Teithio at ddibenion gwaith

Diweddarwyd y dudalen: 01/04/2022

Rydym yn lleihau faint o deithio a wnawn, felly cyn teithio, ystyriwch a oes angen gwneud y daith a chytunwch ar hyn ymlaen llaw gyda'ch rheolwr.

Rydym wedi dweud y byddwn yn dod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. Felly, mae cyfyngu ar y teithio a'r cymudo a wnawn yn hanfodol i gyflawni hyn.

Mae gennym y dechnoleg i gynnal cyfarfodydd rhithwir, felly, cyn teithio, rhaid i chi ystyried a oes angen gwneud y daith.

Os oes angen i chi deithio, mae'n ofynnol i chi ddewis y dull mwyaf cost-effeithiol o deithio e.e. car adrannol trydan neu drafnidiaeth gyhoeddus, a dylai diben y daith fod am reswm busnes swyddogol penodol. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Pan fo'n ofynnol am reswm statudol neu reswm busnes dros gynnal y cyfarfod yn bersonol yn hytrach na chyfarfodydd ar-lein
  • Lle nad oes gan y rheiny sydd i ddod i'r cyfarfod fynediad at dechnoleg
  • Lle gall anabledd atal rhywun rhag defnyddio technoleg i gyfathrebu
  • Er mwyn sefydlu a chynnal perthynas waith e.e. sefydlu gweithiwr newydd, gweithgarwch adeiladu tîm
  • Lle mai dim ond o leoliad sefydlog neu wyneb yn wyneb y gellir darparu gweithgaredd dysgu a datblygu e.e. hyfforddiant codi a chario
  • Rhai cyfarfodydd cysylltiadau gweithwyr lle mae'n well gan undebau llafur a/neu weithwyr gyfarfod yn bersonol
  • Cyfarfod â defnyddwyr y gwasanaeth
  • Rhai cyfarfodydd democrataidd ag Aelodau Etholedig

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol, a bydd yr enghreifftiau'n dibynnu ar y math o wasanaeth a ddarperir gennych. Darllenwch ein Polisi Teitihio i gael gwybodaeth fanwl.