Tîm Systemau Digidol

Diweddarwyd y dudalen: 07/03/2024

Mae'r tîm Systemau Digidol yn is-adran Gwella Gwasanaeth a Thrawsnewid yr adran Lle ac Isadeiledd yn gyfrifol am weithredu prosiectau ar raddfa fawr sy'n ymwneud â systemau megis systemau rheoli swyddi/asedau newydd yn yr adran.

Ar wahân i roi’r prosiectau hyn ar waith, mae’r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cefnogi a datblygu systemau effeithlon ar gyfer yr adran Lle ac Isadeiledd. Mae hyn yn cynnwys cynnal ac uwchraddio'r systemau, ynghyd â gweithredu gwelliannau a thechnolegau digidol newydd sy'n cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd ac yn gwella'r modd y darperir gwasanaethau.