Profiad Gwaith Haf 2024

Diweddarwyd y dudalen: 12/07/2024

Mae'r ceisiadau am Brofiad Gwaith Haf wedi dod i ben. Diolch i'r holl Reolwyr sydd wedi croesawu profiad gwaith eleni. Rydym wedi mwy na dyblu’r profiadau o gymharu â’r llynedd gyda chyfanswm o 13 wedi’u gosod.

Mae Rob a Viv wedi croesawu 6 lleoliad Peirianneg yr haf hwn, Peirianneg am yr ail flwyddyn yn olynol yw ein cais mwyaf poblogaidd!

Mae Amddiffyn rhag Llifogydd hefyd wedi bod yn gais poblogaidd gyda 3 hyd yn hyndiolch yn fawr iawn i Ben, Cath a Kieron sydd wedi croesawu'r lleoliadau hyn. Isod mae lluniau o 2 ddisgybl yn mwynhau gwaith Rheoli Llifogydd Naturiol yn Rhydaman.

Mae'r Ecoleg Gynllunio, Trawsnewid Systemau Digidol, Mynediad a Dylunio Cefn Gwlad i gyd wedi croesawu lleoliadau.

Mae cynnig profiad gwaith yn bwysig i ni fel awdurdod lleol gan y gall gefnogi datblygiad cymunedol a sicrhau gweithlu medrus ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Mae profiadau hefyd yn darparu sgiliau ymarferol a gwybodaeth am y diwydiant a allai arwain at gyflogaeth yn y dyfodol i CSC.