Dysgu a Datblygu
Diweddarwyd y dudalen: 11/12/2024
Mae'r tîm Dysgu a Datblygu yn darparu ystod eang o hyfforddiant i chi ddatblygu eich hun yn bersonol ac yn eich swydd.
Rydym hefyd yn eich annog i fanteisio ar gyfleoedd datblygu eraill sydd ar gael i chi megis hyfforddi, mentora a dysgu digidol.
Rydym yn diweddaru’r wybodaeth hon yn rheolaidd a byddwn yn rhannu syniadau newydd ac arferion da rydym wedi dod ar eu traws. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau, adborth neu offer dysgu yr hoffech eu rhannu gyda chydweithwyr, cysylltwch â dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.