Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Diweddarwyd y dudalen: 23/05/2023

Ar 20 a 21 Ebrill, cynhaliodd CSC ddigwyddiad hyfforddiant draenio cynaliadwy, a gyflwynwyd gan Bob Bray o Bob Bray Associates. Profodd y digwyddiad undydd cyntaf mor boblogaidd, trefnwyd ail ddiwrnod. Daeth dros 50 o bobl dros y ddau ddiwrnod, sef cyfuniad o staff mewnol CSC ac ymgynghorwyr ac asiantiaid cynllunio allanol, ac roedd yr adborth a gawsom yn hynod gadarnhaol. Ariannwyd y digwyddiad yn llwyr trwy grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRAW) CSC, gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i trefnwyd gan yr Adran Cadwraeth Wledig gyda chymorth Amddiffyn Llifogydd.

Mae draenio cynaliadwy bellach yn ofyniad cyfreithiol yn achos pob datblygiad newydd sy'n fwy na 100m2 ac mae gofyniad cyfreithiol ar CSC i fabwysiadu systemau draenio cynaliadwy (SuDS) sy'n gwasanaethu mwy nag un annedd. Nid yw draenio cynaliadwy neu SuDS yn gysyniad newydd ac mae'n ceisio symud i ffwrdd o storio a phibellau tanddaearol confensiynol, ac yn hytrach reoli dŵr yn ei darddiad, ar yr wyneb mewn ardaloedd a fydd o fudd mewn sawl ffordd i'n cymunedau a'r cyhoedd. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan yn Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SuDS) (llyw.cymru)

Amlygodd yr hyfforddiant sut y dylai SuDS sydd wedi'i ddylunio'n dda roi bod i nifer o fanteision, ac nid datrysiadau draenio yn unig. Yn gyson ag arfer gorau, dylai SuDs greu llecynnau agored deniadol y gall pobl eu mwynhau, a chynefinoedd fydd yn werthfawr i natur. Gallant gyfrannu at yr egwyddor o Greu Lleoedd a dylent chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu seilwaith gwyrdd a glas.

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn cynlluniau SuDS wedi'u dylunio'n dda gan y rhai a fynychodd y digwyddiad, a byddwn mewn sefyllfa dda i nodi sut y dylid gwella cynllun SuDS i gyflawni mwy ar gyfer pobl ac ar gyfer bioamrywiaeth.

O gyflwyniad Robert Bray Associates: Suds Gwella cyfleoedd i fywyd gwyllt gyda dŵr glân ar gyfer creu cynefinoedd

Robert Bray Associates - dyluniadau mwy arloesol

Robert Bray Associates - Casgliad o ddŵr ffo ar yr wyneb neu'n agos ato, enghraifft o gilfachau ymyl y palmant