Disgwyliadau a Chydnabyddiaeth
Diweddarwyd y dudalen: 31/03/2025
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg fod eich swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion y Cyngor, eich bod yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonoch chi, beth oedd eich rheolwr yn ei ddisgwyl gennych chi, a'r hyn y gallech chi ei ddisgwyl gan eich rheolwr.
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch hefyd fod gennych y sgiliau/offer cywir i wneud eich gwaith a'ch bod yn gallu perfformio hyd eithaf eich gallu bob dydd. Dywedodd llawer ohonoch hefyd fod rhywun wedi siarad â chi am eich cynnydd yn ystod y 12 mis diwethaf a'u bod wedi derbyn diolch neu gydnabyddiaeth gan eraill am wneud gwaith da. Fodd bynnag, mae eich adborth yn awgrymu nad yw hyn yn wir i bawb:
Fe ddwedsoch chi: Nid yw pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod neu eu gwerthfawrogi am eu hymdrechion.
Fe wnaethon ni wrando: Rydym wedi cyflwyno rhaglenni cydnabyddiaeth newydd i ddathlu a thynnu sylw'n gyson at gyfraniadau rhyfeddol ein staff. Er enghraifft, fe wnaethom gynnal ein digwyddiad Dathlu Dysgwyr cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd, gan gydnabod cyflawniadau addysgol ein staff. Fe wnaethom hefyd drefnu bod ein Rhwydwaith Gwirfoddolwyr o Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn cwrdd i ddathlu. Maent wedi datblygu mentrau rhagorol i roi cymorth i gydweithwyr yn eu timau.
Ar ôl cael ein hysbrydoli gan eich adborth, yn ystod Gwanwyn 2025 byddwn yn cynnal trafodaethau dilynol gyda staff i gael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn sicrhau bod pawb yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu hymdrechion hynod o werthfawr.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Mwy ynghylch Llais Staff