Dysgu a datblygu eich Cymraeg

663 diwrnod yn ôl

Gan fod tymor yr Hydref yn prysur agosáu, bydd mwy o gyfleoedd cyffrous ar gael i'ch helpu chi i ddysgu, ymarfer a gwella eich sgiliau Cymraeg.

Os ydych chi'n ddechreuwr llwyr, eisiau magu mwy o hyder neu wella eich sgiliau ysgrifenedig, mae cwrs ar gael i chi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau a chymorth ar ein tudalen Dysgu a Datblygu Beth am roi cynnig arni ...

Os nad ydych yn siŵr o ran pa lefel y dylech chi fod yn edrych arno, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol bellach wedi lansio offeryn i'ch helpu i ddod o hyd i'r cwrs perffaith. Fel arall, os ydych yn ansicr neu os ydych yn dymuno cael asesiad anffurfiol, llenwch y ffurflen archebu hon.