Amser o’r Gwaith ar Gyfer Dibynyddion Polisi a’r Weithdrefn - Ebrill 2026
4. Beth yw'r Hawl?
Hawl yw hon i gymryd amser rhesymol o'r gwaith heb dâl yn ystod oriau gwaith y gweithiwr er mwyn cymryd camau sy'n angenrheidiol mewn nifer o wahanol amgylchiadau, fel y manylir isod:
I roi cymorth ar adeg pan fo dibynnydd yn cael ei daro'n wael, yn rhoi genedigaeth, yn cael ei anafu, neu'n dioddef ymosodiad.
I wneud trefniadau ar gyfer darparu gofal am ddibynnydd sydd wedi'i daro'n wael neu wedi'i anafu (mae salwch neu anaf yn cynnwys salwch neu anaf meddyliol).
O ganlyniad i farwolaeth dibynnydd (Byddai'r hawl hon yn cwmpasu, er enghraifft, gwneud trefniadau ar gyfer angladdau a'u mynychu).
Oherwydd amharu annisgwyl ar drefniadau gofal am ddibynnydd neu eu terfynu. (Byddai hyn yn cwmpasu'r gweithiwr yn darparu cymorth iddo/iddi ei hun neu'n gwneud trefniadau eraill).
I ddelio ag achos sy'n ymwneud â phlentyn i'r gweithiwr ac sy'n digwydd yn annisgwyl yn ystod cyfnod pan fo sefydliad addysgol y mae'r plentyn yn ei fynychu yn gyfrifol amdano. Byddai hyn yn cynnwys –
Pan fo'r plentyn mewn trallod am ryw reswm.
Lle bo'r plentyn wedi camymddwyn mewn modd difrifol a allai arwain at ei wahardd o'r Ysgol.
Nodyn – Mae gan y Cyngor Sir ddarpariaethau Absenoldeb Tosturiol gyda thâl, y gellir eu defnyddio adeg marwolaeth neu salwch difrifol aelod agos o'r teulu. Mae'r darpariaethau hyn yn annibynnol ar y Rheoliadau sy'n ymwneud ag Amser o'r gwaith ar gyfer Dibynyddion, ac yn ychwanegol atynt.
