Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Adolygwyd: Mehefin 2026

13. Apeliadau

Mae gan weithiwr yr hawl i apelio yn erbyn camau disgyblu (ac eithrio camau disgyblu anffurfiol) ar y seiliau a ganlyn: 

  • Pan fydd y gweithiwr o'r farn bod y gosb yn annheg neu'n afresymol o dan yr amgylchiadau.
  • Pan ddaw tystiolaeth newydd i'r fei a allai fod wedi effeithio ar ganlyniad y gwrandawiad disgyblu.
  • Methu â dilyn y gweithdrefnau.

Dylai'r apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig lle bynnag y bo modd i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) cyn pen 14 diwrnod calendr ar ôl derbyn y llythyr disgyblu neu ddiswyddo. Dylai'r llythyr amlinellu'r rhesymau manwl dros apelio a chaiff ei gydnabod cyn pen 14 diwrnod calendr. Dylai gweithwyr sydd angen cyngor wrth gyflwyno apêl gysylltu â'r Partner Busnes Adnoddau Dynol neu eu cynrychiolydd Undebau Llafur.

Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) yn galw panel apêl i ystyried yr apêl.  Ar gyfer yr holl sancsiynau, bydd y Panel Apeliadau yn cynnwys dau Gyfarwyddwr (neu gynrychiolydd a enwebwyd ganddynt). Dylid cynnal y Gwrandawiad Apêl ar adeg resymol ac mewn man rhesymol.  Dylai hwn ddigwydd cyn gynted â phosibl a dylai’r cyflogai gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol. Darperir cyngor i’r Panel gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol.

Mae'r Apêl a phenderfyniad y Panel yn derfynol ac nid oes hawl i apelio ymhellach o fewn y Cyngor.