Sut mae eich adran wedi ymateb i ganfyddiadau Arolwg Staff 2024?
Diweddarwyd y dudalen: 22/05/2025
Cafodd Arolwg Ymgysylltu â Staff 2024 ei gynnal yn ystod Haf 2024. Ers hynny, mae pob adran wedi bod yn gweithio i sicrhau bod eich adborth yn cael ei ystyried. Mae'r dudalen hon yn rhoi cipolwg i ni ar y camau mae pob adran yn eu cymryd ar sail canlyniadau'r arolwg.
• Trefnodd y Prif Weithredwr, Wendy, ddigwyddiad adrannol i adolygu a thrafod canfyddiadau canlyniadau adran y Prif Weithredwr. Daeth dros 300 o staff i'r digwyddiad, lle cawson nhw gyfle i ofyn cwestiynau i Wendy a gwrando ar ei hadborth.
• Mae Wendy yn dal i gynnal ei chyfarfodydd Fforwm Staff bob chwarter, gan roi cyfle iddi gwrdd â staff o bob rhan o'r Cyngor yn bersonol a dysgu amdanyn nhw, eu rôl a'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddi siarad am ei blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor.
• Mae dau ddigwyddiad Sefydlu Corfforaethol wedi digwydd, gyda dau arall wedi'u trefnu cyn diwedd 2025. Trefnwyd y digwyddiadau hyn i groesawu'n gynnes staff newydd i'r Cyngor, gan roi gwybodaeth iddyn nhw am ein diwylliant, ein gwerthoedd a'n disgwyliadau.
• Rydyn ni wedi trefnu dau ddigwyddiad i gydnabod staff: Digwyddiad Dathlu Dysgwyr i gydnabod cyflawniadau ein dysgwyr, a chyfarfod dathlu ar gyfer ein Rhwydwaith Gwirfoddol o Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant.
• Sicrhawyd cyllid parhaol i'r Tîm Llesiant, i gefnogi'r sefydliad i hyrwyddo mentrau iechyd meddwl a chorfforol ymhlith staff. Bydd y tîm hwn yn canolbwyntio ar greu amgylchedd gwaith cefnogol, cynnig adnoddau ac arweiniad ar gyfer llesiant personol, a datblygu mentrau sy'n annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
• Lansiwyd Llawlyfr Rheolwyr newydd, a gall rheolwyr ei ddefnyddio i gael y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen i gyflawni eu swyddi'n effeithiol.
• Drwy'r Arolwg Aflonyddu Rhywiol roedd staff yn gallu rhannu eu profiadau am aflonyddu yn y gweithle. Helpodd yr arolwg hwn ni i asesu cydymffurfio â deddfwriaeth newydd a nodi meysydd i'w gwella.
• Mae ein Tîm Arolwg Aflonyddu Rhywiol wedi cynnal cyfweliadau dilynol gyda staff i roi sylw pellach i ganfyddiadau Arolwg Ymgysylltu â Staff 2024. Nod y darn hwn o waith yw cael dealltwriaeth ddyfnach o'r rhesymau pam nad yw rhai gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n gyson am eu cyfraniadau, yn ogystal â gwerthuso ein proses werthuso bresennol.
• Trefnodd yr adran ddigwyddiad i Reolwyr Pobl, gan roi i reolwyr gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr, yn ogystal â'r cyfle i drafod diwylliant sefydliadol o fewn y sefydliad a sut mae diwylliant yn effeithio ar gymhelliant a pherfformiad.
• Cynhaliwyd nifer o Sesiynau Datblygu Gwaith Cymdeithasol ar gyfer staff sy'n cynnal asesiadau sy'n cynnwys pynciau fel:
- Nid yw Atal Byth yn Gorffen - Roedd y thema hon yn tynnu sylw at rolau a phrofiadau Gweithwyr Cymdeithasol, ac yn rhoi trosolwg ar y Gwasanaeth Llesiant yn Sir Gaerfyrddin.
- Chwilfrydedd Proffesiynol - Rhoddodd y sesiwn sylw eto i bwrpas ac egwyddorion "Chwilfrydedd Proffesiynol" a sut mae hyn yn gallu ategu arfer gorau wrth weithio gydag unigolion, plant a theuluoedd.
