Polisi Niwroamrywiaeth - Gorffennaf 2026
1. Cyflwyniad
Mae'r polisi hwn yn nodi Cyngor Sir Caerfyrddin o greu gweithle niwrogynhwysol a'r cymorth sydd ar gael i unigolion â chyflwr niwroamrywiol.
Rydym yn cydnabod manteision gweithlu niwroamrywiol, a'r cryfderau a'r sgiliau y gall unigolion niwrowahanol eu cyflwyno i'n sefydliad.
Rydym wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth gan hyrwyddo diwylliant ac arferion gwaith sy'n sicrhau cynhwysiant. Trwy addasu ein harferion i groesawu niwroamrywiaeth, rydym yn anelu at greu amgylchedd lle gall pawb ffynnu.
Mae'r polisi'n cyd-fynd â'n polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a'n canllawiau ar Safonau Ymddygiad.
Nid yw'r polisi hwn yn rhan o'ch contract cyflogaeth, ac rydym yn cadw'r hawl i'w ddiwygio neu ei dynnu yn ôl ar unrhyw adeg.
2. Cwmpas
Mae'r polisi hwn yn cwmpasu pob gweithiwr a gweithiwr achlysurol, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae polisi ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn absenoldeb polisi y cytunwyd arno'n lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.
3. Diffinio Niwroamrywiaeth
Mae niwroamrywiaeth yn derm ymbarél sy'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at y gwahanol ffyrdd y mae ymennydd unigolyn yn prosesu ac yn dysgu gwybodaeth. Rydym yn sefydliad niwroamrywiol gan fod gennym unigolion niwronodweddiadol a niwroamrywiol yn gweithio yma.
Mae cyflyrau niwroamrywiol yn cynnwys y canlynol:
Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a all achosi anawsterau o ran canolbwyntio, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.
Awtistiaeth/Syndrom Asperger (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel Cyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC) neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD)), sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd.
Dyscalcwlia, sy'n effeithio ar y gallu i brosesu rhifau ac yn arwain at heriau o ran rhifyddeg a dweud yr amser.
Dysgraffia, sy'n effeithio ar fynegiant ysgrifenedig ac sy'n cyflwyno anawsterau o ran sillafu a gramadeg, llawysgrifen wael a chael anhawster trefnu meddyliau ar bapur.
Dyslecsia, sy'n achosi heriau o ran darllen, ysgrifennu a sillafu.
Dyspracsia (sydd hefyd yn cael ei alw'n anhwylder cydsymud datblygiadol (DCD)), sy'n effeithio ar gydsymud corfforol.
Syndrom Tourette, sy'n cael ei nodweddu gan ymddygiadau corfforol fel ticiau.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ar unrhyw gyfrif.
Mae llawer o fathau o niwrowahaniaethau yn rhan gynhenid o sut mae'r ymennydd yn datblygu ac yn gweithredu. Er y gall y gwahaniaethau hyn fynd heb eu hadnabod neu heb eu diagnosio yn ystod plentyndod, nid yw hynny'n golygu nad oeddent yno; efallai eu bod wedi bod yn bresennol ers plentyndod.
Hefyd gall cyflyrau niwrolegol a gaffaelwyd, fel anafiadau trawmatig i'r ymennydd, strôc, a chlefyd Alzheimer, arwain at niwroamrywiaeth.
Rydym yn gwerthfawrogi bod cyflyrau niwroamrywiol yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, a gall rhai unigolion gael diagnosis o un neu fwy o gyflyrau niwroamrywiol sy'n cynnwys symptomau sy'n gorgyffwrdd.
4. Ein Hymrwymiad i Chi
Rydym yn cydnabod y gall unigolion niwroamrywiol gynnig cryfderau yn y gweithle mewn llawer o feysydd megis rhoi sylw i fanylion, meddwl am bethau mewn ffordd wahanol i’r arfer, delweddu gweledol, adnabod patrymau a sgiliau dadansoddol.
Rydym yn credu y bydd ymdrechion i greu a chynnal sefydliad niwrogynhwysol yn helpu i feithrin creadigrwydd, safbwyntiau gwahanol, syniadau da ac arloesedd, a fydd yn helpu i yrru gwell perfformiad sefydliadol.
