Amser o’r Gwaith ar Gyfer Dibynyddion Polisi a’r Weithdrefn - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Meini Prawf Cymhwyso
- 4. Beth yw'r Hawl?
- 5. Gwneud Cais am Amser o'r Gwaith
3. Meini Prawf Cymhwyso
Rhaid bod angen amser o'r gwaith ar gyfer dibynnydd. Mae'r diffiniad o ddibynnydd yn cynnwys:
Priod: Gŵr, gwraig, partner sifil.
Plentyn: Plentyn o unrhyw oed.
Rhiant: Mae hyn yn cynnwys llys-rieni.
Rhywun sy'n byw ar yr un aelwyd: mae hyn yn cynnwys partneriaid neu berthnasau oedrannus sy'n byw gyda'r gweithiwr, ond nid yw'n cynnwys gweithiwr, tenant na lletywr.
Nid oes gofyniad gwasanaeth i fod yn gymwys ar gyfer amser o'r gwaith.
