Dathlu Mis Hanes LDHT+
21 diwrnod yn ôl
Mae mis Chwefror yn nodi Mis Hanes LDHT+, amser sy'n canolbwyntio ar ddathlu cymuned amrywiol a bywiog pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, a hunaniaethau eraill. Mae'n gyfle i ni hyrwyddo cynhwysiant, dealltwriaeth a chymorth yn ein gweithle a thu hwnt.
Fel Cyngor, byddwn yn chwifio Baner yr Enfys yn Neuadd y Sir Caerfyrddin, Neuadd y Dref Rhydaman a Neuadd y Dref Rhydaman dros y penwythnos i ddangos ein cefnogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithle diogel a chefnogol i'r holl weithwyr, waeth beth fo'u cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd. Credwn fod amrywiaeth yn cyfoethogi ein tîm ac yn gwella ein gallu i wasanaethu'r gymuned yn effeithiol.
Ewch i'n tudalen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar y fewnrwyd lle byddwch yn dod i weld wybodaeth ddefnyddiol am gefnogi ein Staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol ac adnoddau ar gyfer cefnogi ein Staff Trawsryweddol.
Mae gennym fodiwlau amrywiol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, sy'n darparu offer ymarferol i greu amgylchedd mwy cynhwysol. Ewch i Thinqi i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym hefyd wedi sefydlu rhwydwaith cymorth yn ein cyngor i ddarparu lle diogel i aelodau staff LHDTCRhA+. Mae'r rhwydwaith hyn yn cynnig cymorth gan gyfoedion, eiriolaeth, a chyfleoedd am gysylltiad cymdeithasol. Os hoffech ymuno neu ddysgu rhagor am y rhwydwaith hyn, cysylltwch â health&wellbeing@sirgar.gov.uk
Os ydych chi'n wynebu heriau sy'n gysylltiedig â'ch cyfeiriadedd rhywiol neu'ch hunaniaeth rhywedd, cofiwch fod cefnogaeth gyfrinachol ar gael. Ewch i'r tudalennau LHDTRCA+ ar y fewnrwyd i gael rhagor o wybodaeth am gymorth LHDTCRhA+. Mae cymorth seicolegol 1:1 hefyd ar gael lle bo angen drwy Wasanaeth Cymorth Llesiant yn dilyn atgyfeiriad gan eich rheolwr llinell.
Gadewch i ni ddangos ein cefnogaeth a dathlu'r mis anhygoel hwn gyda'n gilydd.