Beth sy'n digwydd nawr?
Diweddarwyd y dudalen: 28/05/2023
Cynhaliwyd ein hadolygiad llawn diwethaf yn 2018 pan ddyfarnwyd y wobr arian i ni, sy'n golygu ein bod yn y 40% uchaf o'r holl sefydliadau sy'n dal y wobr ledled y byd. Ers hynny, bu newid sylweddol ar draws y sefydliad, ac rydym mewn sefyllfa gref i adeiladu ar y cyflawniad hwnnw.
Rydym yn gweithio i gadw ein safon Buddsoddwyr mewn Pobl ac mae angen eich help arnom.
Ar 26 Medi, byddwch yn derbyn gwahoddiad gan Fuddsoddwyr mewn Pobl i gwblhau holiadur annibynnol dienw. A fyddech cystal â threulio 5 munud yn cwblhau'r arolwg hwn. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gael dealltwriaeth ddyfnach o unrhyw faterion a godwyd yn ein harolwg staff a aeth allan ym mis Mehefin er mwyn i ni wneud yn siŵr ein bod yn cymryd y camau cywir.
Yn dilyn yr arolwg hwn, ym mis Hydref, bydd trafodaethau grwpiau ffocws a chyfweliadau un-i-un yn cael eu cynnal gyda staff o bob rhan o'r cyngor. Bydd y bobl sy'n cael eu cyfweld yn cael eu dewis i fod yn gynrychiolwyr y gweithlu cyfan.
Os hoffech chi wybod rhagor am y cyfweliadau a/neu os hoffech gymryd rhan, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu.
Gallwch hefyd ddarganfod beth sy'n digwydd yn ystod y cyfweliad drwy edrych ar yr adran Canllawiau ar ein tudalen Buddsoddwyr mewn Pobl
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff