Arolwg Ymgysylltu â Staff 2023

Diweddarwyd y dudalen: 01/12/2023

Roedd arolwg 2023 ar agor rhwng 8 Mehefin a 21 Gorffennaf 2023.

Roedd cyfanswm o 1,459 aelod o staff wedi cymryd rhan yn yr arolwg, sef tua 18% o'n gweithlu cyfan.

Mae hyn yn ychydig yn llai na nifer y staff a gymerodd ran yn arolwg staff 2022, fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn sampl ystadegol dibynadwy.

Mae'r tablau isod yn rhoi crynodeb o'r canlyniadau cyffredinol yn ogystal â chymhariaeth â chanlyniadau'r llynedd.

Defnyddiwyd system lliw i ddangos y raddfa sgorio, sef:

  • Gwyrdd tywyll: Cytuno'n gryf
  • Gwyrdd golau: Cytuno
  • Oren: Dim barn / tuedd i gytuno'n rhannol
  • Coch: Anghytuno
  • Coch tywyll: Anghytuno'n gryf

Sylwer: Mae amrywiadau adrannol a bydd eich Cyfarwyddwr, a'r tîm rheoli, yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r canlyniadau hyn.

Ewch i'n tudalen "Fe ddwedsoch chi... fe wnaethon ni wrando(2023)," sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y camau yr ydym yn eu cymryd o ganlyniad uniongyrchol i'ch adborth

Datganiad

Canlyniad 2023 Canlyniad 2022
Gweithio i ni    
Rwyf yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin    
Byddwn yn argymell y Cyngor fel cyflogwr    
Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi am fy nghyfraniadau yn y gwaith*    
Mae fy llesiant yn bwysig i’m cyflogwr    
Mae yna bobl yn y gwaith y gallaf siarad â nhw'n agored    
Teimlaf fod fy nghyflogwr yn cefnogi cydraddoldeb yn y gweithle    
Gallaf fod yn fi fy hun yn y gwaith    
Rwy’n cael fy annog I wneud awgrymiadau a herio’r ffordd y caiff pethau eu gwneud    
Mae fy syniadau a’m barn yn cael eu clywed a’u defnyddio i wella’r ffordd y caiff pethau eu gwneud    
Cyfathrebu    
Rwy’n gwybod beth sy’n digwydd yn fy nhim/ lleoliad gwaith    
Rwy'n gwybod beth sy’n digwydd ar draws y sefydliad    
Dysgu a Datblygu    
Rwy’n cael fy annog i ddysgu a datblygu yn fy rol    
Rwyf wedi cael cyfleoedd i ddysgu a thyfu yn y 12 mis diwethaf    
Gallaf fanteisio ar gyfleoedd dysgu yn fy newis iaith    
Disgwyliadau a Chydnabyddiaeth    
Mae fy swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion y cyngor    
Rwy'n gwybod beth a ddisgwylir gennyf yn y gwaith    
Rwy'n gwybod beth y mae fy rheolwr yn ei ddisgwyl gennyf fi    
Rwy’n glir ynghylch yr hyn y gallaf ei ddisgwyl gan fy rheolwr    
Yn ystod y 12 mis diwethaf mae rhywun wedi siarad a mi am fy nghynnydd    
Mae gennyf y sgiliau a'r offer cywir i wneud fy ngwaith    
Teimlaf y gallaf berfformio hyd eithaf fy ngallu bob dydd    
Rwy’n cael cydnabyddiaeth neu diolch yn rhoelaidd gan eraill am wenud gwaith da    

 

*Datganiad 2022: “Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi am fy nghyfraniadau yn ystod y pandemig”