Gweithio i ni

Diweddarwyd y dudalen: 31/03/2025

Mae llawer ohonoch yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin a byddem yn ein hargymell fel cyflogwr. Rydych yn gwerthfawrogi'r gallu i siarad yn agored ac yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb. Yn ogystal, rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich gwerthfawrogi ac yn credu bod eich lles yn cael ei ystyried. Fodd bynnag, nid yw pawb yn cael yr un profiad, ac mae eich adborth wedi tynnu sylw at feysydd lle mae angen i ni wneud rhywfaint o waith pellach:

 

Fe ddwedsoch chi: Mae llesiant yn bwysig ac mae angen ei flaenoriaethu.

Fe wnaethon ni wrando: Rydym wedi dyblu ein hymdrechion trwy fuddsoddi ymhellach yn ein tîm Iechyd a Llesiant Corfforaethol, sy'n ymroddedig i feithrin amgylchedd gwaith cefnogol ac iach. Mae'r tîm hwn yn cynnig amrywiaeth o weithdai, offer a chymorth iechyd meddwl cyfrinachol i sicrhau bod pawb yn gallu ffynnu. Mae ein gweithdai llesiant rheolaidd yn cwmpasu pynciau hanfodol fel rheoli straen, maeth, a gweithgarwch corfforol, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr ac awgrymiadau ymarferol. Yn ogystal, mae ein Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant hyfforddedig yn mynd ati i hyrwyddo iechyd a llesiant yn eu timau a'u hadrannau. I ddysgu rhagor, ewch i'n tudalennau Iechyd a Llesiant Fewnrwyd

Gall rheolwyr hefyd ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar Thinqi i gynorthwyo o ran cefnogi eu timau'n effeithiol.

Fe ddwedsoch chi: Mynegodd rhai staff bryderon am gynnydd o ran llwythi gwaith a staffio annigonol, gan arwain at straen a gorflinder.

Fe wnaethon ni wrando: Gan gydnabod y gofynion cynyddol a'r adnoddau cyfyngedig, rydym yn ymroddedig i weithio'n ddoethach, nid yn galetach. Rydym yn integreiddio technoleg uwch i awtomeiddio tasgau arferol a gwella cydweithredu. Os oes gennych unrhyw syniadau neu os hoffech archwilio syniadau arloesol sy'n arbed amser, cysylltwch â'n Tim Trawsnewid neu aelod o'n Cymorth TG i gael rhagor o wybodaeth.

Os byth y byddwch yn teimlo eich bod wedi eich llethu, peidiwch ag oedi cyn siarad â'ch rheolwr i gael cefnogaeth.  Gall rheolwyr hefyd ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar Thinqi i gynorthwyo o ran cefnogi eu timau'n effeithiol.

Fe ddwedsoch chi: Cafwyd adborth cadarnhaol am arweinyddiaeth leol a chymorth gan aelodau eraill o'r tîm, ond roedd cymorth sefydliadol ehangach yn brin mewn rhai achosion.

Fe wnaethon ni wrando: Rydym yn gwella ein rhaglenni hyfforddiant o ran arweinyddiaeth er mwyn sicrhau cymorth cyson ar draws pob lefel o'r sefydliad. Rydym wedi lansio ein  Llawlyfr rheolwyr  newydd sy'n darparu pwynt cyfeirio i sicrhau bod rheolwyr yn gwybod sut i gael gafael ar y wybodaeth a'r cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu rôl yn effeithiol.