Dysgu a Datblygu
Diweddarwyd y dudalen: 31/03/2025
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn gallu cael cyfleoedd dysgu yn eich dewis iaith, ac, o ran datblygu sgiliau newydd, dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i ddysgu a thyfu a'ch bod wedi cael y cyfle i wneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, o edrych ar rai o'r ymatebion, mae'n amlwg nad yw hyn yn wir i bawb, felly.
Mynegwyd pryderon am:
Fe ddwedsoch chi: Mynediad anghyson i gyfleoedd dysgu a datblygu.
Fe wnaethon ni wrando: Rydym yn ehangu ein cyfleoedd dysgu a datblygu ar-lein ac yn sicrhau eu bod yn fwy hygyrch. Fis Tachwedd y llynedd, fe wnaethom gynnal ein digwyddiad Dathlu Dysgwyr cyntaf, a oedd yn achlysur gwirioneddol ysbrydoledig. Roedd yn arddangos cyflawniadau anhygoel ein staff, sy'n parhau i ragori wrth wasanaethu ein cymuned. Dim ond y dechrau oedd y digwyddiad hwn, ac rydym wedi ymrwymo i greu hyd yn oed yn rhagor o gyfleoedd ar gyfer cydnabod a thyfu.
Fe ddwedsoch chi: Cyfleoedd cyfyngedig i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe wnaethon ni wrando: Mae ein tîm Dysgu a Datblygu yn ymroddedig i wella ymhellach gyfleoedd i chi ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau hyfforddi ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan hyrwyddo cynhwysiant a pharch diwylliannol. Rydym yn annog pawb i gynnwys y Gymraeg yn eu sesiynau a'u deunyddiau. Cofiwch fod gennym Uned Gyfieithu wrth law i'ch helpu.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Mwy ynghylch Llais Staff