Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Adolygwyd: Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 11. Swyddogion yr Undeb Llafur
- 12. Cyhuddiadau Troseddol a Rhybuddion neu Euogfarnau y tu allan i'r Gwaith
- 13. Apeliadau
- 14. Cadw Cofnodion
- 15. Hyfforddiant a Chymorth
- 16. Monitro’r Polisi a’r Weithdrefn
- 17. Cydraddoldebau
- 18. Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau
- 19. Gweithdrefn Disgyblu Mewn Crynodeb
- 20. Canllaw Cefnogi i Dystion
14. Cadw Cofnodion
Rhaid cadw cofnodion ysgrifenedig trwy gydol y broses ddisgyblu, gan gynnwys:
- Y gŵyn yn erbyn y gweithiwr.
- Amddiffyniad y gweithiwr.
- Canfyddiadau a wnaed a'r camau a gymerwyd.
- Y rhesymau dros y camau a gymerwyd.
- A gyflwynwyd apêl ai peidio.
- Canlyniad yr apêl.
- Unrhyw achwyniadau gwynion a godir yn ystod y weithdrefn ddisgyblu, a
- Datblygiadau dilynol.
- Copi o'r holl ohebiaeth sy'n ymwneud â'r broses ymchwiliad disgyblu, gwrandawiad ac apêl.
- Copïau o nodiadau unrhyw gyfarfodydd ffurfiol.
Dylid cadw cofnodion ar ffeil bersonol y gweithiwr.
Dylid trin y cofnodion fel dogfennau cyfrinachol a'u cadw'n unol â Deddf Diogelu Data 2018.
Os yw gweithiwr yn cael ei gynrychioli gan swyddog Undeb Llafur neu gydweithiwr, bydd copïau o rybuddion ynghylch cyfarfodydd disgyblu, nodiadau’r cyfarfodydd hynny, llythyr ymateb ac ati yn cael eu hanfon at yr unigolyn hwnnw, oni bai fod y gweithiwr yn hysbysu fel arall yn ysgrifenedig.
Hyfforddiant a Chymorth
Bydd yn rhaid i bob Swyddog a Chynghorydd sy'n rhan o'r broses ddisgyblu dderbyn cymorth a/neu hyfforddiant priodol. Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Galwedigaethol i gael rhagor o wybodaeth: dysgudatblygu@sirgar.gov.uk
