Gweithio hybrid

Diweddarwyd y dudalen: 26/04/2023

Gweithio o bell yw'r peth arferol i'n staff ei wneud bellach ac anogir rheolwyr i ystyried manteision gweithio hybrid. Gallai hyn gynnwys:

  • Llai o deithio sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
  • Llai o amser teithio
  • Llai o amser segur
  • Gwell cynhyrchiant
  • Mwy o ymgysylltu â gweithwyr
  • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a llesiant staff

Mae'n bwysig hefyd ystyried pethau fel:

  • A oes angen cyflawni'r rôl / gwaith mewn swyddfa ac os felly, pam
  • Unrhyw effaith ar y busnes a ddarperir a'i berfformiad o ran y gweithiwr a'r tîm ehangach
  • Unrhyw effaith ar y gallu i ateb y galw gan gwsmeriaid
  • Sut mae'n cyd-fynd â threfniadau gweithio aelodau eraill y tîm.

Rydym wedi datblygu Pecyn Cymorth a'i fwriad yw rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch hunanreoli wrth weithio mewn ffordd hybrid (i unigolion); a rheoli timau a phobl sy'n gweithio mewn ffordd hybrid (i reolwyr).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Dysgu a Datblygu ar y Fewnrwyd 

 

Dylech ddewis lleoliad lle rydych yn teimlo y byddwch fwyaf cynhyrchiol. Gallai hyn fod yn un o'n hadeiladau, cyfleuster cymunedol, eich cartref neu safle cleient / cwsmer. Cyn penderfynu ble i weithio bydd angen i chi:

  • Ystyried anghenion eich gwasanaeth a'ch tîm
  • Sicrhau y gallwch weithio'n ddiogel ac yn effeithlon
  • Sicrhau na fydd pethau yno a allai dynnu sylw
  • Sicrhau bod modd cysylltu â chi bob amser a'ch bod yn gallu derbyn a gwneud galwadau mewn modd cyfrinachol
  • Gwneud yn siŵr bod yr holl ddata'n cael ei gadw'n ddiogel
  • Cytuno ar eich trefniant ymlaen llaw â'ch rheolwr llinell a gwneud yn siŵr bod eich cydweithwyr yn ymwybodol.
  • Os nad ydych yn siŵr pa mor addas yw eich lleoliad arfaethedig, trafodwch hyn â'ch rheolwr llinell

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth sy'n ymwneud â diogelwch personol ar dudalennau Iechyd a Diogelwch

Yn y dyfodol bydd gennym lai o adeiladau'r Cyngor a byddwn yn ceisio gwneud gwell defnydd o'n hasedau argadwedig, ynghyd â nodi adeiladau cymunedol ac adeiladau eraill yn y sector cyhoeddus y bydd staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu eu defnyddio. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar ôl cytuno ar y Rhaglen Swyddfeydd.

Bydd rhan o'r gwaith hwn hefyd yn ein helpu i nodi'r hyn y mae angen i’n hadeiladau ei gynnig i’n timau, a fydd yn ein helpu i benderfynu pa gyfleusterau y mae angen i ni eu darparu e.e. mannau cyfarfodydd tîm, mannau tawel. Bydd eich rheolwr yn siarad â chi am sut y bydd eich gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol a bydd adeiladau'n rhan allweddol o'r drafodaeth. Felly, os oes cyfleusterau sydd eu hangen arnoch yn eich barn chi i wneud eich gwaith yn fwy effeithiol, rhowch wybod i'ch rheolwr.

Ar ôl cytuno ar ein Rhaglen Swyddfeydd, bydd mwy o fanylion yn cael eu rhoi am fannau eraill lle y gallwch weithio.

Mae hyn yn dibynnu ar y trefniant sydd ar waith rhyngoch chi a'ch rheolwr ond at ddibenion gweithio ar eich pen eich hun mae'n bwysig iawn bod eich rheolwr a'ch cydweithwyr yn gwybod ble rydych yn gweithio ac am ba hyd. Bydd angen i chi ddatblygu system/proses gyda'ch rheolwr a'ch cydweithwyr i gadw mewn cysylltiad a sicrhau bod eich dyddiadur a'ch lleoliadau gwaith ar gael yn rhwydd.

Ta ble mae eich gweithle, dim ond yr oriau rydych chi 'yn y gwaith' y dylech eu cofnodi.

Fel Swyddog Llywodraeth Leol, disgwylir i chi weithio a byw yn y DU. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y gallwch gytuno â'ch rheolwr y gallwch weithio am gyfnod byr iawn, ac fel trefniant anffurfiol unwaith yn unig, o leoliad dros dro y tu allan i'r DU. Fodd bynnag, ni fyddech yn gallu gwneud hyn yn rheolaidd a / neu yn y tymor hir.

Na chewch. Bydd angen archebu'r rhain a byddant yn cael eu darparu gan y Cyngor. Bydd yr offer hwn yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin a bydd angen ei ddychwelyd os nad oes ei angen arnoch mwyach neu os byddwch yn gadael y Cyngor. Mae'n bwysig nodi bod yr Awdurdod yn cadw'r hawl i godi tâl am unrhyw gyfarpar nad yw'n cael ei ddychwelyd.

Gall gweithwyr asiantaeth a'r rhai sydd ar secondiad i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cael eu cyflogi mewn swydd aml-leoliad, gytuno ar drefniadau gweithio hybrid anffurfiol â'u cyflogwr, yn amodol ar ofynion y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.

Mae ein cynllun oriau hyblyg, sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd, yn eich galluogi i weithio rhwng 7am a 7pm ac mae angen cytuno ar unrhyw drefniadau o fewn yr oriau hyn. Bydd angen i chi ystyried anghenion y gwasanaeth, eich tîm a chydweithwyr eraill sydd angen cydweithio â chi o bosib. Dylech hefyd ystyried unrhyw dargedau tîm neu gyfraddau ymateb y bydd angen i chi gadw atynt o hyd wrth benderfynu pa oriau i weithio. Bydd angen i chi roi gwybod yn glir i'ch rheolwr a'ch tîm pa oriau rydych yn bwriadu gweithio ar y diwrnod hwnnw fel bod pobl yn gwybod pryd y byddwch ar gael. Mae'n rhaid diweddaru calendrau a rennir gan fod hynny'n ffordd hanfodol o nodi ble rydych chi a phryd.

Travel and subsistence in respect of official business travel (i.e. to locations other than your contractual workplace) may be claimed in line with our Travel Policy and our Financial Procedure Rules

 

Gellir hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth mewn perthynas â theithio swyddogol ar fusnes (h.y. i leoliadau ar wahân i'ch gweithle contractiol) yn unol â'n Polisi Teithio ac ein Rheolau Gweithdrefn Ariannol

Na fyddwn. Bydd disgwyl i chi gynnal hunanasesiad cyn i chi ddechrau gweithio gartref yn rheolaidd i nodi'r offer sydd ei angen ac yna ar ôl i chi osod eich offer gweithio gartref, i sicrhau bod hwn yn gywir a'i fod yn cydymffurfio â'n gofynion Iechyd a Diogelwch.

Mae'r ffurflen asesiad gweithfan ar y tudalennau Iechyd, Diogelwch a Llesiant.

Dylai eich band eang fod yn ddigon da i chi weithio gartref yn effeithiol ac ni ddylid amharu ar eich cynhyrchiant oherwydd cysylltedd gwael. Os na allwch weithio gartref yn rhesymol, dylech ddefnyddio un o'n hadeiladau Cyngor neu eich safle.  Byddem yn argymell cyflymder gofynnol o 2MB, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar rolau swyddi. Mae Ofcom yn cynnig cyfleuster gwirio cyflymder 'ar-lein' am ddim i brofi eich cyflymder rhyngrwyd presennol - https://checker.ofcom.org.uk/broadband-test. Eich cyfrifoldeb chi yw siarad â'ch darparwr band eang os yw eich cyflymder yn wael a/neu'n annigonol ar gyfer gweithio gartref. Ni fydd yr Awdurdod yn cyfrannu at gostau rhentu llinell dir, band eang na dyfeisiau symudol 4G/5G.

Hyd nes y caiff eich problemau band eang eu datrys dylech weithio yn eich gweithle contractiol neu yn un o'n hadeiladau. Cofiwch drafod a chytuno ar y lleoliad arall â'ch rheolwr llinell. Cysylltwch â'ch darparwr band eang i ddatrys y problemau. Os yw'n ofynnol i chi uwchraddio eich pecyn band eang oherwydd problemau cyflymder, bydd disgwyl i chi dalu'r costau ychwanegol eich hun.

Yn ystod argyfwng covid, bu i’r Awdurdod gydnabod y tarfu oedd ar drefniadau gofal plant arferol cyn/ar ôl ysgol, ac, o ganlyniad, rhoddodd hyblygrwydd ychwanegol i deuluoedd sy’n gweithio.

Gan fod cyfleusterau gofal plant bellach yn gwbl weithredol eto dylech sicrhau bod gennych drefniadau gofal priodol ar waith i’ch galluogi i gyflawni oriau eich contract, fel nad effeithir ar wasanaeth eich tîm. Byddai’r un peth yn berthnasol ar gyfer pob cyfrifoldeb gofalu arall. 

Os hoffech newid eich oriau gwaith yn barhaol er mwyn gallu parhau â’r trefniant hwn, cyfeiriwch at y Polisi Gweithio Hyblyg a thrafod gyda’ch rheolwr llinell. 

Mae'n bwysig nad ydych yn gweithio gartref tra byddwch yn llwyr gyfrifol am blentyn neu ddibynnydd. Os cytunir y gallwch weithio gartref, yna, yn dibynnu ar eich oriau gwaith, rydym yn disgwyl i chi amrywio eich trefniadau gofal plant yn ôl eich oriau gwaith.

Fodd bynnag, mae angen i chi allu cyflawni eich amcanion/canlyniadau gwaith o hyd, ac yn fwy penodol, mae angen i chi fod ar gael a gallu mynychu cyfarfodydd a chyfrannu atynt.

Os nad oes modd gwneud hynny oherwydd bod plentyn neu ddibynnydd arall gartref sy'n atal hyn, yna ni fyddwch yn gallu gweithio gartref.

Dylech gysylltu â'ch darparwr yswiriant cartref a chynnwys i sicrhau bod gennych yswiriant digonol ar gyfer gweithio gartref/bod unrhyw offer personol yn cael ei gynnwys ar gyfer defnydd gwaith.

Mae'n rhaid i weithwyr sy'n gweithio gartref yn rheolaidd roi gwybod am hynny i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr eiddo (er enghraifft, cymdeithas adeiladu, banc neu landlord). Wrth wneud hynny, mae'n bwysig eich bod yn pwysleisio, er y bydd rhywfaint o waith e.e. gwaith gweinyddol, yn cael ei wneud yn eich cartref, fod busnes swyddogol y Cyngor yn parhau i gael ei gyflawni yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Hefyd dylid nodi'n glir nad oes bwriad i gwsmeriaid ymweld â'ch cartref ac mai anaml iawn (os o gwbl) y bydd cydweithwyr CS yn dod i'ch cartref. Sylwer: eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod, lle bo'n briodol, i unrhyw bartïon perthnasol am eich trefniadau gweithio gartref a / neu gadw at unrhyw gontractau darparu gwasanaeth.

Nid ydym yn talu lwfans gweithio gartref. Fodd bynnag, efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer rhai o'r biliau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Mae teithio angenrheidiol i leoliadau ar wahân i'ch gweithle contractiol yn enghraifft o deithio busnes swyddogol ac felly gallwch hawlio ad-daliad am gostau teithio a chynhaliaeth yn unol â'r Polisi Teithio, y gellir dod o hyd iddo drwy fynd i'n mewnrwyd yma https://einpobl.sirgar.llyw.cymru/ein-pobl/adnoddau-dynol/cyflog-a-buddion/treuliau/

O ran cofnodi oriau gwaith, gan nad ydych yn teithio i'ch man gwaith contractiol, byddech yn cofnodi eich amser teithio fel oriau gwaith.

Rydym yn lleihau ein dibyniaeth ar bapur ac felly dylid argraffu unrhyw ddogfennau dim ond pan fetho popeth arall.

Yn y gweithle byddwch yn gallu cael mynediad i un o'n peiriannau argraffu Konica diogel yn eich lleoliad gwaith.

Gartref byddwch yn gallu anfon gwaith i'w argraffu at argraffydd Konica diogel sydd wedi'i leoli yn un o'n hadeiladau cyngor a'i gasglu pan fydd yn gyfleus i chi.

Does dim modd cysylltu eich argraffwyr eich hun â'ch trefniadau gweithio gartref. Gellir cael rhagor o wybodaeth am argraffu trwy fynd i'n tudalennau TG

Natur eich gwaith fydd yn pennu'r ateb gorau ar gyfer eich rôl; byddwch yn trafod hyn gyda'ch rheolwr llinell.

Gall yr is-adran TG roi cyngor ac arweiniad a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau TG 

 

 

Rydym yn lleihau faint o deithio a wnawn, felly cyn teithio, ystyriwch a oes angen gwneud y daith a chytunwch ar hyn ymlaen llaw gyda'ch rheolwr.

Rydym wedi dweud y byddwn yn dod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. Felly, mae cyfyngu ar y teithio a'r cymudo a wnawn yn hanfodol i gyflawni hyn.

Mae gennym y dechnoleg i gynnal cyfarfodydd rhithwir, felly, cyn teithio, rhaid i chi ystyried a oes angen gwneud y daith. Os oes angen i chi deithio, mae'n ofynnol i chi ddewis y dull mwyaf cost-effeithiol o deithio e.e. car adrannol trydan neu drafnidiaeth gyhoeddus, a dylai diben y daith fod am reswm busnes swyddogol penodol. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Pan fo'n ofynnol am reswm statudol neu reswm busnes dros gynnal y cyfarfod yn bersonol yn hytrach na chyfarfodydd ar-lein
  • Lle nad oes gan y rheiny sydd i ddod i'r cyfarfod fynediad at dechnoleg
  • Lle gall anabledd atal rhywun rhag defnyddio technoleg i gyfathrebu
  • Er mwyn sefydlu a chynnal perthynas waith e.e. sefydlu gweithiwr newydd, datblygu tîm, diwrnodau angori
  • Lle mai dim ond o leoliad sefydlog neu wyneb yn wyneb y gellir darparu gweithgaredd dysgu a datblygu e.e. hyfforddiant codi a chario
  • Rhai cyfarfodydd cysylltiadau gweithwyr lle mae'n well gan undebau llafur a/neu weithwyr gyfarfod yn bersonol
  • Cyfarfod â defnyddwyr y gwasanaeth
  • Rhai cyfarfodydd democrataidd ag Aelodau Etholedig

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol, a bydd yr enghreifftiau'n dibynnu ar y math o wasanaeth a ddarperir gennych. Mae rhagor o wybodaeth am ein Polisi Teithio

https://einpobl.sirgar.llyw.cymru/ein-pobl/adnoddau-dynol/cyflog-a-buddion/treuliau/

Ni fydd amser a chostau cymudo o'ch cartref i'ch gweithle contractiol (neu weithle arall o'ch dewis) yn cael eu had-dalu. Ni fydd unrhyw hawliadau o'r math hwn yn cael eu hawdurdodi.

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os byddwch yn dewis gweithio gartref.

Wrth weithio o bell, ni ddylech weithio os ydych yn sâl. Os ydych yn sâl ac yn methu gweithio, mae ein Polisi Absenoldeb Salwch yn berthnasol.

Rhaid i chi ffonio eich rheolwr llinell cyn gynted â phosibl pan na allwch fynd i'r gwaith oherwydd absenoldeb salwch. Dylai hynny ddigwydd cyn eich amser cychwyn arferol, ond heb fod yn hwyrach na diwedd awr gyntaf y diwrnod gwaith arferol. Ni ddylid defnyddio negeseuon testun a dulliau cyfathrebu eraill ond mewn argyfwng, a rhaid eu dilyn â galwad ffôn cyn gynted â phosibl.

Llwythwch mwy