Fodd bynnag, rydym yn deall y gall unigolion niwroamrywiol wynebu nifer o rwystrau yn y gweithle.
Rydym wedi ymrwymo i wneud newidiadau i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn. Er enghraifft:
• sicrhau ein bod yn meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth;
• creu arferion recriwtio a phrosesau dethol cynhwysol;
• annog unigolion â chyflyrau niwroamrywiol i rannu eu profiadau byw os ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny;
• cyfeirio unigolion a chydweithwyr niwroamrywiol at gymorth i ddysgu mwy am niwroamrywiaeth a'i ddeall yn well;
• darparu hyfforddiant i reolwyr llinell i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi unigolion niwroamrywiol; a
• darparu sesiynau ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth i'r gweithlu i helpu staff i ddangos empathi at gydweithwyr niwroamrywiol a'u cefnogi'n well.
5. Gofyn am Gymorth
Rydym yn deall efallai nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn dweud eich bod yn niwrowahanol.
Fodd bynnag, nid ydym am i hyn fod yn her i chi. Os ydych chi'n gweld unrhyw agwedd ar waith yn anodd neu'n heriol oherwydd eich cyflwr niwroamrywiol, rydym yn eich annog i siarad â'ch rheolwr llinell. Nid oes angen i chi gael diagnosis ffurfiol i ofyn am gymorth. Os, am unrhyw reswm, nad ydych chi'n gallu siarad â'ch rheolwr llinell, gallwch gysylltu â Phartner Busnes Adnoddau Dynol yn y lle cyntaf.
Rydym yn eich annog i fod mor agored â phosibl am unrhyw rwystrau rydych chi'n eu profi neu addasiadau sydd eu hangen arnoch i sicrhau eich bod yn cael y lefel gywir o gefnogaeth. Efallai y bydd angen i'ch rheolwr llinell drafod eich gofynion gyda chi a'n gwasanaeth iechyd galwedigaethol i'n helpu i roi'r cymorth cywir ar waith.
Bydd unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd rydych chi'n ei datgelu yn ystod trafodaethau â'ch rheolwr llinell neu'r timau Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol yn cael ei thrin mewn modd sensitif a chyfrinachol.
6. Addasiadau Wedi'u Teilwra o ran y Gweithle
Bydd eich rheolwr llinell yn gweithio gyda chi i sicrhau ei fod yn deall pa addasiadau rhesymol fyddai fwyaf defnyddiol i chi a'i fod yn gwneud yr hyn sy'n bosibl i ddarparu'r lefel gywir o gymorth i chi.
Rydym yn deall nad yw'r hyn a allai fod yn heriol yn y gweithle i un unigolyn sydd â chyflwr niwroamrywiol penodol fod yn heriol i unigolyn arall â'r un cyflwr niwroamrywiol. Yn yr un modd, efallai na fydd addasiadau sy'n gweithio i un unigolyn yn gweithio i un arall.
Mae enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn y gweithle a allai helpu rhai unigolion niwroamrywiol i gyrraedd eu potensial llawn yn y gwaith yn cynnwys:
• desg barhaol;
• amgylchedd gwaith strwythuredig gyda threfn benodol ar gyfer seibiannau, cinio, adolygiadau misol a gwiriadau wythnosol;
• mannau gweithio tawel;
• mabwysiadu technoleg gynorthwyol, megis darllenwyr sgrin neu feddalwedd adnabod llais;
• addasu lefelau sain a goleuadau yn y gweithle;
• bod eich rheolwr llinell yn dirprwyo gwaith ac yn cyfathrebu yn ei gylch mewn ffordd benodol;
• y gallu i weithio'n hyblyg; a
• gwiriadau llesiant rheolaidd.
Ni fyddwn byth yn gwneud rhagdybiaethau ynghylch yr hyn rydym yn meddwl a fyddai'n addasiad rhesymol yn seiliedig ar y nodweddion nodweddiadol sy'n gysylltiedig â chyflwr niwroamrywiol. Rydym yn cydnabod bod pob person yn unigryw a byddwn bob amser yn ystyried eich anghenion penodol.
