Mae cael mynediad at Thinqi yn haws nag erioed
9 awr yn ôl
Mae cael mynediad at eich dysgu bellach yn symlach. Rydyn ni wedi ychwanegu dolen Thinqi uniongyrchol at hafan y fewnrwyd, gan roi mynediad cyflymach i chi at eich adnoddau dysgu a datblygu.
P'un a ydych chi'n cwblhau Dysgu Hanfodol, yn archebu hyfforddiant neu'n pori drwy'r cyrsiau sydd ar gael, gallwch chi bellach agor Thinqi drwy un clic yn unig o'r fewnrwyd. Ac oherwydd bod Thinqi ar gwmwl, gallwch chi hefyd barhau i gael mynediad at Thinqi yn uniongyrchol drwy fynd i https://sirgar.thinqi.co.uk/ o'r gwaith neu gartref gan ddefnyddio dyfais waith neu bersonol, gan ei gwneud hi'n hawdd cwblhau'ch dysgu ar amser sy'n addas i chi.
