Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Diffiniad ac Egwyddorion Cyffredinol
- 4.0 Cyfrifoldebau
- 5.0 Gweithdrefnau Adrodd
- 6. Absenoldeb o ½ diwrnod neu lai
- 7. Gweithwyr gyda dwy swydd neu fwy
3. Diffiniad ac Egwyddorion Cyffredinol
Y diffiniad o salwch yw 'anallu i gyflawni'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau y mae rhwymedigaeth gontractiol arnoch i'w cyflawni oherwydd eich salwch neu ddamwain'. Mae'r polisi hwn yn cyflwyno'r egwyddorion i chi a'ch rheoli sicrhau tegwch a thryloywder wrth reoli absenoldeb salwch drwy:
- Fynd ati'n rhagweithiol i hybu gweithlu iachach;
- Sicrhau eich bod yn deall ac yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau adrodd priodol a'r gofynion ardystio;
- Gofyn am gyngor meddygol, os yw'n briodol, i bennu a oes unrhyw achos meddygol sylfaenol dros eich absenoldeb;
- Bod yn arbennig o sensitif pan fydd absenoldebau yn cael eu hachosi gan resymau personol neu deuluol;
- Dangos goddefgarwch ac empathi rhesymol tuag at eich absenoldeb salwch, gan wneud yr hyn sy'n bosibl i'ch cefnogi i wella;
- Gwirio a yw eich absenoldeb yn gysylltiedig â'r gwaith ai peidio, er enghraifft o ganlyniad i faterion yn y gweithle sy'n achosi straen neu oherwydd cyflwr iechyd meddwl (Gweler y Polisi Iechyd Meddwl yn y Gweithle i gael cymorth a chyngor);
- Cynnal trafodaethau dychwelyd i'r gwaith gyda chi;
- Monitro lefelau absenoldeb a chynnal cyfarfod pan fydd eich absenoldeb yn cyrraedd trothwyon absenoldeb salwch;
- Ystyried 'addasiadau rhesymol' i chi os oes gennych chi gyflwr iechyd hirdymor sy'n cael effaith ar eich gallu i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd;
- Defnyddio'r polisi hwn pan fydd angen i ddod â'ch cyflogaeth i ben os ydych yn methu â dod i'r gwaith yn rheolaidd oherwydd afiechyd.
Mae pob gweithiwr parhaol a thros dro, amser llawn a rhan amser (yn amodol ar gyfnod gofynnol o wasanaeth) yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Galwedigaethol o dan y telerau ac amodau cyflogaeth NJC, cyhyd ag y bodlonir yr amodau a amlinellir yn y polisi hwn.
Rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch. Os yw eich absenoldeb o fewn diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, mewn perthynas ag anabledd neu nodweddion gwarchodedig eraill, bydd addasiadau rhesymol yn cael eu hystyried gan ddefnyddio'r Canllaw Addasiadau Rhesymol Anableddau, y Canllaw Menopos neu ganllawiau perthnasol eraill, fel sy'n briodol. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi pa addasiadau rhesymol a allai eich helpu i ddod i'r gwaith yn rheolaidd.
Dylech fod yn ymwybodol nad yw dweud eich bod sâl pan fo'r rheswm oherwydd salwch neu ddamwain pobl eraill yn briodol. Os oes angen amser i ffwrdd o'r gwaith neu gyfnod o weithio hyblyg arnoch er mwyn gweithio o amgylch eich ymrwymiad i eraill, e.e. anghenion gofal rhywun sy'n dibynnu arnoch, gallwch ofyn am gymorth a gwneud cais drwy eich rheolwr llinell drwy bolisïau eraill megis y Polisi Gweithio Hyblyg neu'r Polisi Amser o'r Gwaith.
Os yw eich absenoldeb oherwydd profedigaeth ddiweddar, gellir cefnogi hyn gydag absenoldeb tosturiol.
Bydd absenoldeb salwch yn ystod beichiogrwydd, waeth beth fo'r rheswm, yn cael ei gofnodi yn unol â gweithdrefnau adrodd absenoldeb salwch. Os ydych chi'n sâl yn ystod eich beichiogrwydd, bydd eich rheolwr llinell yn parhau i gynnal cyfarfod 'dychwelyd i'r gwaith' a'r 'cyfarfod cymorth i weithwyr' fel y bo'n briodol. Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i drafod unrhyw addasiadau priodol a allai fod eu hangen i'ch cefnogi yn ystod eich beichiogrwydd a hefyd i adolygu eich asesiad risg beichiogrwydd. Fodd bynnag, bydd absenoldeb sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn cael ei ddiystyru at ddibenion rheoli absenoldeb trwy bob cam ffurfiol o'r weithdrefn hon.
Mae absenoldeb salwch yn gysylltiedig â beichiogrwydd sy'n digwydd yn ystod y pedair wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y babi yn peri bod y cyfnod absenoldeb mamolaeth yn dechrau yn awtomatig.
Bydd absenoldeb salwch oherwydd clefyd diwydiannol, ymosodiad neu ddamwain yn y gwaith yn cael ei reoli yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn y polisi a'r weithdrefn hon. Os ydych chi'n cael damwain neu anaf wrth ymgymryd â'ch dyletswyddau, mae'n ofynnol i chi roi gwybod am hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i'ch rheolwr llinell (neu reolwr safle amgen os ydych chi'n gweithio mewn lleoliad gwahanol) yn unol â'r weithdrefn adrodd damwain, digwyddiad neu ddamwain a fu bron â digwydd Efallai y bydd eich rheolwr yn eich cyfeirio at y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol yn dilyn anaf cysylltiedig â'r gwaith ar ôl ceisio cyngor gan Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch.
Mae absenoldeb mewn perthynas â salwch arferol yn gwbl ar wahân i absenoldeb oherwydd clefyd diwydiannol, neu o ganlyniad i ymosodiad neu ddamwain yn y gwaith. Ni fydd cyfnodau absenoldeb mewn perthynas ag un yn cael eu gosod yn erbyn y llall at ddibenion cyfrifo hawl o dan y cynllun tâl salwch.
Mae pob data sy'n ymwneud â'ch iechyd, yn rhinwedd ei natur, yn wybodaeth gyfrinachol, ac ni fydd yn cael ei rannu ond gyda'r rheolwr llinell perthnasol, Adnoddau Dynol a phersonél Iechyd Galwedigaethol. Ni ddatgelir gwybodaeth i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw.
Os ydych ar absenoldeb salwch hirdymor byddwch yn parhau i gronni'ch hawl i wyliau a gallwch ofyn am gael cymryd hyn ar ddyddiad diweddarach (mae’r hawl i wyliau contractiol yn cronni am gyfnod o absenoldeb salwch parhaus o hyd at 4 wythnos ac ar ôl hynny dim ond yr hawl i wyliau statudol sy'n cronni). Os ydych ar absenoldeb salwch hirdymor ac yn dymuno cymryd gwyliau blynyddol, dylech wneud cais i gymryd eich gwyliau tra ydych ar absenoldeb salwch yn yr un modd â phe baech dal yn y gwaith.
Os byddwch yn mynd yn sâl neu'n cael anaf yn ystod gwyliau, gallwch wneud cais i newid hyn i absenoldeb salwch os ydych yn bodloni’r amodau cymwys.
Gweler y Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau.
