Fe Ddwedsoch chi, Fe Wnaethon ni Wrando 2025

Diweddarwyd y dudalen: 28/01/2026

Ar ein tudalen Arolwg Ymgysylltu â Staff 2025, gallwch chi weld eich ymatebion i'r arolwg a'u cymharu â blynyddoedd blaenorol. Er bod y canlyniadau cyffredinol yn gadarnhaol, mae ychydig o'ch adborth yn dweud wrthon ni nad yw pawb yn cael yr un profiad. Ar y dudalen hon, rydyn ni'n crynhoi'r themâu sydd wedi dod i'r amlwg ac yn rhannu'r camau rydyn ni'n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed go iawn a bod camau gweithredu'n cael eu cymryd yn eu sgil.