Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Adolygwyd: Mehefin 2026

4. Rolau a Chyfrifoldebau

Darperir y canlynol fel canllaw yn unig. Efallai y bydd amgylchiadau sy'n pennu dyraniad gwahanol o rolau a chyfrifoldebau. Dylai’r holl swyddogion sy’n debygol o fod yn rhan o ymchwiliadau neu wrandawiadau disgyblu gael hyfforddiant a/neu gymorth priodol.  Cysylltwch â’r Partner Busnes Adnoddau Dynol i gael cyngor.

Adnoddau Dynol

Er mwyn sicrhau cysondeb bydd Partner Busnes Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor ym mhob cam o'r weithdrefn ac yn monitro ac yn adrodd ar y drefn o weithredu'r Polisi.  Bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw yn y ffeiliau personol am y cyfnod priodol, gan ddilyn egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data.

Swyddogion Ymchwilio

Fel rheol, cynhelir yr ymchwiliad gan reolwr llinell y gweithiwr (gyda chyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol), a fydd yn gyfrifol am gyfweld â'r gweithiwr a'r tystion, cymryd nodiadau ac ar ôl casglu'r ffeithiau, creu adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu eu hargymhellion ynghylch a oes achos i'w ateb. Os cytunir mai dim ond camau gweithredu anffurfiol sydd angen eu cymryd, bydd y rheolwr llinell fel arfer yn delio â hyn. Os bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at wrandawiad disgyblu, bydd y swyddog ymchwilio fel arfer yn cyflwyno'r achos i'r gwrandawiad.  Os ystyrir ei bod yn amhriodol i’r rheolwr llinell gynnal ymchwiliad, gall swyddog arall arwain (Gweler y Polisi Ymchwiliadau neu siaradwch â’r Partner Busnes Adnoddau Dynol i gael cyngor).

Y Panel Gwrandawiad Disgyblu

Bydd y Panel fel arfer yn cynnwys cynrychiolydd o'r Adran (Cyfarwyddwr neu Bennaeth Gwasanaeth neu'r cynrychiolydd a enwebwyd), Partner Busnes Adnoddau Dynol, a rhywun sy'n cymryd nodiadau (a ddarperir gan yr adran sy'n cyflogi). Cyfrifoldeb yr adran sy’n cyflogi fydd gweinyddu’r gwrandawiad gan gynnwys llythyrau rhybudd disgyblu, coladu dogfennau ategol, trefnu bod tystion yn bresennol, ac ati, fel y bo’n briodol. Bydd y Panel yn clywed ffeithiau'r achos ac yn penderfynu a yw camau disgyblu yn briodol ac os felly pa lefel o gamau fydd angen eu cymryd. Bydd canlyniad y gwrandawiad yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth neu'r cynrychiolydd a enwebwyd. Y Panel Gwrandawiad Disgyblu sy'n penderfynu ynghylch diswyddo'r gweithiwr ond cadarnheir hyn yn ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi).