Arolwg Gweithio Hybrid 2023 - Fe ddwedsoch chi... fe wnaethon ni wrando

Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2024

Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r adborth a roesoch inni pan wnaethoch gwblhau'r arolwg gweithio hybrid diweddar. Mae ein tîm Trawsnewid bellach yn gweithio gydag uwch swyddogion yn dadansoddi’r adborth hwn a bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Cafodd arolwg gweithio hybrid ei gynnal gennym yn ddiweddar, a anfonwyd at ein holl weithwyr aml-leoliad. Cymerodd bron i 1,000 ohonoch ran yn yr arolwg hwn, ac rydym yn hynod ddiolchgar eich bod wedi dewis gwneud hynny.

Neges gan y Tîm Rheoli Corfforaethol

Mae'r arolwg bellach wedi cau, ac mae eich ymatebion wedi eu dadansoddi – gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â'n tudalen Arolwg Gweithio Hybrid - Canlyniadau  ar y fewnrwyd. Mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol wedi cwrdd i fynd drwy'r canlyniadau, ac rydym am roi gwybod ichi nawr am y canfyddiadau a sut byddant yn arwain at addasiadau i'n ffordd o weithio.

Mae'n amlwg o'r adborth fod gweithio hybrid yn gweithio'n dda i reolwyr a staff, gan i lawer ohonoch nodi nifer o fanteision, a'r rheiny'n amrywio o well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i fod yn fwy cynhyrchiol. Rydym hefyd yn gweld bod llawer ohonoch yn rhannu eich amser rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio o bell. Fodd bynnag, mae'n glir bod anghysondeb, sy'n peri i rai deimlo nad yw'r sefyllfa'n deg. Nid ydym am gael gwared ar hybrid fel opsiwn, ond roedd yn amlwg yn yr arolwg ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac, mewn rhai achosion, fel rheswm dros beidio â dod i mewn i'r gweithle - nid dyma yw gweithio hybrid! Mae'n werth nodi fan hyn fod llawer wedi ymateb i ddweud bod yn well ganddynt ddod i mewn i'r swyddfa yn amser llawn, ac mae hynny'n iawn.

Mae gweithio hybrid yn fantais ddewisol nid contractiol, a byddwn yn parhau i'w drin fel hynny. Rydym am gadw'r cynnig gweithio hyblyg, ond am sicrhau bod PAWB yn elwa ar y ffordd hon o weithio, hynny yw, chi a'r busnes.

Felly, er mwyn symud ymlaen mewn ffordd fwy cyson, ein bwriad nawr yw gwneud y newidiadau canlynol:

Y tîm - rydym yn disgwyl i'n holl bobl, sy'n gweithio mewn ffordd hybrid, fod yn y gweithle am o leiaf 40% o'u hwythnos waith. Dyma beth mae llawer ohonoch chi yn ei wneud yn barod, ond er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb mae angen ein bod ni i gyd yn gwneud yr un peth. Bydd hyn yn sicrhau bod y ffordd rydym yn gweithio yn ein helpu i'r graddau mwyaf posibl o ran cyflawni ein hamcanion.

Rheolwyr Pobl - mae cael eich gweld yn rhan allweddol o arwain, boed hynny'n arwain tîm o un neu dîm o gannoedd. Nid mater o fod yn 'bresennol' yn unig yw hi; mae'n fwy ynghylch rhyngweithio corfforol, llesiant (chi a'ch tîm), ethos a diwylliant tîm. Oherwydd hynny, rydym yn disgwyl presenoldeb corfforol ychydig yn fwy gan arweinwyr ac rydym yn gofyn iddynt drefnu treulio o leiaf 50% o'u hamser yn gorfforol gyda'u timau.

Rydych wedi dweud wrthym am rai o heriau ymarferol gweithio hybrid, sy'n cynnwys:

  • Dim digon o le ar gyfer cyfarfodydd tîm a chydweithio wyneb yn wyneb.
  • Swyddfeydd nad ydynt wedi'u cyfarparu'n dda o ran dodrefn a chyfleusterau.
  • Cysylltedd Wi-Fi gwael yn rhai o'n hadeiladau.
  • Offer TG annibynadwy neu annigonol yn ein mannau gweithio achlysurol.
  • Meddu ar y sgiliau priodol i ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd hybrid, yn ogystal â chyfarwyddiadau annigonol i ddefnyddwyr.
  • Llefydd parcio.