Rydym yn darparu canllawiau ar Addasiadau Rhesymol y gallwch chi a'ch rheolwr llinell eu defnyddio i drafod a chofnodi unrhyw addasiadau y cytunwyd arnynt.
Pan gytunir ynghylch addasiadau o ran y gweithle, bydd eich rheolwr llinell yn adolygu'r rhain gyda chi yn barhaus i sicrhau eu bod yn diwallu eich anghenion.
7. Niwroamrywiaeth a Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu oherwydd nodweddion gwarchodedig penodol; un ohonynt yw anabledd.
Mae unigolyn yn anabl o dan y ddeddf os oes ganddo amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu'r unigolyn hwnnw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Rydym yn cydnabod na fydd llawer o unigolion niwroamrywiol yn adnabod bod ganddynt anabledd. Fodd bynnag, gallai rhai cyflyrau niwroamrywiol fodloni'r diffiniad o anabledd o dan y Ddeddf.
Pan fo'r diffiniad yn cael ei fodloni, mae gennym ddyletswydd statudol i wneud addasiadau rhesymol i chi ac rydych chi'n cael eich diogelu rhag gwahaniaethu yn y gwaith.
Nid ydym yn goddef unrhyw wahaniaethu yn erbyn unigolion sy'n niwroamrywiol a byddwn yn delio ag unrhyw ymddygiad o'r fath yn unol â'n gweithdrefn ddisgyblu.
8. Lechyd Galwedigaethol
Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn eich cyfeirio at y Tîm Lechyd Galwedigaethol, i gael cyngor ac i drafod â chi ynghylch beth allai eich helpu yn y gweithle er mwyn i chi wneud eich rôl a'ch cyfeirio at ffynonellau allanol i gael cymorth a chyngor pellach.
9. Gwasanaeth Cymorth Llesiant
Mae cymorth a chefnogaeth hefyd ar gael trwy ein gwasanaeth cymorth llesiant. Gallwch ofyn i'ch rheolwr llinell eich atgyfeirio i siarad ag ymgynghorydd annibynnol ar sail gyfrinachol am unrhyw fater sy'n eich poeni.
10. Dysgu a Datblygu
Mae adnoddau ar gael i bob gweithiwr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth, gan hyrwyddo ymwybyddiaeth ac ymarfer cynhwysol. Gellir cael gwybodaeth am ddigwyddiadau dysgu perthnasol, ynghyd â'r modiwlau e-ddysgu canlynol, trwy Thinqi:
• Deall Awtistiaeth (Lefel 1).
• Deall Cyfathrebu Effeithiol ac Awtistiaeth (Lefel 1).
• Deall Asesiad ac Awtistiaeth (Lefel 2).
• Deall ADHD.
• Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth (Uwch).
• Deall Syndrom Tourette.
11. Ffynonellau Cymorth Allanol
Mae nifer o sefydliadau sy'n darparu cymorth a chefnogaeth ynghylch niwroamrywiaeth, gan gynnwys:
• Mae ADHD DU gan bobl ag ADHD i bobl ag ADHD;
• Cymdeithas Dyslecsia Prydain, sy'n sefydliad ag aelodaeth sy'n gweithio i sicrhau cymdeithas i bawb sy'n addas i unigolion â dyslecsia; a
• Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, sy'n darparu adnoddau defnyddiol am awtistiaeth a chymorth a chefnogaeth i bobl awtistig a'u teuluoedd.
12. Diogelu Data
Byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol sy'n cael ei gasglu yn unol â'n polisi diogelu data / polisi ar brosesu categorïau arbennig o ddata personol Mae data sy'n cael ei gasglu o'r pwynt lle rydym yn ymwybodol o'r amgylchiadau yn cael ei gadw'n ddiogel a'i ddefnyddio gan unigolion a'i ddatgelu i unigolion dim ond er mwyn darparu'r cymorth angenrheidiol.
13. Sicrhau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, mamolaeth, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â chymhwyso’r polisi a’r weithdrefn a geir yma, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Rheoli Pobl a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/y weithdrefn yn cael ei (h)adolygu’n briodol.
