Modiwlau E-ddysgu Newid yn yr Hinsawdd
Diweddarwyd y dudalen: 22/11/2024
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur ac mae wedi ymrwymo'n llwyr i'r targed o ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net. Mae cyfrifoldeb ar bob aelod o staff i chwarae eu rhan i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd y targed hwn.
Datblygwyd cyfres newydd o fodiwlau e-ddysgu i helpu i hwyluso eich dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a'r meysydd allweddol sy'n ymwneud â'r pwnc hwn. Cafodd y modiwlau eu creu mewn cydweithrediad â'r awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.
Mae'r gyfres hon o fodiwlau e-ddysgu yn cynnwys y meysydd pwnc canlynol:
- Newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur
- Hanfodion ynni
- Ynni adnewyddadwy
- Trafnidiaeth
Mae modiwl bach hefyd wedi'i gynnwys sy'n rhoi cyd-destun Cyngor Sir Caerfyrddin ar nifer o nodweddion yr ymgymerir â nhw yn y meysydd allweddol hyn er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiad o fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030.
Mwy ynghylch Prosiect Zero Sir Gar