Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion

5. Egwyddorion Cyffredinol

Lle bo hynny’n briodol, ffefrir datrys mater yn anffurfiol yn hytrach na chymryd camau disgyblu ffurfiol.

Rhaid i bob achos lle mae ymchwiliad disgyblu neu gamau sy'n ymwneud â Phrif Swyddogion yn cael eu hystyried gael eu cyfeirio at y Prif Weithredwr Cynorthwyol a Phennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil neu gynrychiolwyr enwebedig.

Gellir atal yr ymchwiliad disgyblu neu'r weithdrefn ffurfiol ar unrhyw adeg i archwilio cyfryngu fel modd o ddatrys y mater disgyblu os yw'n briodol a bod y Prif Swyddog perthnasol yn cytuno i hynny.

Mae er budd pob parti i gynnal achosion yn gyflym. Cydnabyddir y byddai'n amhriodol gosod amserlenni a allai fod yn anodd eu cyflawni mewn termau ymarferol.

Ni ddylid atal swyddog yn awtomatig a dylai fod yn opsiwn ar gyfer amgylchiadau ble mae popeth arall wedi methu, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r achos.   Darllenwch am Atal dros dro ar ein Mewnrwyd.
 
Ac eithrio mewn amgylchiadau lle mae gofyniad brys i atal, bydd gan swyddogion y mae’r polisi hwn yn berthnasol iddynt hawl i gael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda hwy drwy bob cam o’r broses.