Rydym felly wedi gofyn i'n tîm Trawsnewid weithio gydag uwch-swyddogion i fynd i'r afael â'r heriau hyn, a chyn gynted ag y bydd ar gael byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Llais Staff ar y fewnrwyd.

Mae rhai ohonoch hefyd wedi siarad am y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio hybrid, sy'n cynnwys:

  • Unigrwydd / arwahanrwydd wrth weithio o bell.
  • Llai o synnwyr o berthyn ac o fod mewn cysylltiad ag eraill.
  • Diffyg cyswllt o fewn timau
  • Llai o gyfleoedd i feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith cryf.
  • Dechreuwyr newydd ddim yn deall diwylliant y sefydliad a ddim yn dysgu oddi wrth eraill.
  • Y broses o wneud penderfyniadau / datrys ymholiadau yn arafach.
  • Y gallu i gefnogi llesiant ein staff.

Hefyd mae canfyddiadau astudiaethau allanol, yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd oddi wrth sefydliadau eraill, yn dangos i ni fod cydweithio wyneb yn wyneb yn gwella arloesi a chreadigrwydd ac yn bwysig iawn i sicrhau ein bod yn cynnal ein diwylliant tîm. 

Fel Tîm Rheoli Corfforaethol, rydym yn credu bydd yr ymagwedd gyson hon at weithio hybrid yn ein helpu ni i oresgyn y risgiau hyn. Wrth gwrs, byddwn yn adolygu'r trefniadau hyn yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal i weithio i ni fel sefydliad.

Bydd ein tîm Gwasanaethau Pobl yn anfon gwybodaeth at ein holl staff sy'n gweithio mewn rôl aml-leoliad i gadarnhau beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt contractiol.

Fel rydym wedi'i ddweud o'r cychwyn cyntaf, ffordd newydd o weithio yw hon, nid un gontractiol. Mae'r arolwg yn dweud wrthym ei bod yn gweithio ond bod angen ei haddasu, ac mae hynny'n normal yn ystod proses o newid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r neges hon, siaradwch â'ch rheolwr neu Bennaeth Gwasanaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalennau mewnrwyd Gweithio Hybrid.

 

Gan eich Tîm Rheoli Corfforaethol:

Prif Weithredwr - Wendy Walters

Prif Weithredwr Cynorthwyol - Paul Thomas

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol - Jake Morgan

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol - Chris Moore

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant - Gareth Morgans

Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith - Ainsley Williams

Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith - Linda Rees Jones

Manteision

Rhannodd y rheolwyr eu profiadau o reoli tîm sy'n gweithio o bell ac wyneb yn wyneb a buont yn siarad am y manteision o weithio fel hyn. Roedd y rheolwyr yn tynnu sylw'n gyson at y canlynol:

  • Gwell morâl a chymhelliant yn y tîm
  • Effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant
  • Gwell cyfathrebu /cydweithredu drwy Teams a chyfarpar digidol eraill
  • Mwy o ffocws ar allbynnau a rheolaeth yn seiliedig ar ymddiriedaeth
  • Gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a hyblygrwydd i weithwyr

 

Heriau

Nododd y rheolwyr hefyd yr heriau ymarferol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â rheoli tîm sy'n gweithio mewn ffordd hybrid, tynnwyd sylw at y themâu canlynol:

  • Dull anghyson o ran sut / pryd fydd rheolwyr yn cyfathrebu â'u timau
  • Sicrhau llesiant staff pan fyddant yn gweithio o bell
  • Cydbwyso hyblygrwydd i staff ag anghenion y gwasanaeth
  • Gallu addasu eich arddull arwain / rheoli
  • Mynediad i le ar gyfer cydweithredu wyneb yn wyneb
  • Angen parhaus am ddatblygiadau o ran cymorth technolegol i hwyluso cydweithredu o bell yn ddi-dor
  • Angen cymorth corfforaethol i reoli rhai o'r heriau y mae rheolwyr yn eu hwynebu
  • Risg o fethu ag adeiladu diwylliant o ymddiriedaeth yn llwyddiannus
  • Perygl nad oes gan reolwyr gysylltiad digonol â'u timau
  • Risg y bydd y tîm yn ddigyswllt

Manteision

Gofynnwyd i'n staff, sy'n gweithio mewn rolau 'aml-leoliad' rannu eu profiadau o weithio mewn tîm sy'n cyfuno gweithio o bell a gweithio wyneb yn wyneb. Buont yn siarad am fanteision gweithio fel hyn ac yn tynnu sylw yn gyson at y canlynol:

  • Mwy o hyblygrwydd sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Llai o bwysau o ran amser
  • Effaith gadarnhaol ar lesiant gweithwyr
  • Mwy o gyfleoedd i ffocysu a chanolbwyntio
  • Mwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd gyda llai o bethau yn torri ar draws y gwaith wrth weithio o bell
  • Llai o gymudo gan arwain at lai o amser segur a mwy o gynhyrchiant
  • Gostyngiad mewn costau teithio i unigolion a'r Cyngor
  • Effaith amgylcheddol gadarnhaol gan gyfrannu at yr uchelgais Carbon Sero Net
  • Teimlad bod rhywun yn ymddiried ynddoch, a'ch bod yn cael eich cefnogi a'ch bod yn cael ymreolaeth sy'n arwain at well morâl
  • Dywedodd staff hefyd fod gweithio gartref neu'n agos at adref yn helpu i leihau straen sy'n gysylltiedig â theithio, gan gyfrannu at well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

 

Heriau

Soniodd ein staff hefyd am yr heriau ymarferol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn tîm sydd wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid. Roedd y pryderon cyffredinol am y ffordd hon o weithio yn cynnwys:

  • Heriau cyfathrebu a chydweithio
  • Arafwch o ran gwneud penderfyniadau a datrys ymholiadau
  • Yn anoddach i feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith a gwaith tîm
  • Nid yw pob rheolwr yn derbyn nac yn cefnogi gweithio o bell fel ffordd ddilys ac effeithiol o weithio
  • Dulliau anghyson o ran cytundebau gwaith hybrid ar draws timau gan greu ymdeimlad o annhegwch i rai
  • I rai, nid oes ymreolaeth i ddewis pryd i weithio o'r swyddfa
  • Teimlad o ddiffyg ymddiriedaeth rhwng staff a rheolwyr mewn rhai meysydd
  • Cael eich gofyn i deithio / cymudo yn ddiangen
  • Dim hyblygrwydd i rai timau - amserlenni anhyblyg yn eu lle
  • Teimlad bod amser teithio a chymudo yn gwastraffu amser
  • Effaith amgylcheddol taith gymudo hir diangen

 


O ran gweithio o bell, tynnodd staff sylw at yr heriau canlynol:

  • Dim digon o fannau gweithio achlysurol
  • Offer TG annibynadwy ac annigonol mewn rhai o'r mannau gweithio achlysurol
  • Diffyg sgiliau i ddefnyddio offer digidol yn effeithiol
  • Teimlad o unigrwydd ac arwahanrwydd
  • Biliau ynni uwch wrth weithio gartref

 


Mewn perthynas â gweithio o'r swyddfa, mynegwyd y pryderon canlynol:

  • Mynediad i gyfleusterau parcio diogel, cyfleus a digonol
  • Dim digon o fannau cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb ac mae'r rhai sydd ar gael yn anaddas
  • Diffyg gwybodaeth hygyrch o ran archebu ystafelloedd cyfarfod
  • Cysylltedd Wi-Fi gwael yn rhai o'n hadeiladau
  • Offer TG annibynadwy ac annigonol mewn rhai lleoliadau
  • Diffyg swyddfeydd pwrpasol
  • Nifer cyfyngedig o ddesgiau
  • Cynllun swyddfa gwael
  • Nid yw pob swyddfa yn cynnwys cyfarpar angenrheidiol o ran dodrefn
  • Materion sy'n ymwneud â thymheredd a sŵn
  • Cyflwr gwael swyddfeydd
  • Pryderon am amgylchedd cyffredinol y swyddfa sy'n effeithio ar gynhyrchiant
  • Pryderon am amgylchedd cyffredinol y swyddfa sy'n effeithio ar lesiant gweithwyr

Manteision

Gofynnwyd i staff am fanteision cynnal neu fynychu cyfarfodydd hybrid, a daeth y themâu canlynol i'r amlwg:

  • Gwell hygyrchedd i gyfarfodydd
  • Mwy o bresenoldeb a chyfranogiad mewn cyfarfodydd
  • Cyfarfodydd byrrach sy'n arwain at lai o amser segur a mwy o gynhyrchiant
  • Llai o deithio diangen
  • Llai o gostau teithio cysylltiedig
  • Effeithiau amgylcheddol cadarnhaol e.e., lleihau ôl troed carbon drwy gyfyngu ar deithio
  • Cost-effeithiol i sefydliadau ac unigolion

 

Heriau

Gofynnwyd hefyd i staff am yr heriau yr oeddent wedi'u profi wrth gynnal neu fynychu cyfarfodydd hybrid, cyfeiriwyd at y pryderon canlynol:

  • Diffyg ymwybyddiaeth o ble mae cyfleusterau hybrid
  • Argaeledd ystafelloedd a phryderon ynghylch archebu
  • Diffyg sgiliau i ddefnyddio’r dechnoleg
  • Cyfarwyddiadau annigonol i ddefnyddwyr o ran sut i ddefnyddio'r dechnoleg
  • Cysylltedd a materion sain yn rhwystro cyfathrebu effeithiol
  • Sgiliau cadeirio anghyson, gan arwain at anghydraddoldeb o ran cyfranogiad - angen sgiliau gwahanol wrth gadeirio cyfarfod hybrid o'i gymharu â chyfarfod cwbl rithwir neu gyfarfod wyneb yn wyneb yn unig

Gofynnwyd i staff am eu profiad o ddefnyddio ein mannau gweithio achlysurol Mynegwyd y pryderon canlynol:

  • Diffyg ymwybyddiaeth bod y cyfleusterau hyn yn dal i fodoli
  • Diffyg eglurder ynghylch lleoliad cyfleusterau
  • Problemau o ran archebu mannau gweithio achlysurol - gofyn am brosesau sy'n haws i'w defnyddio
  • Anhawster dod o hyd i fannau gweithio achlysurol, gyda lleoliadau'n newid yn aml
  • Dim gwybodaeth glir / hygyrch ynghylch mannau gweithio achlysurol
  • Teimlad nad yw'r mannau hyn yn cael eu rheoli na'u monitro
  • Mae rhai mannau gweithio achlysurol yn cael eu defnyddio gan dimau eraill neu'n cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol.
  • Diffyg glendid a chynnal a chadw, gyda rhai yn nodi nad yw'r arwynebau gwaith na'r cadeiriau yn lân
  • Eitemau personol yn cael eu gadael ar ôl
  • Pryderon am ddiffyg offer neu'r offer anghywir, megis monitorau, gorsafoedd docio, ceblau, a pherifferolion
  • Offer TG annibynadwy mewn rhai lleoliadau
  • Problemau gyda chysylltedd
  • Heriau sy'n gysylltiedig â phreifatrwydd
  • Clywed trafodaethau cyfrinachol ar ddamwain
  • Sŵn yn tarfu, sy'n golygu ei bod yn anodd canolbwyntio

Pa gamau ydym wedi'u cymryd?

Mynediad i gyfleusterau parcio diogel, cyfleus a digonol

Mae parcio yn faes sy'n cael ei adolygu'n barhaus. Mae gennym wybodaeth am y meysydd parcio sydd ar gael ar ein Mewnrwyd – gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n tudalennau Meysydd Parcio Staff ar y fewnrwyd. Os ydych chi'n gwybod bod parcio yn debygol o fod yn broblem, ceisiwch gynllunio ymlaen llaw. Gallwch ystyried rhannu ceir, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu gerdded lle bo hynny'n bosibl.

Cysylltedd Wi-Fi gwael yn rhai o'n hadeiladau

Os cewch unrhyw broblemau WIFI yn unrhyw un o'n hadeiladau, dylid cofnodi galwad i roi gwybod i TGCh am y broblem. Gellir cofnodi galwadau drwy'r swyddogaeth hunanwasanaeth TGCh ar y bwrdd gwaith neu fel arall drwy'r ddolen ganlynol - Hunanwasanaeth Corfforaethol TGCh CSC. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi'r mathau hyn o broblemau.

Offer TGCh annibynadwy ac annigonol
Ar gyfer unrhyw broblemau'n ymwneud ag offer, dylid cofnodi galwad i roi gwybod i'r gwasanaethau TGCh. Gellir cofnodi galwadau drwy'r swyddogaeth hunanwasanaeth TGCh ar y bwrdd gwaith neu fel arall drwy'r ddolen ganlynol - Hunanwasanaeth Corfforaethol TGCh CSC.Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi'r mathau hyn o broblemau.

Gwybodaeth am archebu ystafelloedd cyfarfod

Bydd y system archebu newydd hon, o'r enw Occupeye, yn eich galluogi i weld gwybodaeth am yr ystafell rydych yn ei harchebu, megis:

  • Cynlluniau llawr o bob adeilad i helpu staff mewn adeiladau anghyfarwydd
  • Capasiti ystafell
  • Cyfleusterau sydd ar gael ym mhob ystafell.

Dylai hyn sicrhau bod archebu ystafell yn llawer haws yn y dyfodol. Gallwch gael gwybodaeth fanwl am sut i ddefnyddio'r system newydd yma: Ffordd newydd o archebu ystafell gyfarfod.

Diffyg swyddfeydd pwrpasol / Cynllun swyddfa gwael

Mae swyddfeydd at ddefnydd unigol, penodol yn cael eu hystyried yn wastraff swyddfa ac i'n helpu i wneud gwell defnydd o'n hadeiladau, mae'r rhan fwyaf o reolwyr eisoes wedi ildio'u swyddfeydd. Yn ystod unrhyw newidiadau i'r swyddfa, mae gennych chi, ynghyd â'ch Pennaeth Gwasanaeth a'ch rheolwr, y gallu i ad-drefnu'r swyddfa i ddiwallu eich anghenion – a fydd yn cynnwys nodi nifer y gweithfannau, parthau tîm a pha gyfleusterau sydd eu hangen arnoch yn y gweithfannau hyn. Os bydd gwasanaethau'n gweld nad yw'r lle yn addas ar eu cyfer, cynghorir rheolwyr i siarad â'r Tîm Rheoli Cyfleusterau i drafod y mater.

Nid yw pob swyddfa yn cynnwys cyfarpar angenrheidiol o ran dodrefn

Os oes gennych ofynion o ran dodrefn swydd, siaradwch â'ch rheolwr a fydd yn cysylltu â'r Tîm Rheoli Cyfleusterau. Bydd y tîm yn gallu nodi unrhyw offer dros ben y gallech ei ddefnyddio, cyn prynu offer newydd.

Pwysig: Pan fydd gofynion o ran dodrefn swyddfa yn newid, cynghorir rheolwyr i gysylltu â'r Tîm Rheoli Cyfleusterau. Yna, gall y tîm gadw golwg ar eitemau dros ben a'u hailddefnyddio lle bo hynny'n briodol i ddarparu offer mewn mannau eraill. Mae hyn yn helpu i leihau'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu dodrefn newydd. Mae'n bwysig nodi mai cyfrifoldeb y gwasanaeth fydd cost cael gwared ar unrhyw ddodrefn sydd wedi torri, neu na ellir eu symud.

Materion sy'n ymwneud â thymheredd a sŵn

Mae'n eithaf anodd gosod lefel tymheredd y mae pawb yn fodlon arni. Fodd bynnag, mae angen i'ch rheolwr godi unrhyw faterion sylweddol o ran tymheredd gyda'r Tîm Rheoli Cyfleusterau.
Rydym yn cydnabod, yn enwedig yn ein mannau cynllun agored, y gall sŵn fod yn broblem. Gellir mynd i'r afael â hyn drwy newidiadau i gynlluniau ystafelloedd. Mae angen i'ch rheolwr godi unrhyw broblemau gyda'r Tîm Rheoli Cyfleusterau.

Cyflwr gwael swyddfeydd

Dylid codi unrhyw broblemau sy'n ymwneud â chyflwr y swyddfa gyda'ch rheolwr llinell ar unwaith a fydd yn cysylltu â'r Tîm Rheoli Cyfleusterau. Bydd y tîm yn mynd i'r afael ag unrhyw ymholiadau gyda'r adain cynnal a chadw.

Mynediad i fan cyfarfod / cydweithio ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Mae cynyddu nifer yr ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael ym mhob adeilad wedi bod yn un o nodau ein prosiect ad-drefnu adeiladu. Mae rheolwyr wedi ildio swyddfeydd i'n helpu i gyflawni hyn, a bydd mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n llawn, fel Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2, a'r Siambr yn Heol Spilman yn dod yn fannau y gellir eu harchebu sy'n hygyrch i bawb. Bydd y tîm Eiddo Corfforaethol yn defnyddio'r adborth o'r system archebu newydd i fesur pa mor llwyddiannus y mae man yn cael ei ddefnyddio, a fydd yn arwain unrhyw welliannau yn y dyfodol.

Sgiliau digidol i hwyluso cydweithio o bell

Mae gennym raglen sgiliau digidol barhaus sydd wedi'i llunio i gefnogi staff sy'n defnyddio eu dyfeisiau o bell. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fynychu sesiynau hyfforddi megis Microsoft Teams a rhaglenni Microsoft 365 eraill i alluogi staff i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i gydweithio'n effeithiol. Mae gennym dudalen datblygu eich sgiliau digidol (llyw.cymru) ar y fewnrwyd sy'n benodol ar gyfer adnoddau a chyrsiau sgiliau digidol am ddim y gall staff gael mynediad atynt i ddatblygu eu sgiliau o bell.

Rydym hefyd wrthi'n gweithredu rhaglen Mentor Digidol sy'n ceisio helpu staff i gael mynediad at gymorth gan gyfoedion gyda'u dyfeisiau. Mae Mentoriaid Digidol yn helpu i ddatblygu hyder a sgiliau staff o ran defnyddio technoleg ddigidol. Mae Mentoriaid Digidol yn ysbrydoli staff i ddefnyddio technoleg ddigidol a'u cefnogi trwy eu camau cyntaf yn defnyddio eu dyfeisiau a'r rhyngrwyd.

Diffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol

Ar hyn o bryd mae gennym dudalen benodol ar y fewnrwyd sy'n ddefnyddiol i staff. Rydym hefyd yn creu dau fan gweithio newydd yng Nghaerfyrddin i gyd-fynd â'r rhai sydd eisoes ar waith yn Nhŷ Elwyn (Llanelli) a Thŷ Parc-yr-hun (Rhydaman). Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ddiwedd mis Mawrth.

Offer TG annigonol mewn rhai o'r mannau gweithio achlysurol

Roedd y Mannau Gweithio Achlysurol yn cynnwys offer TGCh sy'n berthnasol i'r man gweithio. Gan nad yw'r man gweithio yn un ar gyfer tîm penodol, mae staff wedi cymryd peth o'r offer a'i ddefnyddio mewn mannau eraill. Mae adolygiad i'r offer TGCh ym Mannau Gweithio Achlysurol wedi'i gynnal i sicrhau bod gofynion sylfaenol yn cael eu bodloni.

Ar gyfer unrhyw faterion yn ymwneud ag offer, dylid cofnodi galwad i roi gwybod i TGCh. Gellir cofnodi galwadau drwy'r swyddogaeth hunanwasanaeth TGCh ar y bwrdd gwaith neu fel arall drwy'r ddolen ganlynol - Hunanwasanaeth Corfforaethol TGCh CSC.

Problemau o ran archebu mannau gweithio achlysurol

Mae desgiau mewn mannau gweithio achlysurol ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Nid oes angen archebu.

Teimlad nad yw Mannau Gweithio Achlysurol yn cael eu rheoli na'u monitro.

Bydd y system Occupeye yn galluogi ein tîm Eiddo Corfforaethol i gasglu adborth ynghylch pa mor dda y mae'r Mannau Gweithio Achlysurol yn cael eu defnyddio. Yna bydd y wybodaeth werthfawr hon yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.

Mannau Gweithio Achlysurol yn cael eu defnyddio'n barhaol gan dimau neu'n cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol.

Mae'n anodd cadw trefn ar sut mae'r mannau gweithio achlysurol yn cael eu defnyddio. Gofynnwn i'r holl staff fod yn ystyriol o eraill a gweithredu fel 'un tîm'. Ni ddylai Mannau Gweithio Achlysurol gael eu defnyddio'n barhaus na'u haddasu. Os oes gennych dystiolaeth bod hyn yn digwydd, siaradwch â'ch rheolwr llinell neu'r Tîm Rheoli Cyfleusterau.

Diffyg glendid a chynnal a chadw

Mae'r Mannau Gweithio Achlysurol ar y rota glanhau ar gyfer yr adeilad a dylent gael eu glanhau yn unol â hynny. O ran cadeiriau a gweithfannau, cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau bod y gweithfannau yn yr un cyflwr ag yr oeddent. Os byddwch yn dod ar draws eitemau sydd wedi torri neu lendid gwael, rhowch wybod i'r Tîm Rheoli Cyfleusterau.

Eitemau personol yn cael eu gadael ar ôl

Gofynnwn i bawb fod yn ystyriol o bobl eraill. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau nad oes unrhyw eitemau personol yn cael eu gadael mewn Man Gweithio Achlysurol a bod y mannau hyn yn yr un cyflwr ag yr oeddent.

Offer sydd ar goll - monitorau, gorsafoedd docio, ceblau, a pherifferolion

Roedd y Mannau Gweithio Achlysurol yn cynnwys offer TGCh sy'n berthnasol i'r man gweithio. Gan nad yw'r man gweithio yn un ar gyfer tîm penodol, mae staff wedi cymryd peth o'r offer a'i ddefnyddio mewn mannau eraill.
Mae neges wedi cael ei rhannu am beidio â symud eitemau o'r mannau gweithio achlysurol ac mae adolygiad i'r offer TGCh mewn Mannau Gweithio Achlysurol wedi'i gynnal i sicrhau bod y gofynion sylfaenol yn cael eu bodloni.
Ar gyfer unrhyw broblemau'n ymwneud ag offer, dylid cofnodi galwad i roi gwybod i'r gwasanaethau TGCh. Gellir cofnodi galwadau drwy'r swyddogaeth hunanwasanaeth TGCh ar y bwrdd gwaith neu fel arall drwy'r ddolen ganlynol - Hunanwasanaeth Corfforaethol TGCh CSC.

Pryderon o ran sŵn a chyfrinachedd

Mae ein Mannau Gweithio Achlysurol, ac eithrio Tŷ Parc-yr-hun sy'n gynllun agored, yn fannau hunangynhwysol, ac felly'n cyfyngu ar unrhyw sŵn o brif swyddfeydd. Oherwydd y lle sydd ar gael, ni fu'n bosibl rhannu Mannau Gweithio Achlysurol ymhellach.

Mae'r Mannau Gweithio Achlysurol yn gweithredu fel estyniad i swyddfa. Pan fydd angen cynnal sgyrsiau cyfrinachol, cyfrifoldeb yr unigolyn sy'n cynnal y sgwrs yw sicrhau bod y sgwrs yn cael ei chynnal o fewn yr amgylchedd cywir. Byddem yn atgoffa'r holl staff i ystyried eraill ac i ystyried y rhai y gallem fod yn siarad â nhw neu'n siarad amdanynt. Dylai pawb ystyried pa mor briodol yw'r man lle gallent gynnal sgwrs gyfrinachol.

