Gweithio i ni
Diweddarwyd y dudalen: 22/08/2024
Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch a ymatebodd i'r arolwg eich bod yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac y byddech yn ein hargymell fel cyflogwr. Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch hefyd fod cydraddoldeb yn y gweithle yn cael ei gefnogi, gan ganiatáu i chi fod yn chi eich hun a siarad yn agored.
Dywedodd llawer ohonoch eich bod yn teimlo bod eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi a bod eich llesiant yn bwysig i'r Cyngor. A dywedodd llawer ohonoch eich bod yn cael eich annog i wneud awgrymiadau ac i herio'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud. Er bod y mwyafrif ohonoch a ymatebodd yn cytuno bod y Cyngor yn gwrando ar eich barn a bod eich barn yn cael ei defnyddio i wella pethau, y datganiad hwn gafodd y sgôr ail isaf ar y cyd o blith yr holl ddatganiadau.
Yn seiliedig ar eich cyfraniad gwerthfawr, gwnaethom ymrwymo i gymryd y camau canlynol i wella eich profiad o weithio i ni ymhellach:
Mae Ffrwd Gwaith Cwsmeriaid a Digidol y Rhaglen Drawsnewid wedi bod yn gweithio i ad-drefnu ac awtomeiddio nifer o brosesau papur, megis prosesu post sy'n mynd allan, taflenni amser, anfonebau ac argraffu dogfennau i'w llofnodi.
- Llofnodion Electronig a Phost Hybrid: Mae'r atebion hyn yn cael eu cyflwyno ar draws nifer o wasanaethau ac maent eisoes yn darparu ffordd fwy cost-effeithiol a chynhyrchiol o weithio ynghyd â chefnogi staff i weithio mewn ffordd fwy hybrid. Mae defnyddio gwasanaeth post hybrid yn rhoi cyfleoedd i wasanaethau wneud arbedion sylweddol o ran postio, argraffu a chynhyrchu. Mae cynnydd hefyd yn parhau i gael ei wneud o ran awtomeiddio taflenni amser papur.
- Technoleg Roboteg: Mae'r dechnoleg hon, a ddefnyddir bellach ar gyfer rhai o'n prosesau Adnoddau Dynol ac a gyflwynwyd yn ddiweddar i gefnogi prosesau Cinio Ysgol Am Ddim a Grantiau Hanfodol Ysgol, yn hybu cynhyrchiant ac yn cwtogi ar waith swyddogion. Mae rheolwyr a chwsmeriaid hefyd yn gweld manteision sylweddol wrth i geisiadau gael eu prosesu ar unwaith.
- Cynlluniau at y Dyfodol: Rydym yn archwilio mwy o brosesau i awtomeiddio, ac, yr hydref hwn byddwn yn dechrau peilota Microsoft Co-Pilot, cynorthwyydd sgwrsio newydd a all eich helpu i weithio'n fwy effeithlon gydag apiau Microsoft fel Outlook, Word, Excel, PowerPoint a SharePoint.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith y Tîm Trawsnewid drwy fynd i'n tudalennau Trawsnewid pwrpasol sydd ar y fewnrwyd.
- Newyddion Staff: Rydym wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd Trawsnewid trwy Newyddion Staff a thudalennau gwe ein Rhaglen.
- Sioeau Teithiol Staff: Dros y 6 mis diwethaf, mae'r digwyddiadau hyn wedi galluogi staff rheng flaen i rannu syniadau ar gyfer gweithio'n fwy craff. Mae mwy o sioeau teithiol i ddod yn ddiweddarach yn 2024.
- Dewch i gymryd rhan: Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o ymgysylltu â thimau rheng flaen. Os ydych am gyfrannu, cysylltwch â'n Tîm Trawsnewid drwy ein cyfleuster Dweud eich Dweud.
- Arweinwyr y Dyfodol: Mae’r Rhaglen Drawsnewid bellach yn cyd-fynd â Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol y Cyngor, lle mae 10 Arweinydd y Dyfodol wedi gweithio ar brosiectau trawsnewid fel rhan o’u datblygiad.
- Ein Graddedigion: Mae cyfranogwyr Rhaglen Lleoli Graddedigion y Cyngor hefyd yn cael cyfle i weithio gyda'r Tîm Trawsnewid.
- Cymryd rhan: Bellach, gall unrhyw aelod o staff gymryd rhan mewn prosiect trawsnewid neu ei arwain. Bydd hyn yn cael ei ffurfioli mewn rhaglen datblygu corfforaethol cyn hir.
Gallwch ddysgu mwy drwy fynd i'n tudalennau Trawsnewid ar y fewnrwyd.
