ALLOY

Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2024

Fel rhan o brosiect trawsnewid digidol yr adran, bydd system rheoli swyddi newydd o'r enw ALLOY yn cael ei rhoi ar waith o fewn Seilwaith Amgylcheddol.

Mae ALLOY yn system rheoli swyddi, a ddefnyddir i gysylltu ein gweithlu yn well. Drwy awtomeiddio ein prosesau a chasglu data, bydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n rhedeg yn esmwyth ac yn darparu ffordd fwy effeithlon o weithio.

Mae'r fideos hyfforddi hyn wedi'u cynllunio ar gyfer staff swyddfa a fydd yn defnyddio ALLOY o ddydd i ddydd. Maent wedi'u cynllunio i ddarparu tiwtorialau cyflym a throsolwg o sut mae'r system yn gweithio a sut i'w gweithredu eu hunain.