Canlyniadau'r Arolwg Sgiliau Digidol
Diweddarwyd y dudalen: 19/04/2024
Cynhaliwyd Arolwg Sgiliau Digidol rhwng 22 Tachwedd 2023 a 12 Ionawr 2024 a chawsom gyfanswm o 1092 o ymatebion, sef 13.1% o'r gweithlu.
Gwnaethom ofyn amrywiaeth o gwestiynau mewn perthynas â sut rydych chi'n teimlo am eich sgiliau digidol, ac rydym wedi crynhoi'r ymatebion i chi ar y dudalen hon.
Roedd yr arolwg yn gofyn cwestiynau yn seiliedig ar y 5 llinyn Sgiliau Digidol Hanfodol (cyfathrebu, datrys problemau, trafodion, trin a storio data, bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein).
Fe wnaethoch chi rannu eich cryfderau a'ch gwendidau mewn perthynas â sgiliau digidol a nodi anghenion dysgu digidol i chi a'ch timau.
Gofynnwyd i'r staff sgorio eu hyder digidol o 10 (yn hyderus iawn) i 1 (ddim yn hyderus o gwbl). Yr ateb mwyaf cyffredin (24.6%) oedd lefel 8, ond gallwn weld o'r graff bod lefelau hyder amrywiol ymhlith y staff.
Diogelwch ar-lein
Roeddem wedi gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar ddiogelwch ar-lein.
Nifer (allan o 1092) | % | |
Gallaf osod cyfrinair cryf | 1023 | 94% |
Rwy'n gwybod pan fydd gwefan yn ddiogel (e.e. y symbol clo clap) | 890 | 82% |
Gallaf adnabod negeseuon e-bost amheus | 862 | 79% |
Rhoi gosodiadau preifatrwydd ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chyfrifon eraill | 814 | 75% |
Sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel ar-lein | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 22 | 2% |
Ddim yn siŵr | 38 | 4% |
Gyda chymorth | 41 | 4% |
Ydw | 943 | 86% |
Ddim yn gwybod | 48 | 4% |
Cyfanswm | 1092 |
Sgiliau rhyngrwyd
Roeddem wedi gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar ddefnyddio'r rhyngrwyd. Gall 94% o'r ymatebwyr fynd ar-lein a gall 94% hefyd ddefnyddio peiriannau chwilio a phrynu eitemau ar-lein. Roedd rhai meysydd allweddol ar gyfer datblygu:
Lawrlwytho ffeil o'r rhyngrwyd, ei harbed a dod o hyd iddi yn ddiweddarach | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 68 | 6% |
Ddim yn siŵr | 31 | 3% |
Gyda chymorth | 50 | 5% |
Ydw | 907 | 83% |
Ddim yn gwybod | 36 | 3% |
Cyfanswm | 1092 |
Ychwanegu tudalen we i'ch rhestr o nodau tudalen | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 155 | 14% |
Ddim yn siŵr | 52 | 5% |
Gyda chymorth | 84 | 8% |
Ydw | 763 | 70% |
Ddim yn gwybod | 38 | 4% |
Cyfanswm | 1092 |
Defnyddio offer digidol i reoli eich iechyd a'ch llesiant ar-lein | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 139 | 13% |
Ddim yn siŵr | 134 | 12% |
Gyda chymorth | 37 | 3% |
Ydw | 739 | 68% |
Ddim yn gwybod | 43 | 4% |
Cyfanswm | 1092 |
Defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer gwasanaethau ar-lein | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 55 | 5% |
Ddim yn siŵr | 25 | 2% |
Gyda chymorth | 53 | 5% |
Ydw | 919 | 84% |
Ddim yn gwybod | 40 | 4% |
Cyfanswm | 1092 |
Defnyddio sgyrsiau ar-lein | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 85 | 8% |
Ddim yn siŵr | 28 | 3% |
Gyda chymorth | 43 | 4% |
Ydw | 894 | 82% |
Ddim yn gwybod | 42 | 4% |
Cyfanswm | 1092 |
Defnyddio'r Gymraeg yn ddigidol
Roeddem wedi gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar ddefnyddio'r Gymraeg ac offer cyfieithu ar eich dyfais. Roedd un o'r sylwadau testun rhydd hefyd yn tynnu sylw at yr angen am fwy o wybodaeth am gyfieithu ar lwyfannau fel Microsoft Teams a Cysill a sut i'w defnyddio.
