyr sy'n cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am fod yn rheolwr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a'r cymorth sydd ar gael i'ch helpu i lwyddo. Rydym wedi paratoi fersiwn drafft a byddwn yn ei rannu gyda rhai rheolwyr newydd yn fuan i gael eu hadborth. Cadwch lygad allan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Yn ogystal â blaenoriaethu ein modiwlau Dysgu Hanfodol, rydym yn creu cyfres o adnoddau dysgu Iechyd a Diogelwch i staff gael mynediad atynt drwy Thinqi Sirgâr, y System Rheoli Dysgu newydd. Mae ein tîm yn gweithio'n galed i greu cynnwys a fydd yn golygu y bydd modd rheoli digwyddiadau Iechyd a Diogelwch, fel Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Tân a Diogelwch yn y Swyddfa, yn ddi-dor drwy'r system. Bydd hyn yn cynnwys dysgu ynghylch cydymffurfiaeth, diweddariadau a hyfforddiant gloywi i sicrhau bod pawb wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn ddiogel.
Rhwng 22 Tachwedd 2023 a 12 Ionawr 2024, cynhaliwyd Arolwg Sgiliau Digidol. Edrychwch ar y tab 'Y camau nesaf' ar Ganlyniadau'r Arolwg Sgiliau Digidol i weld yr holl flaenoriaethau allweddol. Yn ogystal, mae'r fframwaith sgiliau wedi'i ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi yr hydref hwn. Cadwch lygad allan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Rydym wedi parhau i gynnig hyfforddiant cynhwysfawr i'n holl wirfoddolwyr. Mae ein Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn cael hyfforddiant manwl ar bynciau allweddol fel maeth, gweithgaredd corfforol, ac iechyd meddwl. Yn ogystal, gall ein swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ennill cymwysterau allanol ffurfiol. Mae ein cydgysylltwyr iechyd a llesiant yn darparu diweddariadau rheolaidd a chymorth parhaus i sicrhau bod pawb yn wybodus ac yn gymwys iawn.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff