Gwahoddiad i bobl yn ardal Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn treial sgrinio canser 'bilsen-ar-edau' newydd
1 diwrnod yn ôl
Mae pobl leol yn ardal Sir Gaerfyrddin sy'n byw gyda llosg cylla, diffyg treuliad neu adlif asid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn treial ymchwil mawr gan ddefnyddio prawf syml a allai helpu i adnabod arwyddion o ganser yr oesoffagws yn gynharach.
Gall dynion rhwng 55 a 79 oed a menywod rhwng 65 a 79 oed gymryd rhan.
Mae'r treial yn cael ei gynnal ar uned sgrinio symudol BEST4, clinig symudol arbennig sy'n dod ag ymchwil yn agosach at gymunedau ledled Cymru.
Fel rhan o'r treial, bydd yr uned yn ymweld â nifer o fyrddau iechyd ledled Cymru. Bydd yr uned yn y lleoliad canlynol o ddydd Llun 26 Hydref i dydd Gwener 6 Tachwedd:
Carmarthen Leisure Centre, Llansteffan Rd, Johnstown, Carmarthen SA31 3NQ
Sut i gymryd rhan:
I gael eich ystyried ar gyfer y treial:
Gall pobl gymwys dderbyn neges destun gan GIG Cymru yn eu gwahodd i ymuno â'r rhaglen iechyd llosg cylla o'r enw Heartburn Health.
Os ydych yn derbyn neges destun gan GIG Cymru, cliciwch ar y ddolen yn y neges i gofrestru ar gyfer Heartburn Health.
Bydd rhai pobl sy'n cofrestru ar gyfer Heartburn Health ac yn bodloni'r gofynion treial yn cael eu dewis ar hap i fynychu apwyntiad ar uned sgrinio symudol BEST4.
Os nad ydych wedi derbyn neges destun gan GIG Cymru yn eich gwahodd i ymuno â Heartburn Health, ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, gallwch gofrestru yma: www.HeartburnHealth.org.