Mae ein Cydgysylltwyr Iechyd a Llesiant wedi bod yn brysur yn cefnogi eich llesiant yn y gweithle:
- Cyfarfodydd ac Erthyglau Wythnosol: Byddwch wedi gweld eu herthyglau yn y Llythyr Newyddion staff wythnosol a bydd rhai ohonoch wedi cwrdd â nhw yn eich cyfarfodydd adrannol a'ch cynadleddau.
- Digwyddiadau ac Adnoddau: O ffeiriau iechyd i sesiynau e-sgwrs, mae'r tîm wedi trefnu digwyddiadau a lwyddodd i ddenu llawer o bobl ac wedi diweddaru'r fewnrwyd ag adnoddau gwerthfawr.
- Rheoli Straen a Chymorth wedi'i Deilwra: Gan fynychu gweithdai a datblygu ymyriadau penodol, maent wedi bod yn gweithio'n agos gydag Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol i fynd i'r afael ag absenoldeb salwch a hyrwyddo llesiant cadarnhaol.
- Cefnogi Absenoldeb Salwch: Gan weithio’n agos gydag Adnoddau Dynol a’r timau Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, rydym yn edrych ar achosion sylfaenol absenoldeb salwch. Ein nod yw lleihau absenoldeb salwch drwy hyrwyddo llesiant cadarnhaol yn gyffredinol.
- Hyrwyddwyr Llesiant: Mae gennym hefyd hyrwyddwyr hyfforddedig ym mhob adran sy'n helpu i ledaenu negeseuon pwysig o ran iechyd a llesiant yn ogystal â chefnogi'r gwaith o drefnu digwyddiadau lleol.
- Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl: Mae staff hyfforddedig sy'n darparu cefnogaeth gyfrinachol i gydweithwyr hefyd ar gael nawr ym mhob adran.
Gallwch ddysgu mwy drwy fynd i'n tudalennau Iechyd a Llesiant ar y fewnrwyd.
- Academi Arweinyddiaeth: Mae’r Academi newydd hon, a lansiwyd yn ddiweddar, wedi’i chynllunio ar gyfer darpar arweinwyr, arweinwyr sy’n dod i’r amlwg ac arweinwyr sy’n datblygu, ac mae wedi cael adborth gwych gan ein carfan gyntaf. Rydyn bellach yn recriwtio ar gyfer ail garfan pob grŵp. A ydych am ddysgu mwy? Ewch i'n tudalennau Dysgu a Datblygu i weld yr holl fanylion.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle diogel ac iachus i bawb. Trwy gyfres o fentrau rhagweithiol, rydym yn grymuso staff, yn gwella mesurau diogelwch, ac yn hyrwyddo llesiant cyffredinol. Dyma gipolwg ar yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud ar draws y Cyngor i sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol i bawb:
- Hyfforddiant Asesu Risg: Hyfforddi staff allweddol i ganfod a mynd i'r afael â pheryglon yn y gweithle.
- Archwiliadau Diogelwch: Gwiriadau arferol gan Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch i gadw eich amgylcheddau gwaith yn ddiogel.
- Rhoi gwybod am Ddigwyddiadau: System symlach ar gyfer adrodd am bryderon diogelwch, gan ein helpu i weithredu'n gyflym.
- Asesiadau Sgrin Arddangos: Addasiadau gweithfan wedi'u teilwra i atal straen ac anafiadau.
- Adnoddau Iechyd Meddwl: Mynediad at gymorth llesiant, gweithdai rheoli straen, a chymorth cyntaf iechyd meddwl.
- Grwpiau Iechyd a Diogelwch: Cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr a staff i adolygu a gwella gweithdrefnau diogelwch.
- Driliau Parodrwydd am Argyfwng: Driliau rheolaidd, gan gynnwys driliau tân, gweithdrefnau gwacáu, a hyfforddiant cymorth cyntaf, i sicrhau bod pawb yn barod ar gyfer argyfyngau.
- Arolygu Iechyd: Monitro iechyd staff, yn enwedig mewn meysydd risg uchel, i ganfod arwyddion cynnar salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.
- Cydweithio: Gweithio'n agos gyda'n gwasanaeth iechyd galwedigaethol i sicrhau ymyriadau cymorth personol i staff â phryderon iechyd penodol.
- Hyrwyddo Arferion Diogel: Rhoi sylw craff i ddiogelwch drwy gyfathrebu a chynnal hyfforddiant rheolaidd.
Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn dangos ein hymroddiad i sicrhau gweithle diogel ac iachus i bawb. Gallwch ddysgu mwy drwy fynd i'n tudalennau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol ar y fewnrwyd.
Llais Staff
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff