Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024

Diweddarwyd y dudalen: 30/04/2025

Ar ein tudalen Arolwg Ymgysylltu â Staff 2024 gallwch weld sut wnaethoch ymateb i gwestiynau'r arolwg a sut mae eich ymatebion yn cymharu â'r llynedd.

Er bod y Canlyniadau Cyffredinol ar gyfer yr arolwg hwn yn gadarnhaol, mae'n amlwg o rai o'r sylwadau yn yr adborth nad yw pawb yn cael yr un profiad.

Mae'r dudalen hon yn edrych ar eich sylwadau wrth gwblhau'r arolwg ac yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am yr hyn rydym wedi'i wneud neu'n bwriadu ei wneud o ganlyniad.