Pe byddech chi eisiau dysgu Cymraeg ar-lein, a fyddech chi'n gwybod ble i wneud hynny? | Nifer (allan o 1092) | % |
Na fyddwn | 141 | 13% |
Ddim yn siŵr | 89 | 8% |
Gyda chymorth | 41 | 4% |
Byddwn | 780 | 71% |
Ddim yn gwybod | 41 | 4% |
Cyfanswm | 1092 |
Allwch chi ddefnyddio Microsoft Translate? | Nifer (allan o 1092) | % |
Na allaf | 301 | 28% |
Ddim yn siŵr | 181 | 17% |
Gyda chymorth | 57 | 5% |
Gallaf | 542 | 50% |
Ddim yn gwybod | 11 | 1% |
Cyfanswm | 1092 |
Allwch chi ddefnyddio'r botwm cyfieithu mewn sgwrs Microsoft Teams? | Nifer (allan o 1092) | % |
Na allaf | 387 | 35% |
Ddim yn siŵr | 277 | 25% |
Gyda chymorth | 71 | 7% |
Gallaf | 332 | 30% |
Ddim yn gwybod | 25 | 2% |
Cyfanswm | 1092 |
Ydych chi'n cyfathrebu yn Gymraeg ar eich dyfais? | Nifer (allan o 1092) | % |
Nac ydw | 640 | 59% |
Ydw | 385 | 36% |
Ddim yn gwybod | 67 | 6% |
Cyfanswm | 1092 |
I'r rhai sy'n cyfathrebu yn Gymraeg:
Allwch chi ddefnyddio Cysill wrth ysgrifennu negeseuon e-bost yn Gymraeg? | Nifer (allan o 452) | % |
Ddim yn siŵr | 102 | 23% |
Na allaf | 121 | 27% |
Gyda chymorth | 32 | 7% |
Gallaf | 194 | 43% |
Ddim yn gwybod | 3 | 1% |
Cyfanswm | 452 |
Allwch chi newid y gwiriwr sillafu yn Word ac mewn negeseuon e-bost i'r Gymraeg ac yn ôl i'r Saesneg? | Nifer (allan o 452) | % |
Ddim yn siŵr | 80 | 18% |
Na allaf | 102 | 23% |
Gyda chymorth | 33 | 7% |
Gallaf | 237 | 52% |
Cyfanswm | 452 |
Mae 82.6% o'r ymatebwyr wedi helpu rhywun i fynd ar-lein neu ddefnyddio eu dyfais. Nododd cyfanswm o 559 o ymatebwyr eu bod wedi helpu cydweithwyr i fynd ar-lein neu ddefnyddio eu dyfais. Roedd rhai o'r sylwadau testun rhydd yn sôn am yr angen mynych i gynorthwyo staff ag offer digidol newydd, er enghraifft defnyddio SharePoint. Amlygodd sylw arall sut y gallai ein gwasanaethau wneud gwell defnydd o dechnoleg i ddisodli swyddogaethau gwaith papur presennol, a sut y mae angen i ni rannu a dysgu mwy oddi wrth ein gilydd.
Roeddem wedi gofyn i chi beth fyddai gennych ddiddordeb mewn dysgu amdano. Ymhlith y nifer uchaf o bleidleisiau oedd Microsoft Excel gan 298 o ymatebwyr, Diogelwch Ar-lein gan 232 o ymatebwyr, E-bost gan 211 o ymatebwyr, a Defnyddio'r Gymraeg ar fy nyfais gan 205 o ymatebwyr.
Themâu rhai o'r 129 o sylwadau testun rhydd eraill oedd bod eisiau mwy o gymorth o ran defnyddio SharePoint i arbed, storio a chyrchu dogfennau, archwilio a deall offer deallusrwydd artiffisial, a dysgu am Microsoft Power BI a Power Automate.
