Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru
13 awr yn ôl
Medal Efydd – Gwobr Llesiant yn y Gweithle!
Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod y Tîm Iechyd a Llesiant wedi ennill Medal Efydd yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.
Mae'r gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu’r sefydliadau sy'n mynd yr ail filltir i gefnogi iechyd a llesiant eraill. Mae ennill y wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr Awdurdod i hyrwyddo a gwella iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle.
Ewch i'r tudalennau Iechyd a Llesiant i wybod mwy am Ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i Lesiant a bwrw golwg ar y cymorth a'r adnoddau sydd ar gael i'ch helpu i ofalu am eich iechyd a'ch llesiant eich hun, yn ogystal â chefnogi eich cydweithwyr.
Dewch i'n helpu i fynd gam ymhellach drwy ddod yn Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant! Bydd ein sesiwn hyfforddi nesaf yn cael ei chynnal ar 6 Tachwedd ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin rhwng 9:30 a 1:00pm.
