Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion

7. Detholiad o Ran 4.8 o’r Rheolau Gweithdrefn ar gyfer Cyflogi Swyddogion

CAMAU DISGYBLU

(a) Yn achos y Prif Weithredwr, Swyddog Monitro, Prif Swyddog Cyllid a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, neu swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu yn ei gylch lle roedd y swyddog, ond lle nad yw mwyach ar adeg y camau disgyblu, yn Brif Weithredwr, yn Swyddog Monitro, yn Brif Swyddog Cyllid neu'n Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a lle bo'r camymddygiad honedig neu, fel y bo'r achos, y rheswm dros y cynnig am ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod cyfnod pryd roedd y swyddog yn un o'r swyddogion hynny, gall gael ei atal dros dro o'i waith tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r camymddygiad honedig. Bydd yr ataliad hwnnw ar dâl llawn ac ni fydd yn para mwy na deufis. Ni ellir cymryd unrhyw gamau disgyblu eraill mewn perthynas ag unrhyw rai o’r swyddogion uchod ac eithrio yn unol ag argymhelliad mewn adroddiad a wnaed gan berson annibynnol dynodedig a benodwyd gan Bwyllgor Ymchwilio y Cyngor.

(b) Bydd Pwyllgor Ymchwilio "A" yn cymryd camau disgyblu mewn perthynas â Chyfarwyddwyr. 

(c) Bydd Pwyllgor Ymchwilio "B" yn cymryd camau disgyblu mewn perthynas â Phenaethiaid Gwasanaeth.
 
(d) Mater i'r grŵp gwleidyddol a benododd yr unigolyn dan sylw yw cymryd camau disgyblu mewn perthynas â chynorthwy-ydd i grŵp gwleidyddol. 

(e) Cymerir camau i atal neu ddisgyblu athrawon neu staff eraill sy'n gweithio mewn ysgolion ac sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod addysg lleol, yn unol â rheoliadau a wnaed dan Adran 35(4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd 5 gan y Cyngor ar 19/05/21.

(f) Ni fydd Cynghorwyr yn ymwneud â’r camau disgyblu yn erbyn unrhyw swyddog islaw’r penaethiaid gwasanaeth ac eithrio lle bo cyfranogiad o’r fath yn angenrheidiol ar gyfer cynnal unrhyw ymchwiliad i honiad o gamymddwyn, er y gall gweithdrefnau ynghylch disgyblaeth a gallu a gweithdrefnau cysylltiedig y Cyngor, fel y mabwysiedir hwy o bryd i’w gilydd, ganiatáu hawl i apelio i aelodau mewn perthynas â chamau disgyblu.

DISWYDDO

(a) Yn achos y Prif Weithredwr, Swyddog Monitro, Prif Swyddog Cyllid, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ac unrhyw swyddogion a oedd yn y swyddi hynny ar adeg y camymddygiad honedig neu, fel y bo'r achos, y rheswm dros y cynnig am ddiswyddo, y Cyngor llawn yn unig all ei ddiswyddo, ar ôl ystyried adroddiad person annibynnol dynodedig a benodwyd gan Bwyllgor Ymchwilio’r Cyngor.

(b) Yn ddarostyngedig i (a) uchod, Pwyllgor Ymchwilio "A" yn unig sy'n cael diswyddo Cyfarwyddwyr.
 
(c) Yn ddarostyngedig i (a) uchod, Pwyllgor Ymchwilio "B" yn unig sy'n cael diswyddo Penaethiaid Gwasanaeth.

(d) Ni fydd Cynghorwyr yn ymwneud â diswyddo unrhyw swyddog islaw'r Penaethiaid Gwasanaeth ac eithrio lle bo cyfranogiad o’r fath yn angenrheidiol ar gyfer cynnal unrhyw ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn, er y gall gweithdrefnau ynghylch disgyblaeth a gallu a gweithdrefnau cysylltiedig y Cyngor fel y mabwysiedir hwy o bryd i’w gilydd ganiatáu hawl i apelio i’r Pwyllgor Apêl.
 
(e) Mater i'r grŵp gwleidyddol a benododd yr unigolyn dan sylw yw diswyddo cynorthwyydd i grŵp gwleidyddol. Bydd athrawon neu staff eraill mewn ysgolion sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod addysg lleol yn cael eu diswyddo yn unol â rheoliadau a wnaed dan Adran 35(4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002."

Mae Cyfansoddiad y Cyngor (Rhan 3.2) yn nodi y gall y Prif Weithredwr "Benodi, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, 5 aelod i wasanaethu ar y Panel Ymchwilio ar gyfer materion y JNC sy’n ymwneud â disgyblu Swyddogion."  Mae Pwyllgor A yn ymdrin â materion disgyblu sy'n ymwneud â Chyfarwyddwyr a’r Prif Weithredwr. Mae Pwyllgor B yn ymdrin â materion disgyblu sy'n ymwneud â Phenaethiaid Gwasanaeth.

Fodd bynnag, rhaid i'r Pwyllgor Ymchwilio a sefydlwyd i ddelio ag unrhyw faterion disgyblu sy'n ymwneud â'r Prif Weithredwr gael eu rhoi ar waith gan y cyngor, nid yr arweinydd na'r Cabinet. Pan ymddengys bod honiad o gamymddwyn a allai arwain at gamau disgyblu wedi'i wneud yn erbyn pennaeth y gwasanaethau cyflogedig (prif weithredwr), mae rheoliadau Rheolau Sefydlog Cymru (Rheoliad 9 (1)) yn ei gwneud yn ofynnol, bod rhaid i'r awdurdod benodi pwyllgor ("pwyllgor ymchwilio") i ystyried y camymddygiad honedig. Yn y model hwn, mae'r JNC yn rhagweld, am resymau ymarferol, nad ydynt wedi'u nodi'n benodol yn y rheoliadau, y bydd gan y pwyllgor hwn swyddogaeth ehangach na chyflawni'r ymchwiliad cychwynnol yn unig. Er enghraifft, bydd hefyd yn derbyn adroddiad y Person Annibynnol Dynodedig, gall wneud argymhellion i'r cyngor llawn, gall gymryd camau disgyblu ei hun o dan rai amgylchiadau (yn unol â'r rheoliadau) a bod â nifer o swyddogaethau eraill megis pwerau i atal y prif weithredwr a phenodi Person Annibynnol Dynodedig.