Newyddion y Fflyd

Diweddarwyd y dudalen: 21/10/2026

Ceisiadau am Wefrwr Cerbydau Trydan ar Safleoedd y Cyngor

Er mwyn sicrhau ymagwedd gydlynol at osod gwefrwyr cerbydau trydan (EV) ar draws eiddo'r Cyngor, gan gynnwys ysgolion, rhaid cyflwyno pob cais nawr trwy borth y Gweithgor Trafnidiaeth Cerbydau Trydan - a bod cyllid wedi'i sicrhau eisoes ai peidio. 

Llenwch y ffurflen ar-lein hon i:

  • Fynegi diddordeb mewn cael gwefrwyr cerbydau trydan wedi'u gosod ar eich safle
  • Gofyn am gymorth gyda'r gwaith gosod ac am arweiniad gan y Gweithgor Cerbydau Trydan 

Mae'n hanfodol bod y Gweithgor Cerbydau Trydan yn gwybod am bob pwynt gwefru. Yn ddiweddar, mae gwefrwyr wedi'u gosod heb ymgynghori, gan olygu bod rheoli adnoddau a chynllunio'n effeithiol yn anodd. Yn y dyfodol, ni fydd unrhyw waith gosod yn cael ei ystyried oni bai bod cais wedi'i gyflwyno drwy'r ffurflen.  

Ffurflen Gais Gosod Pwynt Gwefru Cerbydau Trydan – Llenwch y ffurflen

Sut i archebu gwefrydd yn Neuadd y Sir?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch gwefrwyr Cerbydau Trydan ar safleoedd y Cyngor, e-bostiwch y Gweithgor Cerbydau Trydan: evci@sirgar.gov.uk 

Diolch am ein helpu i ddarparu rhwydwaith gwefru cydgysylltiedig a chynaliadwy. 

 

Contract Newydd ar gyfer Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig – Yn Effeithiol o 1 Awst

Sylwer, o 1 Awst ymlaen, mae contract newydd ar gyfer Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig wedi’i ddyfarnu i Tuf Tread Tyres.

Os byddwch yn profi unrhyw broblemau gyda theiars eich cerbyd neu os oes angen gwasanaethau sy’n ymwneud â theiars arnoch, cysylltwch ag Iwan Evans (Gwasanaethau Fflyd) ar 01554 784138.

Peidiwch â chysylltu â’r cwmni teiars yn uniongyrchol – rhaid i bob cais fynd drwy Wasanaethau Fflyd.

Diolch am eich cydweithrediad.

Y gyfraith ar ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru

Y gyfraith ar ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru

Ffonau Llaw

Mae defnyddio ffon symudol a llaw wrth yrru yn anghyfreithlon. Os cewch eich dal yn defnyddio ffon symudol a llaw wrth yrru, byddwch yn cael 6 phwynt cosb ar eich trwydded a dirwy o £200. Bydd rhaid I yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a Cherbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSV) sy’n cael eu dal yn defnyddio’u ffonau symudol ddwywaith, neu sy’n cael 12 pwynt ar eu trwydded, fynd I’r Llys Ynadon.. Bydd gyrwyr hefyd yn cael eu hatgyfeirio’r comisiynydd traffig a gallant gael eu gwahardd rhag gyrru am isafswm o 4 wythnos.

Ffonau llawrydd

Mae defnyddio ffonau llawrydd yn gyfreithlon, ond mae’n gallu tynnu eich sylw ac felly mae’n gallu bod yn beryglus. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol, gallai gyrwyr gael eu herlyn am ’fethu a rheoli’r cerbyd mewn modd priodol’.

Pam mae defnyddio ffon wrth yrru’n beryglus?

Mae’n tynnu eich sylw’n feddyliol—wrth yrru a defnyddio eich ffon mae angen I chi ganolbwyntio ar 2 dasg ‘meddwl’ ar yr un pryd. Mae’n tynnu eich sylw’n gorfforol—dim ond 1 llaw sydd gennych I lywio’r cerbyd wrth I chi ddal eich ffon. Mae’n tynnu eich llygaid oddi ar y ffordd—mae edrych ar eich ffon yn hytrach nag edrych ar y ffordd yn creu man dall gyrru.

Sut y mae hyn effeithio ar fy mherfformiad wrth yrru?

Yn llawer llai ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar y ffordd o’u cwmpas. Yn methu a gweld arwydddion ffyrdd. Yn methu ag aros yn y lle iawn mewn lon a chadw at gyflymder cyson. Yn ymateb yn arafach ac yn cymryd mwy o amser i arafau.

Ein polisi ar defnyddio ffon, llyw lloeren neu ddyfais arrall wrth yrru

Gall blinder lladd

Darllenwch y canllaw Gyrru Cysglyd a blinder gan y DVLA.

Gyrru arweiniad blinedig

Gwiriwch a yw cyflwr iechyd yn effeithio ar eich gyrru

Mae angen i chi ddweud wrth DVLA am rai cyflyrau meddygol gan y gallant effeithio ar eich gyrru.

Defnyddiwch yr A i Y i wirio a oes angen i chi roi gwybod am eich cyflwr a dod o hyd i'r ffurflen neu holiadur perthnasol.

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru.

Efallai y cewch eich erlyn os ydych mewn damwain o ganlyniad.

Rhaid i chi roi’r gorau i’ch trwydded os yw naill ai:

  • mae eich meddyg yn dweud wrthych chi am roi'r gorau i yrru am dri mis neu fwy
  • nad ydych yn cyrraedd y safonau gofynnol ar gyfer gyrru oherwydd eich cyflwr meddygol

Mewn rhai achosion, fel diabetes, mae canllawiau penodol ar gyfer gyrwyr lorïau, bysiau a choetsys.

Mae’n werth nodi bod cyflyrau meddygol hysbysadwy yn cynnwys y rhai a allai fod yn ‘anweledig’ ar y dechrau weithiau, fel gorbryder, iselder ac anhwylder straen wedi trawma. Mae gyrwyr proffesiynol yn cael eu hystyried yn grŵp risg uchel o ran iechyd meddwl.

Ydych chi wedi cael damwain mewn cerbyd gwaith? Ydych chi wedi rhoi gwybod i'ch cwmni yswiriant personol?

Rhaid i bob gyrrwr ddatgan pob damwain/hawl i'w cwmni yswiriant moduro. Os bydd yswiriwr yn darganfod bod gyrrwr wedi methu â rhoi gwybod am ddamwain, yna gallai polisi personol y gyrrwr gael ei ganslo, ac efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd cael yswiriant yn y dyfodol.

Nid yw'n bosibl gwahanu eich gweithgareddau gyrru gwaith oddi wrth eich trefniadau preifat pan ddaw'n fater o yswiriant modur.

Cymerwch ofal bob amser, boed yn eich cerbyd eich hun neu mewn cerbyd a ddarperir gan y Cyngor.

Canllawiau i yrwyr: Cerbydau Nwyddau Mawr (Cerbydau dros 3,500kg)

Mae'r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall a chydymffurfio ag ychydig o reolau a rheoliadau pwysig ynghylch ymddygiad a thrwyddedu gyrwyr yn y diwydiant cludo.

  • Ymddygiad gyrwyr
  • CPC gyrwyr a cherdyn tacograff
  • Trwyddedu gyrwyr a chyflyrau meddygol
  • Archwiliadau bob dydd