Wyddech chi eich bod chi'n gallu defnyddio ap ffôn symudol i weld eich slipiau cyflog?

1 diwrnod yn ôl

Mae'r ap MyView (ar gyfer Zellis HCM Cloud) yn syml i'w ddefnyddio ac yn rhoi mynediad cyflym i'ch gwybodaeth pryd bynnag y bydd ei hangen arnoch chi.

Beth y gallwch chi ei wneud gyda'r ap:

  • Gweld eich slipiau cyflog
  • Diweddaru eich manylion personol
  • Gofyn am absenoldeb â chaniatâd
  • Cyflwyno hawliadau
  • Cwblhau ffurflenni
  • Gall rheolwyr gymeradwyo ceisiadau wrth fynd o le i le

Sut mae dechrau arni:

  1. Lawrlwythwch yr ap o'r Apple App Store neu Google Play Store neu sganiwch y côd QR isod
  2. Agorwch yr ap a chliciwch ar ”Cychwyn Arni"
  3. Cliciwch ar "Oes gennych chi gôd cofrestru?"
  4. Rhowch gôd cofrestru'r cwmni: carmarthenshire
  5. Cliciwch ar "Gwirio"
  6. Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion MyView arferol

Mynediad hawdd a diogel:

Gallwch alluogi technoleg adnabod olion bysedd neu adnabod wyneb eich ffôn i gael mynediad diogel a chyfleus heb orfod nodi'ch cyfrinair bob tro.

Pam lawrlwytho'r ap:

Mae'r ap MyView yn cynnig:

  • Hwylustod
  • Diogelwch
  • Mynediad unrhyw bryd, unrhyw le

Lawrlwythwch yr ap heddiw er mwyn gweld y manteision!

Mae rhagor o ganllawiau ar gael yma