Digwyddiad ymgynghori / ymgysylltu cyhoeddus

Diweddarwyd y dudalen: 26/06/2023

Ar 19 Ebrill gwnaethom gynnal digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech. Mae'r Tîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir wedi bod yn gweithio i ddatblygu gwell dealltwriaeth o berygl llifogydd yn Llangennech ac i ddatblygu opsiynau lliniaru posibl. Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle inni drafod â'r gymuned ynghylch problemau llifogydd lleol, yn ogystal â chyflwyno ein hopsiynau cychwynnol ar gyfer rheoli risgiau penodol. Roedd nifer dda wedi dod i'r digwyddiad a chafwyd trafodaeth ddefnyddiol. Gofynnwyd i'r rhai oedd yn bresennol lenwi holiaduron yn ymwneud â llifogydd yn y gorffennol a rhoi adborth a syniadau ynghylch atebion posibl i reoli perygl llifogydd. Defnyddir y data a'r wybodaeth a gesglir i lywio cam nesaf y gwaith.

Ar 27 Ebrill cyflwynodd y Tîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir ddigwyddiad ymgysylltu cymunedol arall yng Nghydweli. Y tro hwn, aeth aelodau o'r tîm o ddrws i ddrws yng Nghlos yr Helyg, Llys Gwenllian, Heol y Fferi a Chae Ffynnon i drafod materion sy'n ymwneud â pherygl llifogydd a darparu cyngor ac arweiniad. Oherwydd nifer y sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud â pherygl llifogydd, amlygodd yr adborth ar ôl y llifogydd ym mis Hydref 2021 fod y preswylwyr yng Nghydweli wedi drysu ynghylch pwy i gysylltu â nhw, a phwy sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â pherygl lifogydd. Yn sgil hyn, cynhyrchodd y Tîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir gardiau cyswllt i'r trigolion sy'n rhoi rhywfaint o eglurder ar y mater hwn. Gwnaethom hefyd ddefnyddio'r cyfle hwn i ddarparu cyngor ar ddiogelu eiddo, cynhyrchion sy'n cyfateb i fagiau tywod, polisi newydd CSC ynghylch bagiau tywod, a hyrwyddo adroddiad yr ymchwiliad sydd ar gael ar ein gwefan: Ymchwiliad Ffurfiol i Ddigwyddiad.

Ymwelwyd â chyfanswm o dros 120 o anheddau a darparwyd gwybodaeth iddynt.