Thema testun rhydd arall a ddaeth i'r amlwg drwy'r arolwg oedd sgiliau digidol rheolwyr. Roedd y sylwadau yn amrywio o nodi bod angen mwy o gymorth digidol ar reolwyr newydd a staff sy'n cefnogi rheolwyr yn ddigidol i ystyried sut y gallem ddefnyddio asesiadau sgiliau digidol fel rhan o'n proses recriwtio.
Diddordeb mewn dysgu am | Nifer | % allan o 1092 |
Microsoft Excel | 298 | 27% |
Diogelwch ar-lein | 232 | 21% |
Ebost | 211 | 19% |
Defnyddio mwy o Gymraeg ar fy nyfais | 205 | 19% |
Deall negeseuon e-bost a sgamiau gwe-rwydo | 189 | 17% |
Storio ac arbed ffeiliau ar fy nyfais | 186 | 17% |
Microsoft PowerPoint | 172 | 16% |
Cadw fy nghyfrifon personol yn ddiogel | 152 | 14% |
Hwyluso sesiynau ar-lein (gweminarau) | 142 | 13% |
Rheoli fy iechyd a llesiant ar-lein | 126 | 12% |
Microsoft Teams | 110 | 10% |
Microsoft Word | 106 | 10% |
Sut i helpu eraill i ddefnyddio eu dyfais | 105 | 10% |
Defnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth dda | 65 | 6% |
Gwasanaethau cyhoeddus ar-lein | 62 | 6% |
Zoom | 60 | 5% |
Ymgeisio am swyddi ar-lein | 50 | 5% |
Rheoli arian ar-lein | 43 | 4% |
Defnyddio ffôn clyfar | 41 | 4% |
Teipio / defnyddio bysellfwrdd | 38 | 3% |
Cyfanswm y pleidleisiau | 2720 |
- Hybu ac annog staff i gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol newydd ar Ymwybyddiaeth Seiber yn y Gweithle i roi mwy o wybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein, ac archwilio sut y gallwn lunio rhaglen ddiogelwch ar-lein i ddechreuwyr er mwyn hybu gweithlu sy'n ddiogel yn ddigidol.
- Creu a rhannu adnoddau sy'n cynorthwyo staff i gyrchu gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein yn effeithiol (e.e. rheoli iechyd a llesiant ar-lein).
- Creu adnodd sy'n dangos ac yn hybu'r defnydd o nodweddion cyfieithu ac offer Cymraeg ar ddyfeisiau staff.
- Hybu ac annog staff i ddatblygu eu sgiliau yn y rhaglenni Microsoft sydd ar gael (Excel, SharePoint, Outlook, Teams, Word, PowerPoint), a hysbysebu cyfleoedd a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
- Datblygu Rhaglen Mentoriaid Digidol sefydledig. Cynnig cyfle i staff ymgymryd â hyfforddiant Mentoriaid Digidol ar draws yr awdurdod i wella'r cymorth rydym yn ei roi i'n gilydd.
- Archwilio'r defnydd o asesiadau digidol ar ôl recriwtio, a sut y gallwn gefnogi rheolwyr newydd i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Cefnogi'r broses o weithredu Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial TG a rhannu adnoddau a fydd yn helpu staff i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol
- Hysbysebu tudalen fewnrwyd Datblygu eich sgiliau digidol yn rheolaidd i'r holl staff a defnyddio'r holl lwybrau cyfathrebu i gyrraedd cynifer o aelodau staff â phosibl.
Bydd yr arolwg hwn yn llinell sylfaen o ran sgiliau digidol presennol ar draws y sefydliad a bydd yn dylanwadu ar gynllun hyfforddi wrth symud ymlaen. Er mwyn gweithio yn unol â Strategaeth Trawsnewid Digidol Sir Gaerfyrddin, byddwn yn ceisio anfon yr arolwg digidol hwn allan eto ymhen tair blynedd i gymharu sut y mae ein gweithredoedd wedi cael effaith, a sut y gallwn barhau i ddatblygu gweithlu sydd wedi'i alluogi'n ddigidol.
Os hoffech weld adroddiad llawn yr arolwg ar eich maes gwasanaeth, cysylltwch â Holly Rowley: hlrowley@sirgar.gov.uk
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff