Cyfathrebu

Diweddarwyd y dudalen: 31/03/2025

Mae cyfathrebu da, mewn sefydliad mor fawr ac amrywiol â Chyngor Sir Caerfyrddin, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i deimlo'n rhan o bethau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran rhannu gwybodaeth ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn agored ac yn onest gyda'n gilydd.

Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn gwybod beth oedd yn digwydd yn eich tîm neu leoliad gwaith, ond roedd llai o bobl yn teimlo eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd ar draws y sefydliad, ac er i hyn gael sgôr gadarnhaol, y datganiad hwn sgoriodd isaf yn gyffredinol.

Cawsom adborth gwerthfawr gennych hefyd ynghylch meysydd penodol y mae angen sylw arnynt. Mae'r pryderon hyn yn cynnwys:

 

Fe ddwedsoch chi: Cyfathrebu a llif gwybodaeth anghyson ar draws adrannau.

Fe wnaethon ni wrando: Roedd eich adborth wedi tynnu sylw at yr angen am well cyfathrebu, ac rydym wedi ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd. Rydym yn annog pawb i gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ein llythyrau newyddion a sicrhau bod arfarniadau'n cael eu cynnal yn rheolaidd. Mae'r arfarniadau hyn yn cynnig cyfle gwych i ddathlu'r hyn rydych wedi'i gyflawni a chael y wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch i'ch adborth chi, rydym yn ailystyried ein system werthuso. Yn ystod Gwanwyn 2025, byddwn yn siarad â staff i glywed eu straeon a'u hawgrymiadau fel y gallwn wella pethau ymhellach.

Fe ddwedsoch chi: Cyfathrebu anghyson o'r brig i lawr a diffyg tryloywder ynghylch gwneud penderfyniadau mewn rhai meysydd.

Fe wnaethon ni wrando: Mae ein Tîm Rheoli Corfforaethol a'n Fforwm Penaethiaid Gwasanaeth wedi trafod y canfyddiadau hyn ac ar hyn o bryd maent yn edrych ar sut y gellir gwella hyn ymhellach i sicrhau cysondeb ar draws y sefydliad.