Rheoli a gweithio mewn tîm hybrid

Diweddarwyd y dudalen: 06/02/2024

Wrth symud ymlaen bydd llawer ohonoch yn gweithio mewn rolau sydd wedi'u pennu fel rhai 'aml-leoliad.’

Wrth sôn am rolau 'aml-leoliad' rydym yn cyfeirio at y rhan fwyaf o'n ‘gweithwyr swyddfa’ lle nad yw eich gallu i ymgymryd â'ch rôl yn dibynnu ar y lleoliad lle'r ydych chi'n gweithio.

Penderfynir ar y lleoliad lle y byddwch yn gweithio drwy gytundeb â'ch rheolwr a bydd yn cael ei lywio'n bennaf gan anghenion y busnes / cwsmeriaid. Gallai'r lleoliad hwn fod y safle a nodwyd ar eich contract, un o'n hadeiladau eraill, rhywle yn agos i'ch cartref, neu eich cartref, a gellir arfer dull hybrid.

Os oes gennych drefniant gweithio aml-leoliad, eich safle contractiol fydd un o weithleoedd penodol Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r dudalen hon yn cynnig adnoddau i'ch cefnogi chi a'ch staff.