Problemau gyda chysylltedd WIFI

Ar gyfer unrhyw broblemau WIFI, dylid cofnodi galwad i roi gwybod i TGCh am y broblem. Gellir cofnodi galwadau drwy'r swyddogaeth hunanwasanaeth TGCh ar y bwrdd gwaith neu fel arall drwy'r ddolen ganlynol; Hunanwasanaeth Corfforaethol TGCh CSC.

Offer TGCh annibynadwy

Ar gyfer unrhyw broblemau'n ymwneud ag offer, dylid cofnodi galwad i roi gwybod i'r gwasanaethau TGCh. Gellir cofnodi galwadau drwy'r swyddogaeth hunanwasanaeth TGCh ar y bwrdd gwaith neu fel arall drwy'r ddolen ganlynol - Hunanwasanaeth Corfforaethol TGCh CSC.

Diffyg ymwybyddiaeth o ble mae cyfleusterau hybrid

Bydd lansio'r system archebu 'Amserlennydd Adnoddau' newydd yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Bydd y system yn dangos:

  • Cynlluniau llawr o bob adeilad i arwain staff mewn adeiladau anghyfarwydd,
  • Capasiti ystafell.
  • Cyfleusterau sydd ar gael ym mhob ystafell.

Bydd labeli clir ar ddrysau pob ystafell gyfarfod gorfforaethol hefyd.

Gellir gweld gwybodaeth fanwl am sut i ddefnyddio'r system archebu 'Amserlennydd Adnoddau' newydd yma: Ffordd newydd o archebu ystafell gyfarfod.

Argaeledd ystafelloedd a phryderon ynghylch archebu

Bydd lansio'r system archebu 'Amserlennydd Adnoddau' newydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Bydd y systemau yn dangos:

Cynlluniau llawr o bob adeilad i arwain staff mewn adeiladau anghyfarwydd,

  • Capasiti ystafell
  • Cyfleusterau sydd ar gael ym mhob ystafell.
  • Bydd labeli clir ar ddrysau pob ystafell gyfarfod gorfforaethol hefyd.

Gellir gweld gwybodaeth fanwl am sut i ddefnyddio'r system archebu 'Occupeye' newydd yma: Ffordd newydd o archebu ystafell gyfarfod.

Diffyg sgiliau i ddefnyddio’r dechnoleg

Yn ddiweddar, mae TGCh wedi llunio canllaw ar ddefnyddio offer gweithio hybrid, a fydd yn rhoi sylw i ddefnyddio systemau hybrid. Offer Ystafell Gyfarfod Hybrid.

Mae gennym hefyd raglen sgiliau digidol barhaus sydd wedi'i llunio i gefnogi staff sy'n defnyddio'u dyfeisiau o bell. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fynychu sesiynau hyfforddi megis Microsoft Teams a rhaglenni Microsoft 365 eraill i alluogi staff i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i gydweithio'n effeithiol. Mae gennym dudalen datblygu eich sgiliau digidol ar y fewnrwyd sy'n benodol ar gyfer adnoddau a chyrsiau sgiliau digidol am ddim y gall staff gael mynediad atynt i ddatblygu eu sgiliau o bell.

Rydym wrthi'n gweithredu rhaglen Mentor Digidol sy'n ceisio helpu staff i gael mynediad at gymorth gan gyfoedion gyda'u dyfeisiau. Mae Mentoriaid Digidol yn helpu i ddatblygu hyder a sgiliau staff o ran defnyddio technoleg ddigidol. Mae Mentoriaid Digidol yn ysbrydoli staff i ddefnyddio technoleg ddigidol a'u cefnogi trwy eu camau cyntaf yn defnyddio eu dyfeisiau a'r rhyngrwyd.

Cysylltedd a materion sain

Argymhellir bod staff yn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r offer a ddefnyddir cyn unrhyw gyfarfodydd fel y gellir codi unrhyw ymholiadau drwy'r ddesg gymorth TGCh a'u datrys cyn unrhyw gyfarfod.

O ganlyniad i'ch adborth, rydym wedi adnewyddu ein canllawiau a'n hadnoddau i'ch cefnogi i weithio mewn tîm hybrid neu reoli tîm hybrid. Gallwch ddysgu mwy drwy fynd i'n tudalennau Gweithio Hybrid.