• Fe wnaethon ni gynnal digwyddiad Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant i gael adborth ar brofiadau pobl ar leoliad. Mae'r adborth hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae'r digwyddiad hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gwrdd â'r Cyfarwyddwr a'r Penaethiaid Gwasanaeth a dysgu am wahanol feysydd gwaith a'r cymorth sydd ar gael i Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
• Cafodd digwyddiadau sefydlu staff adrannol ar gyfer staff newydd eu cynnal, a chafodd staff newydd gyfle i gwrdd â'r Cyfarwyddwr a'r Penaethiaid Gwasanaeth a chael dealltwriaeth o waith yr Adran.
• Yn ddiweddar, cyfarfu'r Cyfarwyddwr a'r Pennaeth Tai â grŵp o staff i gael eu barn am sut hoffai staff gael eu cydnabod, a bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio fel pwynt trafod yn y Cyfarfod Rheolwyr Pobl nesaf.
• Mae tudalen fewnrwyd newydd yn cael ei llunio ar gyfer yr Adran Cymunedau. Bydd y tudalennau yn darparu gwybodaeth allweddol ac yn fan canolog ar gyfer adnoddau adrannol.
• Mae Penaethiaid Gwasanaeth wedi cynnal gweithdai Is-adrannol ar gyfer eu timau i drafod eu cynlluniau busnes a'u perfformiad.
• Mae'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gyflwyno Gwobr Cyflawniad Tîm misol, sy'n cydnabod cyfraniadau eithriadol ar draws yr adran.
• Rydym wedi canolbwyntio ar roi cyfle i'n staff siarad am eu llwyddiannau gyda'u rheolwyr a sefydlu disgwyliadau clir. I helpu'r sgwrsiau pwysig hyn, rydym wedi cynllunio sesiynau asesu ar gyfer pawb.
• Rydym hefyd yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai thematig i ddeall ac ymateb yn well i bryderon sy'n codi o hyn a arolwg staff yn y dyfodol.
• I sicrhau bod ein staff yn cael eu cefnogi ac yn wybodaeth, rydym wedi trefnu hyfforddiant a sesiynau ymgysylltu ar wasanaethau ariannol ar ddatganiad y cyfrifon a'r cyllidebau. Rydym wedi cynnal 4 sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb gyda mwy i ddod yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac wedi helpu i gryfhau cyfrifoldeb ariannol a chefnogi dealltwriaeth well o gyllidebau'r cyngor.
• Er mwyn sicrhau cydnabyddiaeth barhaus o gyflawniadau ein staff, mae'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethwyr wedi cydnabyddo'n ffurfiol ein gweithwyr am fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gwblhau cyfrifon archwiliedig y llynedd. Mae'r Cyfarwyddwr hefyd wedi cylchredeg e-byst i longyfarch staff am y llwyddiant sylweddol hwn.
• Er mwyn i staff deimlo eu bod yn cael eu diweddaru'n well, rydyn ni nawr yn cyhoeddi llythyrau newyddion bob tymor i'r holl staff, ac wedi creu system fel bod staff yn gwybod am gydweithwyr sydd wedi ymuno neu adael yr adran.
• Rydyn ni wedi dechrau annog staff i rannu eu syniadau a'u barn yn ystod cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae'r trafodaethau hyn yn cael eu cadw'n gyfrinachol, a gall staff siarad â rheolwyr sydd tu hwnt i'w goruchwylwyr uniongyrchol os ydyn nhw'n dymuno. Rydyn ni hefyd yn casglu adborth dienw'n ganolog i'r Cyfarwyddwr a'r Penaethiaid Gwasanaeth ei adolygu a gweithredu yn ei gylch.
• Mae Penaethiaid Gwasanaeth a'r holl Reolwyr Pobl wedi cael eu hatgoffa y dylai pob aelod o staff dderbyn arfarniad blynyddol sy'n cynnwys trafodaeth ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gan gynnwys dysgu cyfrwng Cymraeg.
• Rydyn ni wedi ailddechrau'r Grŵp Llesiant Adrannol (DWG).
• Mae'r holl staff newydd yn cwrdd â'r Cyfarwyddwr, Owain, gan roi cyfle iddo ddod i wybod mwy amdanyn nhw a'u rôl, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i Owain siarad am ei flaenoriaethau ar gyfer yr Adran.
