Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
Diweddarwyd y dudalen: 14/01/2025
Bydd diben y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb Cam 1af fel a ganlyn:
- Adolygu cofnod presenoldeb y gweithiwr
- Rhoi'r cyfle i'r gweithiwr drafod unrhyw broblemau neu godi unrhyw bryderon
- Penderfynu a oes angen atgyfeiriad meddygol
- Gosod cyfnod pan fydd lefelau absenoldeb yn cael eu monitro
- Rhoi gwybod i'r gweithiwr os na fydd presenoldeb yn gwella yn y cyfnod monitro a osodwyd, cynhelir Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 2il Gam
Templed llythyron am cyfarford rheoli absenoldeb cam 1af
Cyfarfod Rheoli Presenoldeb Cam 1af
Bydd diben y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 2il Gam fel a ganlyn:
- Adolygu cofnod presenoldeb y gweithiwr yn ystod y cyfnod perthnasol
- Adolygu'r camau a gymerwyd i gefnogi'r gweithwyr wrth gyflawni'r lefel ofynnol o bresenoldeb
- Rhoi'r cyfle i'r gweithiwr drafod unrhyw broblemau neu godi unrhyw bryderon
- Trafod unrhyw gyngor meddygol a dderbyniwyd
- Ystyried unrhyw addasiadau rhesymol neu adleoli a argymhellwyd
- Penderfynu a oes angen atgyfeiriad meddygol pellach
- Gosod cyfnod pan fydd lefelau absenoldeb yn cael eu monitro
- Cyhoeddi rhybudd sy'n rhoi gwybod i'r gweithiwr os na fydd ei bresenoldeb yn gwella, cynhelir Cyfarfod Rheoli Absenoldeb terfynol ac efallai y bydd ei gyflogaeth barhaus mewn perygl.
Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 2il Gam - Hawl i Adolygiad (Staff Corfforaethol yn unig)
Mae gan y gweithiwr yr hawl i ofyn bod penderfyniad y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 2il Gam yn cael ei adolygu gan Gyfarwyddwr neu gynrychiolydd a enwebwyd â chyngor oddi wrth y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu gynrychiolydd a enwebwyd.
Mae'n rhaid i'r cais i adolygu'r penderfyniad gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) o fewn 7 diwrnod calendr i ddyddiad y llythyr canlyniad. Mae'n rhaid i'r gweithiwr fanylu ar ei resymau dros wneud cais am adolygiad.
Bydd y Rheolwr Llinell yn cydnabod derbyn y cais i adolygu'r penderfyniad yn dilyn y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 2il Gam. Bydd gofyn i'r gweithiwr roi cydsyniad i ryddhau Adroddiadau Iechyd Galwedigaethol i'r unigolion perthnasol i adolygu'r achos.
Templed llythyron am cyfarford rheoli absenoldeb yr 2il gam
Cyfarfod Rheoli Presenoldeb 2il Gam
Canlyniad Corfforaethol 2il Gam
Gall rheolwr arall neu Gynghorydd AD fod gyda'r Rheolwr Llinell yn y cyfarfod hwn. Rhoddir gwybod i'r gweithiwr ymlaen llaw yn y llythyr gwahoddiad y gallai diswyddo fod yn ganlyniad y cyfarfod hwn oherwydd gallu iechyd gwael. Wrth ystyried penderfyniad terfynol ar allu iechyd gwaith mae'n bwysig bod gennych adroddiad meddygol wedi'i ddiweddaru oddi wrth Ddoctor Iechyd Galwedigaethol.
Ym mhob achos lle mae diswyddo oherwydd gallu iechyd gwael yn cael ei ystyried, dylid rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr neu gynrychiolydd a enwebwyd a cheisio cyngor oddi wrth Gynghorydd AD cyn y cyfarfod hwn.
Bydd diben y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 3ydd Cam fel a ganlyn:
- Adolygu cofnod presenoldeb y gweithiwr dros y cyfnod perthnasol ac os yw'n berthnasol, bydd cofnod presenoldeb y 3 blynedd ddiwethaf yn cael ei ystyried
- Adolygu'r camau a gymerwyd i gefnogi'r gweithwyr wrth gyflawni'r lefel ofynnol o bresenoldeb
- Rhoi'r cyfle i'r gweithiwr drafod unrhyw broblemau neu godi unrhyw bryderon
- Trafod unrhyw gyngor meddygol a dderbyniwyd
- Darparu gwybodaeth i'r gweithiwr ynglŷn â ph'un a fydd yn cael ei ddiswyddo oherwydd gallu iechyd gwael
Yn y Cyfarfod Rheoli Absenoldeb 3ydd Cam, os penderfynir peidio â diswyddo yna bydd yr un egwyddor ar waith ag yn y camau eraill.
Templed llythyron am cyfarford rheoli absenoldeb yr 3ydd cam
Cyfarfod Rheoli Presenoldeb 3ydd Cam