Lansio Cronfa Trawsnewid ac Arloesi y Cyngor

1 diwrnod yn ôl

Mae'r Gronfa yn dwyn ynghyd ein Cronfa Trawsnewid bresennol a'n Cronfeydd Buddsoddi i Arbed/Datblygu mewn un rhaglen ariannu, gan greu llwybr clir ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau a all gyflawni newid ystyrlon a mesuradwy.

Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn cynigion sy'n:

  • Gwella canlyniadau i breswylwyr a chymunedau

  • Cyflwyno ffyrdd arloesol go iawn o weithio

  • Lleihau'r galw a chostau yn y dyfodol

  • Creu effeithlonrwydd a gwerth am arian

  • Cefnogi atal ac ymyrraeth gynnar

  • Creu cyfleoedd cynhyrchu incwm

  • Manteisio ar gyllid allanol trwy drefniadau cyllid cyfatebol a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus

Manteisio ar gyllid allanol trwy drefniadau cyllid cyfatebol a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddusMae'r Gronfa yn cynnig Benthyciadau Buddsoddi i Arbed ar gyfer prosiectau sy'n darparu arbedion ariannol a Grantiau Buddsoddi Trawsnewid ar gyfer prosiectau sy'n dangos buddion ehangach i'r gwasanaeth ac sy'n osgoi costau.

Mae holl wasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys ysgolion, yn gymwys i ymgeisio. Mae ffurflenni cais ar gael ar gyfer cynigion o dan £250,000 a thros £250,000.

Transformation and Innovation Fund Application Form 1 (Below £250,000) – Fill in form

Transformation and Innovation Fund Application Form 2 (Above £250,000) – Fill in form

Mae'r Gronfa Trawsnewid ac Arloesi yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Wrth asesu, rhoddir mwy o bwys ar syniadau a phrosiectau o’r fath. Gellir defnyddio'r Gronfa i ddarparu cyfraniad y Cyngor at brosiectau a ariennir ar y cyd, gan alluogi gwasanaethau i sicrhau buddsoddiad ychwanegol a gwneud y mwyaf o effaith yr adnoddau sydd ar gael.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Mercher 18 Tachwedd 2026. Bwriedir cynnal rownd ymgeisio arall yn y flwyddyn newydd ar gyfer cyllid i'w ddyrannu o fis Ebrill 2027.

Os hoffech drafod cynnig posibl cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Tîm Trawsnewid.