• Mae menter "Carwsél Coffi" wedi'i chyflwyno lle mae aelodau staff yn cael eu paru â chydweithwyr dyw nhw ddim yn eu hadnabod, i gael sgwrs dros goffi, gan eu galluogi i ddysgu am ei gilydd a'u rolau.
• Rydyn ni'n gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Digidol ar hyn o bryd i greu tudalen ar y Fewnrwyd sy'n rhestru ein holl staff a'u swyddi allweddol.
• Ym Mehefin, byddwn ni'n cynnal Cynhadledd Adrannol i bob aelod o staff. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i Owain siarad yn uniongyrchol â'r holl staff yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy i staff. Byddwn ni'n parhau i gynnal y digwyddiad hwn bob blwyddyn.
• Er mwyn edrych ar ffyrdd o wella sut rydyn ni'n rhedeg ein gwasanaethau, mae'r Cyfarwyddwr, Ainsley, wedi bod yn cwrdd â thimau ar draws yr adran mewn digwyddiad 'Cwrdd a Chyfarch' i ddod i adnabod staff. Mae dros 90% o staff anweithredol wedi bod yn y digwyddiad. Bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i drefnu bod staff gweithredol yn dod i'r digwyddiadau hyn yn ystod 2025/26.
• Mae'r Cyfarwyddwr hefyd yn cyfarfod ag aelodau staff sydd wedi rhoi cyfnod hir o wasanaeth, i gael cyfle i ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth a'u hymroddiad ac i ddysgu rhagor amdanyn nhw fel unigolion.
• Mae Ainsley a'i Benaethiaid Gwasanaeth hefyd yn cynnal cyfarfodydd "coffi a chacen" gyda staff sydd ar fin ymddeol. Mae'r cyfarfodydd anffurfiol hyn yn rhoi cyfle i'r tîm uwch-reolwyr ddangos cymaint maen nhw'n gwerthfawrogi cyfraniad y gweithwyr, a dymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
• Yn ogystal mae Ainsley yn ymweld â thimau yn y gweithle i gael gwell dealltwriaeth o'u gwaith o ddydd i ddydd, ac mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i staff ddysgu mwy amdano.
• Mae'r Is-adran Lle a Chynaliadwyedd wedi cynnal diwrnodau cwrdd i ffwrdd i staff. Daeth tua 78 o staff i'r digwyddiadau a chawson nhw gyfle i gyflwyno eu timau a chymryd rhan mewn trafodaethau a gweithgareddau thematig.
• Cynhaliodd yr Is-adran Gwella a Thrawsnewid Gwasanaethau ddiwrnod cwrdd i ffwrdd i'w staff, a daeth dros 75 o bobl i'r digwyddiad, ac mae'r syniadau wedi'u defnyddio i ddatblygu cynllun gweithredu i'r gwasanaeth.
• Mae'r Is-adran Seilwaith Amgylcheddol wrthi'n trefnu ei diwrnod cwrdd i ffwrdd cyntaf ers sawl blwyddyn, a bydd hwnnw ym Medi 2025. Mae Dan, y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol, yn dechrau ymweld â'i dimau yn eu gweithle i gael gwell dealltwriaeth o'u gwaith o ddydd i ddydd ac i wrando ar unrhyw bryderon neu syniadau allai fod gyda nhw.
• Er mwyn gofalu bod staff yn cael eu diweddaru, mae tudalen fewnrwyd bwrpasol wedi'i chreu a'i hyrwyddo, sy'n rhoi gwybodaeth berthnasol i staff am yr Adran Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
• Mae rhaglen o sesiynau dysgu thematig wedi'u trefnu ynghylch ystod o bynciau sy'n ddefnyddiol yn benodol i staff PIED, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Mae'r Pennaeth Gwasanaeth dros Ddatblygu Economaidd, Simon Davies, wedi bod yn cwrdd â'r staff ar draws ei is-adran mewn digwyddiad 'Cwrdd a Chyfarch' i ddod i adnabod staff ar draws yr is-adran newydd hon.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024
- Gweithio i ni
- Cyfathrebu
- Dysgu a Datblygu
- Disgwyliadau a Chydnabyddiaeth
- Sut mae eich adran wedi ymateb i ganfyddiadau Arolwg Staff 2024?
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Mwy ynghylch Llais Staff