Pa welliannau rydym ni'n eu gwneud?

Diweddarwyd y dudalen: 12/05/2025

Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg o'r mesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith ers i'r ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno ym mis Hydref 2024, a'r camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i adborth o'r arolwg Aflonyddu Rhywiol. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i ragor o welliannau gael eu gwneud.

 

Safonau Ymddygiad

Rydyn ni wedi diweddaru ein canllawiau ynghylch Safonau Ymddygiad, sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae gennych hawl i'w disgwyl ac y mae disgwyl i chi eu dangos i eraill. Hefyd, mae'n esbonio sut i adnabod ymddygiad annerbyniol a delio ag ef. Rydyn ni hefyd wedi diweddaru ein cynnig e-ddysgu, a fydd ar gael o fis Mehefin 2025.

Asesu'r Risg 

Mae asesiad risg Corfforaethol ar gyfer aflonyddu rhywiol wedi cael ei ddatblygu. Mae'n caniatáu i reolwyr wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys risgiau penodol yn eu gwasanaethau yn eu hasesiadau risg ar gyfer gweithgareddau. Ar ben hynny, mae'n eu hannog i gymryd camau rhesymol i atal cyfleoedd ar gyfer aflonyddu rhywiol gan ffynonellau mewnol ac allanol. 

Mae ein Pecyn Cymorth Diogelwch Personol presennol wedi cael ei adolygu a byddwn yn ymgynghori yn ei gylch yn ystod mis Mai cyn ei ailgyhoeddi.

Adrodd a Monitro 

Ym mis Ebrill 2025, cafodd y gweithdrefnau adrodd  a Digwyddiadau eu hehangu, gan ganiatáu i staff roi gwybod am ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag aflonyddu gan drydydd parti, fel cwsmer, cleient neu gontractwr.

Rydyn ni'n monitro ac yn adolygu'n gyson yr holl achosion sy'n ymwneud â Chysylltiadau â'r Gweithwyr sy'n cynnwys honiadau o fwlio a/neu aflonyddu.

Cyfathrebu

Rydyn ni'n darparu diweddariadau rheolaidd yn ein llythyrau newyddion i reolwyr a gweithwyr sy'n pwysleisio ein hymagwedd 'dim goddefgarwch o gwbl' tuag at fwlio ac aflonyddu ac yn darparu gwybodaeth am ble i gael cyngor ac arweiniad.

Cefnogi ein Rheolwyr

Mae'r Llawlyfr Rheolwyr newydd bellach ar gael ar Thinqi, ein system rheoli dysgu ac mae'n darparu gwybodaeth hanfodol am fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Gwrando ar eich Adborth

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ba mor effeithiol yw ein prosesau o ran sicrhau amgylchedd gwaith mwy diogel, gwnaethon ni gynnal arolwg staff cynhwysfawr i gasglu eich adborth am eich profiadau a'ch argymhellion ar gyfer gwella.

Cefnogi ein Staff

Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cefnogi drwy lansio rhaglen e-ddysgu ynghylch trais ac ymddygiad ymosodol yn ystod Haf 2025. Bydd hyn yn rhoi'r offer a'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymdrin â sefyllfaoedd o'r fath, gan sicrhau amgylchedd gwaith mwy diogel. Yn ogystal, byddwn yn cyflwyno llinell adrodd gyfrinachol ar gyfer honiadau o aflonyddu rhywiol. Rydyn ni hefyd yn adolygu ein cynnig datblygu o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer yr holl staff ac yn gweithredu cynllun cyfathrebu parhaus. Bydd y cynllun hwn yn eich annog i adnabod ac amlygu ymddygiad amhriodol, gan hyrwyddo sianeli adrodd amrywiol ar yr un pryd.

Cefnogi ein Busnesau 

Byddwn yn lansio rhaglen hyfforddiant bwrpasol ar gyfer ein harweinwyr, ein Penaethiaid a'n rheolwyr i roi hwb i'w hyder ac i osod safonau uchel o ran ymddygiad yn eu timau. Bydd y fenter hon yn eu haddysgu i fynd i'r afael â digwyddiadau'n brydlon a chymryd mesurau rhagweithiol i atal problemau. Bydd hyfforddiant arweinyddiaeth yn dechrau yn ystod Haf 2025, ac yna bydd hyfforddiant i Benaethiaid yn nhymor yr Hydref 2025, a sesiynau i Reolwyr Pobl yn dechrau yn ystod Hydref 2025.
 
Cefnogi Aelodau Etholedig

Ym mis Mai cafodd sesiwn ddatblygu ei chynnal ynghylch y Côd Ymddygiad gyda'n Haelodau Etholedig, a oedd yn ymdrin â safonau ymddygiad, gan gynnwys aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Trwy gymryd rhan yn y sesiwn hon, bydd yr Aelodau'n deall pwysigrwydd cynnal amgylchedd gwaith parchus a diogel, yn adnabod ymddygiadau amhriodol, ac yn meddu ar y wybodaeth i ymdrin â materion o'r fath yn effeithiol.

Camau Gweithredu Lleol

Mae'r Timau Uwch-arweinwyr o fewn Adrannau wedi cael dadansoddiad cynhwysfawr o ganlyniadau eu harolwg ynghylch aflonyddu rhywiol. Maen nhw bellach yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw risgiau penodol a gafodd eu nodi yn eu hadrannau.